Ewch i’r prif gynnwys

Ein Gwaddol

Mae adroddiad cloi'r Sefydliad, Ein Hetifeddiaeth, yn tynnu sylw at y gwaith a gynhaliwyd drwy'r Sefydliad, a ddaeth ag ystod eang o ddisgyblaethau academaidd ynghyd.

Yn ei 11 mlynedd o weithredu, mae'r Sefydliad wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol ym maes datblygu cynaliadwy, gan gynnig atebion i broblemau cynaliadwyedd a'r amgylchedd.

Arloesodd y Sefydliad safbwynt unigryw sy'n seiliedig ar fannau, gan ei ddefnyddio fel sail ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol rhwng partneriaid a'r gymuned ehangach. Mae'r dull hwn wedi sicrhau atebion parhaol i'r cwestiwn sut i sicrhau lleoedd a chymunedau mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn gadael etifeddiaeth o fentrau ymarferol, prosiectau ymchwil, ymyriadau polisi a phartneriaethau a fydd yn parhau y tu hwnt i oes y Sefydliad.

Ein Gwaddol

Mae Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd wedi lansio ei adroddiad etifeddiaeth, gan fanylu ar ei effaith a'i gyflawniadau ers ei sefydlu yn 2010.