Ewch i’r prif gynnwys

Podlediad Mannau Cynaliadwy

Cyflwyno sgyrsiau i chi am ein hymchwil ddiweddaraf a materion cyfredol.

Pennod 5: Ymchwilio i Faterion Cynaliadwyedd yn y Pandemig

Cyflwynydd: Alice Essam (PLACE A GEOPL)
Gwesteion: Amelia Curtis-Rogers (SOCSCI), Lucy Aprahamian (JOMEC), Cathrine Winding (SOCSCI)

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i ymchwilwyr, sydd, fel pawb, wedi gorfod ymateb i gyd-destunau a chwestiynau sy'n newid yn gyflym. Nid yn unig y mae'r pandemig wedi cyflwyno amgylchiadau heriol ar gyfer cynnal ymchwil gymdeithasol, ond yn anochel, mae wedi llunio'r ffyrdd y mae pobl - fel cyfranogwyr ymchwil - yn meddwl ac yn ymddwyn mewn perthynas â materion cyfoes.

Yn y podlediad hwn rydym yn trafod rhai o'r heriau a'r cyfleoedd o gynnal ymchwil yn 2020, ochr yn ochr â thri mater cynaliadwyedd allweddol sy'n ymwneud â phobl ifanc heddiw: Figaniaeth, Ecofidio (Eco-anxiety), Arferion a Gofal Mislif

Pennod 4: Dyfodol Pysgodfeydd Cynaliadwy yn y DU

Cyflwynydd: Alice Taherzadeh (PLACE a GEOPL)
Gwesteion: Kevin Denman (Cymunedau Pysgota De a Gorllewin Cymru), Jack Clarke (Cymdeithas Cadwraeth Forol), Bernadette Clarke (PLACE, Prifysgol Caerdydd)

Mae trafodaethau ynghylch systemau bwyd cynaliadwy yn aml yn canolbwyntio ar ffermio ac yn anwybyddu bwyd môr a physgodfeydd cynaliadwy. Rydym yn siarad â physgotwr o Gymru, hyrwyddwr pysgodfeydd cynaliadwy, ac ymchwilydd sy'n ymchwilio i fwyta bwyd môr yn gynaliadwy er mwyn cael gwybod rhagor am ystyr cynaliadwyedd yn y cyd-destun hwn. Rydym yn trafod gwahanol ddulliau pysgota, rhywogaethau pysgod, a modelau busnes arloesol i gefnogi economïau lleol ar gyfer bwyd môr.

Yn y podlediad hwn gofynnwn: Pa newidiadau sydd eu hangen i wneud pysgota yn fwy cynaliadwy yn y DU? Beth fydd effaith Brexit ar y diwydiant pysgota? A beth sydd angen i ddefnyddwyr ei ystyried os ydyn nhw am fwyta bwyd môr sy’n gynaliadwy?

Pennod 3: Cynllunio ar gyfer System Fwyd Ôl-Covid

Cyflwynydd: Alice Taherzadeh (PLACE)
Gwestai: Yr Athro Terry Marsden (PLACE)

Mae'r pandemig COVID-19 yn datgelu methiannau cynllunio a thoriadau ariannol. Yn y byd bwyd hefyd, mae angen cynllunio i ddelio ag argyfyngau byrdymor yn ogystal â risgiau tymor hirach. Mae'r argyfwng wedi dod ag anghydraddoldebau a pheryglon presennol y system fwyd i'r amlwg, gan wthio llawer mwy o bobl i ansicrwydd bwyd a thlodi bwyd. Oherwydd panig, mae ymatebion brys yn y system fwyd wedi arwain at wastraff mewn rhannau ohoni, a diffygion mewn rhannau eraill. A thra bod twf mewn cyflenwad bwyd lleol a chynaliadwy fel bocsys llysiau organig, sy'n braf ei weld, rydym hefyd wedi gweld llawer iawn yn prynu gan nifer fechan o fanwerthwyr sy'n golygu twf enfawr mewn enillion iddyn nhw. Gan fod anghydraddoldebau iechyd ochr yn ochr ag anghydraddoldebau bwyd, mae'n bwysig ystyried nid yn unig sut i fwydo pobl, ond hefyd sut i sicrhau mynediad teg at fwyd iachus a maethlon sy'n briodol yn ddiwylliannol.

Beth sydd ei angen i sicrhau bod system fwy cynaliadwy a chyfiawn yn deillio o'r pandemig? A ddylwn ni fod yn cyflwyno prosesau dogni bwyd yn y DU? Sut allwn ni baratoi'r system fwyd at yr argyfyngau iechyd neu ecolegol sy'n anochel yn y dyfodol? Byddaf yn sgwrsio â'r Athro Terry Marsden am sut mae dyfodol system fwyd y DU a gwleidyddiaeth bwyd byd-eang yn edrych.

Pennod 2: COVID-19 a Gwydnwch Economaidd

Cyflwynydd: Alice Taherzadeh (PLACE)
Gwesteion: Yr Athro Gillian Bristow (GEOPL), Dr. Adrian Healy (GEOPL)

Mae’r pandemig byd-eang wedi troi’n gyflym o fod yn argyfwng iechyd cyhoeddus i un economaidd, gyda bron pob agwedd ar fywyd economaidd yn cael eu gorfodi i gau. Mae hyn yn bygwth her sylweddol i economïau ar draws y byd.

Mae cyfyngiadau symud y DU wedi arwain at staff yn gorfod cymryd seibiant (furloughed), gweithwyr diangen, cwmnïau’n wynebu mynd i’r wal a chwymp mewn gweithgarwch economaidd na welwyd bron byth o’r blaen. Nid yw pob sector wedi’u heffeithio yn yr un modd, a gallai rhai adfer yn gyflymach na rhai eraill. Felly, sut gallai ein heconomi newid yn y dyfodol? Yn hollbwysig, sut bydd y llywodraeth yn dewis llacio’r cyfyngiadau symud? Bydd y penderfyniadau a gymerir dros y misoedd nesaf yn llywio ein heconomi am flynyddoedd i ddod. Mae’r podlediad hwn yn ystyried rhai o’r gwersi gan ymchwil a gynhaliwyd ar ôl argyfwng economaidd byd-eang 2008 er mwyn gweld beth sy’n gwneud rhai economïau’n fwy gwydn rhag siociau nag eraill. Mae hyn yn cynnig cipolygon diddorol ar bwysigrwydd deall sut mae pawb yn yr economi’n ymateb i’r argyfwng, yn awr ac yn y dyfodol.

Pennod 1: COVID-19 a’r System Fwyd

Cyflwynydd: Alice Taherzadeh (PLACE)

Gwesteion: Dr Hannah Pitt (PLACE), Dr Angelina Sanderson-Bellamy (PLACE) a Dr Poppy Nicol (PLACE)

Silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd, bwytai ar gau, mwy o alw am flycheidiau o lysiau lleol, prinder llafur ar ffermydd a phecynnau o fwyd i grwpiau sy’n agored i niwed - yn amlwg, mae bwyd yn fater allweddol i’w ystyried yn y pandemig presennol hwn.

  • Sut ydym yn cynhyrchu digon o fwyd iachus ar gyfer y boblogaeth yn ystod cyfnod o bandemig byd-eang?
  • Ble mae’r gwendidau yn y system bresennol a sut gellir ei thrawsffurfio i fod yn fwy gwydn?
  • Pa effaith mae’r argyfwng yn ei chael ar y rheiny sy’n bwydo’r system fwyd?
  • A sut gallai ymatebion brys esblygu’n newidiadau mwy hirdymor?

Rydym yn ystyried y cwestiynau hyn yn y cyntaf o gyfres o bodlediadau am y pandemig presennol a’i effaith ar wahanol feysydd ymchwil.