Ewch i’r prif gynnwys

Masnach foesegol ar sail lleoedd

Mae ein gwaith ymchwil yn dod ag arbenigwyr ynghyd o feysydd marchnata cynaliadwy, y gwyddorau cymdeithasol, daearyddiaeth ddynol a bioamrywiaeth i archwilio effaith mentrau masnach foesegol a meini prawf ardystio yn fyd-eang.

Mae mentrau masnach foesegol, fel Masnach Deg a Chynghrair y Coedwigoedd Glaw, yn cael eu cydnabod fel dulliau sydd o bosibl yn bwysig wrth ddatblygu mwy o systemau defnyddio a chynhyrchu mwy cynaliadwy. Hefyd, maen nhw’n hanfodol wrth wella bywoliaeth a rhagolygon cynhyrchwyr nwyddau sy’n byw mewn gwledydd tlawd, yn enwedig yn y De Rhyngwladol.

Mae ein gwaith yn cynnwys gwaith ymchwil confensiynol sy’n canolbwyntio ar effeithiau masnach foesegol mewn cymunedau cynhyrchwyr, er enghraifft drwy astudio Masnach Deg a grymuso cymunedau lleol yn niwydiant gwin De Affrica. Hefyd, mae’n cynnwys gwaith ymchwil arloesol sy’n ystyried rôl cymunedau defnyddwyr wrth hyrwyddo masnach foesegol, yn enwedig trwy astudio’r mudiad Trefi Masnach Deg.

Hefyd, rydym yn archwilio effaith ecolegol, cymdeithasol ac economaidd meini prawf ardystio ar gyfer systemau cynhyrchu a’r system gymdeithasol-ecolegol sydd o’u cwmpas, gan gynnwys creu pecyn gwerthuso ardystio i fonitro a gwerthuso gweithgareddau.

Elfen bwysig ym masnach foesegol yw rôl cynlluniau labelu wrth roi gwybodaeth a dylanwadu ar ddefnyddwyr a dylanwadu ar gynhyrchwyr i fabwysiadu arferion cynhyrchu mwy cynaliadwy. Mae ein gwaith yn mynd i’r afael â’r pwnc hwn trwy ein hymchwil i Fasnach Deg yn ogystal â defnyddio cynllun ardystio Cynghrair y Coedwigoedd Glaw yn y farchnad fananas fyd-eang.

Tîm y Prosiect

Yr Athro Ken Peattie

Yr Athro Ken Peattie

Head of Marketing and Strategy, Professor of Marketing and Strategy, Director of BRASS

Email
peattie@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 20879691
Dr Agatha Herman

Dr Agatha Herman

Senior Lecturer

Email
hermana@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4728
Dr Anthony Samuel

Dr Anthony Samuel

Lecturer

Email
samuela3@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 20874410