Ewch i’r prif gynnwys

Canser Bioleg a Therapiwteg (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd gan y graddedigion o’r cwrs hwn hyfforddiant eang a thrylwyr yn canolbwyntio ar ganser fydd yn eu gwneud yn ymgeiswyr hygred i ddechrau gyrfa neu symud ymlaen yn eu gyrfa yn y sector iechyd neu sefydliadau ymchwil.

certificate

Wedi’i ddatblygu gan ymchwilwyr a chlinigwyr blaenllaw

Dyma gwrs a ddatblygwyd ar y cyd ag ymchwilwyr, academyddion a chlinigwyr. Mae’n cael ei addysgu gan ymchwilwyr canser academaidd blaenllaw a darlithwyr allweddol, a bydd gweithdai astudio’n cael eu cynnal gan oncolegwyr a chlinigwyr canser.

molecule

Cwrs eang ei gwmpas

Dyma gwrs eang ei gwmpas sy'n ymdrin â bioleg celloedd canser moleciwlaidd sylfaenol hyd at ymchwil drosiadol a therapiwteg.

rosette

Grwpiau ymchwil canser a gydnabyddir yn rhyngwladol

Dyma gyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil yn un o'r grwpiau ymchwil canser a gydnabyddir yn rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd.

people

First rate academic support

Close academic support from an experienced personal tutor.

academic-school

Study at one of the UK’s major teaching and research university

Opportunity to study at one of the UK’s major teaching and research universities.

Diben y cwrs MSc amser llawn hwn sy’n para blwyddyn yw rhoi lefel uwch o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i chi ym maes Bioleg a Therapiwteg Canser, sy’n prysur ddatblygu.

Ein nod yw darparu hyfforddiant eang a manwl sy'n canolbwyntio ar ganser i chi a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd hynod ddeniadol i ddechrau neu barhau â gyrfa yn y sector gofal iechyd a sefydliadau ymchwil y sector cyhoeddus/preifat.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn elwa ar addysgu uwch ar yr agweddau cellog o fioleg canser, ynghyd â mecanweithiau moleciwlaidd sy’n sail i ddatblygiad a chynnydd canser. Drwy'r rhaglen hon byddwch hefyd yn cael hyfforddiant manwl mewn therapiwteg canser, gan gwmpasu biofarcwyr a diagnosis, targedau therapiwtig, darganfod cyffuriau a threialon clinigol a chemotherapi/radiotherapi.

Mae’r cwrs yn cynnig hyfforddiant sgiliau ymchwil a phrosiect ymchwil mewn labordy sy’n eich helpu i ddatblygu rhagdybiaethau ymchwil a gwerthuso dulliau trosiannol yn feirniadol o ran datblygiad therapiwteg canser cyfoes.

Felly, p’un a ydych yn ymbaratoi ar gyfer ymchwil ddoethurol neu ennill cymhwyster uwch, bydd y rhaglen hon i ôl-raddedigion yn rhoi cyfuniad cytbwys i chi o theori ac ymarfer yn ôl natur eich anghenion ac yn eich paratoi yn dda ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Profile image of Lauren
“This truly integrated course delves deeper into the science behind cancer and has also given me the opportunity to see the disease and its treatment from the clinical side as well. Whether you’re a Pharmacist or Biomedic or Medic, you’ll find something in this course that you’ll enjoy and can relate to. And, like me, you’ll be in better stead for your future too.”
Lauren, MSc Cancer Biology and Therapeutics Student

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Rydym ar flaen y gad o ran datblygu sgiliau clinigol, ac mae gennym enw da rhyngwladol am ein haddysgu a’n hymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6419
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel gwyddorau biolegol, cemeg, gofal iechyd, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.  

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs amser llawn dros un flwyddyn academaidd. Byddwch yn astudio 180 o gredydau: 120 o gredydau drwy ddeunydd a addysgir, ac yna prosiect am 60 o gredydau.

Camau academaidd

Mae'r MSc amser llawn yn para am gyfanswm o 50 wythnos dros un flwyddyn academaidd ac mae'n cynnwys dau ""gam"" - un cam a addysgir a phrosiect ymchwil.

Cam 1

Mae'r cam hwn yn cynnwys dau fodiwl 30 credyd a thri modiwl 20 credyd sy'n rhoi cyfanswm o 120 credyd ar Lefel 7 yng ngham 1.

Cam 2

Prosiect ymchwil y rhaglen yw cam 2, ac mae’n para am dri mis. Byddwch yn cwblhau cyfnod o ymchwil mewn labordy i gynhyrchu traethawd hir gwerth 60 credyd ar lefel 7.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Bioleg Cellog a Moleciwlaidd CanserPHT80130 credydau
Oncoleg Drosiadol a TherapeuticsPHT80230 credydau
Sgiliau Ymchwil AcademaiddPHT80320 credydau
Methodoleg YmchwilPHT80420 credydau
Dadansoddi Data a BiowybodegPHT80620 credydau
Prosiect YmchwilPHT80560 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd y rhaglen yn darparu addysgu uwch ar yr agweddau cellog o fioleg canser, ynghyd â mecanweithiau moleciwlaidd sy’n sail i ddatblygiad a chynnydd canser. Bydd hyfforddiant manwl yn cael ei ddarparu ym maes therapiwteg canser, sy'n cwmpasu biofarcwyr a diagnosis, targedau therapiwtig, darganfod cyffuriau a threialon clinigol a chemotherapi/radiotherapi, yn ogystal â datblygu sgiliau ymchwil damcaniaethol ac ymarferol y myfyriwr.

Sut y caf fy asesu?

Bydd yr asesu ar gyfer y cwrs yn cynnwys cyfuniad o arholiadau, traethodau ysgrifenedig, posteri, gwaith cwrs mewn labordy ac astudiaethau achos.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, dylech fod wedi datblygu sgiliau a galluoedd y gallwch eu defnyddio mewn unrhyw leoliad proffesiynol a gwella eich cyflogadwyedd yn y dyfodol.

Yn ogystal â dealltwriaeth gysyniadol well o wybodaeth, ystyriaethau a dulliau cyfredol, byddwch yn cael y cyfle i ymarfer a datblygu galluoedd mewn dadansoddi beirniadol, mewn cymhwyso meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol. Dylai eich astudiaethau hefyd eich helpu i ddatblygu eich gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau drwy eich galluogi i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol a chyfleu cysyniadau pwysig i gydweithwyr ac eraill. Drwy'r elfennau sy'n canolbwyntio ar ymchwil, byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu a gwella sgiliau mewn adolygu llenyddiaeth, gwerthuso beirniadol, dylunio ymchwil, methodolegau ymchwil, casglu data, dadansoddi data ac egwyddorion ymchwil.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £27,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Ar ôl i chi raddio o’r cwrs hwn, byddwch wedi cael hyfforddiant eang a manwl sy'n canolbwyntio ar ganser i chi a allai eich gwneud yn ymgeisydd hynod ddeniadol i ddechrau neu barhau â gyrfa yn y sector gofal iechyd a sefydliadau ymchwil.

Mae cyfleoedd cyflogaeth posibl yn cynnwys astudio am PhD, dod yn swyddog gwyddoniaeth labordy meddygol neu dechnegydd ymchwil, cydlynydd treialon clinigol, awdur meddygol neu swyddog cyswllt gwyddonol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Medicine, Healthcare sciences, Biomedical sciences, Pharmacology, Pharmacy


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.