Ewch i’r prif gynnwys

Deall sut i dyfu

Roedd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ar agor rhwng 2010 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y Sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.

Cryfhau sgiliau cynhyrchu bwyd sy’n deillio o blanhigion.

Mae gwybodaeth a sgiliau yn hanfodol wrth dyfu a chynhyrchu bwyd. Felly, mae sicrhau y byddant ar gael yn y dyfodol yn hanfodol ar gyfer systemau bwyd-amaeth gwydn.

Mae’r prosiect hwn yn ystyried sut i fodloni gofynion gwybodaeth ar gyfer cadwyni cyflenwi bwyd y dyfodol, gan ganolbwyntio ar achos cynhyrchu garddwriaethol. Bydd yn tynnu ar brofiadau rhyngwladol ac arbenigedd rhanddeiliaid i lywio strategaethau er mwyn gwella diogelwch bwyd yng Nghymru a’r tu hwnt.

Bydd canolbwyntio ar gynhyrchu garddwriaethol - tyfu ffrwythau a llysiau ar raddfa fawr - yn datgelu sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu drwy systemau bwyd-amaeth. Bydd hyn yn nodweddu risgiau prinder neu golli sgiliau hanfodol sy’n bygwth gwydnwch hirdymor, yng nghyd-destun diogelwch bwyd byd-eang. Bydd cymhariaeth ryngwladol yn llywio dadansoddiad o’r cyd-destun yng Nghymru i ddatgelu’r ffactorau llwyddiant sydd eu hangen i wneud newid sylweddol yn y ddarpariaeth sgiliau.

Nod yr ymchwil yw gwella gwydnwch gwybodaeth a sgiliau systemau bwyd-amaeth drwy lywio polisïau, theorïau ac arferion. Bydd yn cyfrannu at nodweddu sgiliau sy’n cael eu defnyddio mewn arferion cynhyrchu bwyd cyfoes. Y tu hwnt i elfennau penodol bwyd-amaeth, mae hyn yn mynd i’r afael â sut y mae gwaith diwydiannol yn cael ei ystyried yn draddodiadol fel gwaith sgiliau lefel isel. Drwy ddefnyddio safbwynt rhwydweithiol ynghylch sgiliau, bydd yn ystyried sut mae deunyddiau, gan gynnwys planhigion, yn effeithio ar lif gwybodaeth.

Mae'r prosiect yn dechrau ym mis Hydref 2018 dros gyfnod o dair blynedd. Caiff ei ariannu’n rhannol gan Brifysgol Caerdydd a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Horticulture in the UK - Characterising Knowledge Ecosystems

Research Report 2022

Horticulture in the UK - Resilience to and beyond pandemic

Research Report 2022

Beth fydd yn gwella ymwrthedd?

Crynodeb ymchwil

Bilingual research findings summary

Research report

Pa heriau sgiliau y mae tyfwyr yn eu hwynebu?

Crynodeb ymchwil

Keeping and improving seasonal workers

A case study on EC Drummond, a family farm in Herefordshire.

Developing the next generation of experts

A case study looking at G’s Fresh, one of Europe’s largest fresh produce companies.

Building and owning as a team

A case study looking at Riverford Organic Farmers' efforts to make workers feel part of the business.

Working Paper 1 The state of horticulture in the UK

Mae’r briff hwn yn canolbwyntio ar y rheiny sy’n tyfu ffrwythau a llysiau - y sector fwytadwy neu gynhyrchu. Mae’n crynhoi’r data mwyaf diweddar sydd ar gael ar gyflwr y sector, gan gyflwyno darlun o’i gyfraniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Knowing to Grow: Increasing the resilience of plant-centred food production skills

Report of Workshop One - 4 June 2019.

The state of skills for UK horticulture

This briefing focuses on the horticultural workforce, summarising the best available data on work and skills in the sector, including reported shortages.

What is the problem with horticultural skills in the UK?

The nature of the challenge.

What will solve the problem with horticultural skills in the UK?

Strategies for addressing the challenge.

Tîm y prosiect

Arweinydd y prosiect yw Dr Hannah Pitt, Cymrawd Ymchwil Sêr Cymru II yn y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd. Mentoriaid y prosiect yw’r Athro Terry Marsden a’r Athro Gillian Bristow

Dr Hannah Pitt

Dr Hannah Pitt

Lecturer in Environmental Geography

Email
pitth2@caerdydd.ac.uk
Telephone
(0) 29 2087 9632
Yr Athro Terry Marsden

Yr Athro Terry Marsden

Professor of Environmental Policy and Planning

Email
marsdentk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5736
Yr Athro Gillian Bristow

Yr Athro Gillian Bristow

Deon Ymchwil yn y Coleg Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Daearyddiaeth Economaidd

Email
bristowg1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5388