Dalgylchoedd integredig ar gyfer cynaladwyedd amgylcheddol
Defnyddio dull seiliedig ar ddalgylchoedd i ddeall cadernid ecosystemau a gwasanaethau ecosystem.
Cyswllt allweddol

Yr Athro Isabelle Durance
Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr
- durance@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)7800 774491 / +44 (0)29 2087 4484

Yr Athro Max Munday
Director of Welsh Economy Research Unit
- mundaymc@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5089
Gwybodaeth
Mae heriau pendant ynghlwm wrth reoli adnoddau dŵr ar gyfer dibenion gwahanol ecosystemau, a elwir yn wasanaethau ecosystemau. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys dŵr glân at ddefnydd pobl, pysgodfeydd cynaliadwy a rheoli llifogydd yn naturiol. Mae tystiolaeth gyfredol yn dangos bod y cyfraddau datblygu cyfredol yn diraddio ecosystemau dŵr croyw yn gyflymach nag unrhyw fath arall o ecosystem.
Un testun dadl yw ar ba lefel ddaearyddol y gwneir y penderfyniadau mwyaf effeithiol ynghylch ein hadnoddau dŵr. Mae'r llywodraeth genedlaethol a llywodraethau datganoledig yn y Deyrnas Unedig yn dod i gredu mwyfwy y dylid rhoi trefniadau ar waith i wneud penderfyniadau â ffocws mwy lleol, derbyn cyfrifoldeb a gweithredu'n strategol ar lefel dalgylchoedd dŵr unigol er mwyn sicrhau bod ein hamgylchedd dŵr yn gwella. Mae hwn yn gam tuag at ddull seiliedig ar ddalgylchoedd.
Er bod rheolaeth a chamau gweithredu cydlynol ar raddfa dalgylch yn cynnig manteision, mae yna heriau pwysig hefyd o ran y ffordd orau o ddatblygu ymatebion cydlynol a chamau gweithredu cynhwysol gan randdeiliaid sy'n defnyddio adnoddau dŵr prin ac yn cael budd ohonynt, a'r sefydliadau rheoleiddio sy'n gyfrifol am gydbwyso'r pwysau ar yr adnoddau hynny.
O dan y thema hon, mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws ystod o raddfeydd a dalgylchoedd prawf i greu'r sylfaen o dystiolaeth y mae angen amdani er mwyn gwneud penderfyniadau.

Systemau dalgylch
Rhagor o wybodaeth am rai o'r dalgylchoedd y mae ein hymchwilwyr yn gweithio arnynt yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac ymhellach i ffwrdd:
- Arsyllfa Llyn Brianne
- Cymoedd De Cymru: Afonydd Gwy, Wysg a Thaf
- Afon Hafren
- Afon San Pedro, Unol Daleithiau America
- Astudiaethau traws-ddalgylch â chronfeydd data mawr yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang
Prosiectau PhD
Sbardunau amgylcheddol ar gyfer cynhyrchu Geosmin mewn ecosystemau dŵr croyw
- Myfyriwr: Annalise Hooper
- Goruchwyliwr: Rupert Perkins
- Partner: Dŵr Cymru Welsh Water
Diagnosio'r rhesymau dros ddirywiad bioamrywiaeth mewn afonydd gwledig
- Myfyriwr: Emma Pharaoh
- Goruchwyliwr: Ian Vaughan
- Partneriaid: Environment Agency, Natural Resources Wales
Pontio ecoleg a thechnoleg: defnyddio gwyddoniaeth dinasyddion a deallusrwydd artiffisial i olrhain iechyd pysgod
- Myfyriwr: Agnethe Olsen
- Goruchwyliwr: Sarah Perkins
- Partner: The Wye and Usk Foundation
Dylanwadau amgylcheddol hirdymor ar ecoleg a chadwraeth adar afonydd
- Myfyriwr: Rachel Shepherd
- Goruchwyliwr: Steve Ormerod
- Partner: River Wye Preservation Trust
Dynameg nofio pysgod ac ymddygiad yng nghyffiniau sgrîn gwahardd pysgod
- Myfyriwr: Guglielmo Sonnino-Sorisio
- Goruchwyliwr: Catherine Wilson
- Partner: Environmental Agency
Datblygu modelau mathemategol newydd i ddeall yn well lledaeniad dynameg heintiau Gyrodactylus ar draws tair poblogaeth wahanol o bysgod a thri math gwahanol o barasitiaid
- Myfyriwr: Clement Twumasi
- Goruchwylwyr: Owen Jones, Jo Cable
Hen gynlluniau
Aelodau'r thema
Canolfan UKRI, a ariannir gan NERC, ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Biowyddorau Dŵr Croyw a Chynaliadwyedd.