Ewch i’r prif gynnwys

Gwydnwch i Drychinebau sy’n dilyn daeargryn, China

Rydym yn datblygu dealltwriaeth newydd o'r rheolyddion a'r prosesau corfforol a chymdeithasol sy'n effeithio ar y broses adfer ar ôl daeargrynfeydd mawr ac yn hyrwyddo gwytnwch.

Roedd Daeargryn Wenchuan 2008 yn sioc seismig eithriadol o fawr, gan achosi tua 80,000 o farwolaethau. Sbardunwyd nifer fawr o dirlithriadau a llifogydd gan y daeargryn, sy'n dal i effeithio ar yr ardal. Mae gennym ddiddordeb mewn deall sut mae cymunedau'n "dod dros" trychinebau mawr fel hyn, a sut y gall y broses adfer hon leddfu tlodi, lleihau anghydraddoldeb a chefnogi datblygiad economaidd.

Mae ein gwaith wedi dangos dulliau ymateb amrywiol i’r adferiad sy’n digwydd ar ôl daeargryn. Mae ymatebion yn cael eu gyrru gan ffactorau ffisegol ac economaidd-gymdeithasol. Rydym yn parhau i weithio gyda chymunedau a sefydliadau llywodraethol i ddatblygu modelau gwell ar gyfer adferiad yn y rhanbarth hwn a rhanbarthau mynyddig uchel eraill.

Mae’r gwaith hwn wedi datblygu o gydweithrediad a ariennir gan NSFC, Cronfa Newton, NERC ac ESRC, rhwng y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy a Labordy Gwladwriaethol Prifysgol Dechnoleg Chengdu, a REACH yw’r enw arno. Roedd prosiect REACH yn gydweithrediad rhyng-ddisgyblaethol rhwng gwyddonwyr cymdeithasol, daearyddwyr dynol, daearegwyr a pheirianwyr sy’n ceisio deall gwydnwch a gwellhad cymunedau sy’n dioddef peryglon tirlithriad cyson a achosir gan ddaeargrynfeydd mawr.

Arweinydd y prosiect

Dr T.C. Hales

Dr T.C. Hales

Cyfarwyddwr, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy a Darllenydd

Email
halest@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4329

Tîm y Prosiect

Dr Yi Gong

Dr Yi Gong

Research Fellow

Email
gongy2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 0955
Dr Brian MacGillivray

Dr Brian MacGillivray

Research Fellow

Email
macgillivraybh@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 6132
Dr Robert Parker

Dr Robert Parker

Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

Email
parkerr5@caerdydd.ac.uk