Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Diben y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy yw gwneud cysylltiadau newydd mewn ymchwil ynghylch cynaliadwyedd. Mae'n ceisio dod o hyd i atebion pragmatig lleol, sydd wedi'u seilio ar bolisïau, i ddinasoedd unigol, rhanbarthau a chenhedloedd.

Mae'r fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae canlyniadau newid yn yr hinsawdd a dirywiad adnoddau yn ddi-droi'n-ôl ac yn cael eu teimlo ledled y byd. A hynny mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol leoedd. Ac eto i gyd, cyndyn fuon ni i greu ymatebion ac atebion arloesol sy'n cymryd i ystyriaeth y perthnasoedd unigryw rhwng prosesau economaidd, ecolegol a chymdeithasol ar y lefel leol.

Ein nod yw mynd i’r afael â heriau datblygu cynaliadwy planedol yng nghyd-destun ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n seiliedig ar leoedd. Rydym yn gweithio i nodi, deall a chynnig atebion er mwyn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol brys a chymhleth sy’n ymwneud â chynaliadwyedd byd-eang. Caiff hyn ei wneud trwy ymchwil gydweithredol o fewn ac ar draws lleoliadau penodol, ac wedi'u trefnu o amgylch ein themâu ymchwil.

Trees for Life's Glen Affric

Ymchwil

Ceisiodd ymchwil y Sefydliad ddeall sut rydym yn adeiladu cynaliadwyedd i systemau cymdeithasol, ecolegol a thirwedd cymhleth.