Ewch i’r prif gynnwys

MARS

Rheoli ecosystemau dyfrol ac adnoddau dŵr o dan straen lluosog (MARS).

Mae iechyd dyfroedd croyw Ewropeaidd yn cael eu heffeithio gan gymysgedd cymhleth o straenwyr sy'n deillio o ddefnydd tir trefol ac amaethyddol, cynhyrchu pŵer dŵr a newid yn yr hinsawdd. Nod prosiect MARS yw ymchwilio i sut mae'r straenwyr lluosog hyn yn effeithio ar afonydd, llynnoedd ac aberoedd.

Rydym yn defnyddio dull amlochrog i asesu effeithiau newidiadau hydrolegol a thymheredd, digwyddiadau hinsawdd eithafol a straen maetholion. Mae setiau data Ewrop gyfan yn darparu'r sylfaen ar gyfer asesu'r perthnasoedd rhwng dwyster straen, statws a darpariaeth gwasanaeth. Nod y prosiect yw cefnogi gweithrediad nifer o Gyfarwyddebau Ewropeaidd; y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, y Gyfarwyddeb Llifogydd a’r Glasbrint i Ddiogelu Adnoddau Dŵr Ewrop.

Tîm prosiect

Yr Athro Steve Ormerod

Yr Athro Steve Ormerod

Athro

Email
ormerod@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5871
Yr Athro Isabelle Durance

Yr Athro Isabelle Durance

Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr

Email
durance@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)7800 774491 / +44 (0)29 2087 4484

Partneriaid

Dewch o hyd i'r rhestr lawn o bartneriaid ar wefan prosiect MARS.

Cyhoeddiadau allweddol

Dewch o hyd i'r rhestr lawn o gyhoeddiadau ar wefan prosiect MARS.