Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Mae'r prosiectau a ganlyn yn gysylltiedig â'r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy.

Nodir mae'r wybodaeth isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Aildyfu Borneo

Lliniaru Carbon, Ailgoedwigo a Chefnogi Cymunedau...Un Hectar ar y Tro

Ymddiriedaeth Glandŵr Cymru

Mewn partneriaeth ag Ymddiriedaeth Glandŵr Cymru, mae’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn ymchwilio i sut mae’r cyhoedd yn elwa ar ddyfrffyrdd mewndirol Cymru a Lloegr.

Morwellt

Dysgwch am ein hymchwil i strwythur, swyddogaeth a gwydnwch dolydd morwellt, o fewn system ecolegol cymdeithasol cyswllt, a’r cymorth maent yn ei ddarparu o ran diogelwch bwyd.

sDNA

Mae Dadansoddi Rhwydwaith Dylunio Gofodol (sDNA) yn ddull sylfaenol ar gyfer dadansoddi rhwydweithiau gofodol, dan arweiniad Dr Crispin Cooper.

Deall sut i dyfu

Cryfhau sgiliau cynhyrchu bwyd sy’n deillio o blanhigion.

T-GRAINS: Trawsffurfio a Magu Perthnasoedd o fewn systemau bwyd rhanbarthol er mwyn Gwella Maeth a Chynaliadwyedd

Bydd y prosiect aml-sefydliadol yn ystyried a all system fwyd sy’n seiliedig ar ranbarthau yn y DU gynnig diet iachus a chynaliadwy, ac a ellir sicrhau gwydnwch yn y system trwy gryfhau cyfalaf cymdeithasol ymysg rhanddeiliaid system bwyd.

Gwydnwch i Drychinebau sy’n dilyn daeargryn, China

Rydym yn datblygu dealltwriaeth newydd o'r rheolyddion a'r prosesau corfforol a chymdeithasol sy'n effeithio ar y broses adfer ar ôl daeargrynfeydd mawr ac yn hyrwyddo gwytnwch.

Masnach foesegol ar sail lleoedd

Dysgwch fwy am ein hymchwil ar fentrau masnach foesegol, fel Masnach Deg a Chynghrair y Coedwigoedd Glaw.

Cydadwaith rhwng dwysedd, dyluniad a lles tuag at ddatblygu dinasoedd gwydn

Mae'r prosiect yn ceisio deall a dadansoddi rôl dwysedd a dyluniad trefol mewn lles cyhoeddus ar gyfer datblygu a chynnal cymunedau a dinasoedd cydnerth.

Deep Place

Mae Deep Place yn ddull holistaidd o greu lleoedd cynaliadwy. Mae wedi’i wreiddio mewn pryder empeiraidd ynghylch sut i gyflawni mannau a chymunedau mwy cynaliadwy yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol.