Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Roedd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ar agor rhwng 2010 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y Sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.

Rydym yn cynnig sylfaen newydd ar gyfer y maes ac yn gwthio ffiniau gwyddoniaeth ac ymchwil cynaliadwyedd draddodiadol. Rydym yn dod o hyd i atebion newydd i heriau adnoddau’n prinhau a newid hinsawdd.

Mae’r Sefydliad yn gweithredu ar draws pob un o dri Choleg Prifysgol Caerdydd. Gan ddod â dros 100 o ymchwilwyr ynghyd, rydym yn gweithio i ganfod atebion i broblemau go iawn, yn y byd go iawn. Gan weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol lleol, awdurdodau lleol a phartneriaid academaidd, rydym yn cefnogi arloesi methodolegol ar gyfer ymchwilio i greu mannau cynaliadwy.

Ein gwaith presennol

Mae ein proffil ymchwil unigryw a hawdd ei adnabod yn cael ei gydnabod yn lleol ac yn fyd-eang. Rydym yn gweithio i ddatblygu ymatebion ac atebion ar sail lleoedd i faterion gan gynnwys newid hinsawdd ac adnoddau’n prinhau - mae hyn yn cael ei wneud ar ofynion penodol mannau unigol. Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyng-gysylltiadau cymhleth a dynamig rhwng ecosystemau, y gymdeithas a’r economi ar wahanol raddfeydd gofodol.

Gan gymryd rhan mewn ymchwil integredig sy’n cael ei arwain gan theori ac sy’n seiliedig ar le, rydym yn gweithredu fel canolfan ar gyfer sawl disgyblaeth a sefydliad academaidd.  Rydym yn archwilio’r rhyng-ddibyniaethau a’r cyfaddawdu rhwng sectorau adnoddau allweddol, fel ynni, bwyd, dŵr a gwastraff, a chyfuno buddion cymunedau, busnes a chymunedau ar sail lleoedd, er mwyn cael atebion a all symud trawsnewidiadau cynaliadwy yn eu blaenau.

communities

Cymunedau gwledig-trefol cynaliadwy

Mae sawl agwedd sylfaenol ar greu lleoedd cynaliadwy, gan gynnwys datblygu systemau mwy cynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth, cynhyrchu a dosbarthu bwyd, rheoli ynni a gwastraff a darparu tai, yn dibynnu ar ble a sut mae pobl yn byw.

Kinnabatangan

Systemau rhyngweithiol sy’n cyd-esblygu

Mae’r rhaglen hon yn astudio’r berthynas rhwng nodweddion systemau a chynaliadwyedd ar draws gwahanol gyfraddau gofod ac amser. Mae’n ystyried sut mae systemau ar sail lleoedd yn cynnal eu hunain, neu’n destun newid dan amgylchiadau amrywiol.

commuting

Iechyd, seilwaith a lles

Mae lle yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, lles ac anghydraddoldebau ymysg y boblogaeth.

Field

Bwyd, tir a diogelwch

Gan ailddiffinio’r ‘hafaliad bwyd newydd’, mae’r rhaglen hon yn gweithio ar ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl am ‘ryngweithiadau bwyd ar sail lle’ sy’n ystyried y rhyngweithiadau yn y system gyfan, gan ddechrau gyda bioamrywiaeth a symud trwy faes cynhyrchu a defnyddio.

Power station

Risg, lle, hunaniaeth a chynaliadwyedd

Mae risg yn rhan gynyddol ganolog o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd a meysydd bywyd cyhoeddus a diwydiannol - efallai mai dyma’r brif safbwynt y mae gwyddonwyr, diwydianwyr, gwneuthurwyr polisi a’r cyhoedd yn ei ddefnyddio i nodweddu a dadlau ynghylch materion yn ymwneud â chynaliadwyedd, o newid hinsawdd i golli bioamrywiaeth.

kpcityreg

Dinasoedd a lleoedd cynaliadwy

Mae’r rhaglen yn darparu canolfan annibynnol i helpu i fynd i’r afael â materion a phryderon trefol penodol. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd ymchwil trawsffiniol i gysylltu â gwaith mewn dinasoedd yn y dyfodol o ran creu lleoedd cynaliadwy. Mae’r rhaglen yn ymgorffori’r gweithgareddau a wneir ar draws themâu sy’n integreiddio â’i gilydd yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.