Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ac Ymgysylltiad

Mae gan y Sefydliad enw da am effeithio ar ddatblygu polisïau, dadleuon cyhoeddus ac ymarfer arloesol i helpu i wella ymatebion ac atebion i ganlyniadau a heriau byd-eang newid hinsawdd ac adnoddau’n prinhau.

Gyda phrosiectau ymchwil wedi’u hariannu gan yr UE, cyrff cenedlaethol a chyrff cyllido eraill ym meysydd gwyddorau cynaliadwyedd, mae ein ymchwilwyr yn gweithio i gyflenwi gwaith ymchwil perthnasol, trylwyr, o ansawdd uchel a ddefnyddir gan wneuthurwyr polisi ledled Cymru, y DU ac ymhellach i gynorthwyo polisïau ar sail tystiolaeth.

Gwylio

Mae Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Terry Marsden, yn trafod creu lleoedd cynaliadwy yng nghyd-destun polisi cyhoeddus gyda’r Cyd-gyfarwyddwr yr Athro Susan Baker a Mr Matthew Quinn, sef Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru.

Fideo Gwneud Lleoedd Cynaliadwy yng nhyd-destun polisi cyhoeddus

Gyda phwy rydym yn gweithio

Rydym yn cysylltu ein hacademyddion â diwydiant, busnesau, llywodraeth a'r trydydd sector yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae staff y Sefydliad yn darparu cyngor a thystiolaeth i Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r gymuned polisi ehangach.

Straeon effaith

Sustainable Food Systems

System Fwyd Gynaliadwy i Ewrop

14 Ebrill 2020

SAPEA yn cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf sy’n cynnwys adolygiad systematig gan Brifysgol Caerdydd

Image of discussion at Senedd

Digwyddiad Gweithio gyda’n gilydd dros Systemau Bwyd Cyfiawn a Chydweithredol wedi’i gynnal yn y Senedd

28 Ionawr 2020

Mae adroddiad a ysgrifennwyd gan yr ymchwilwyr o’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy wedi’i drafod mewn digwyddiad bwrdd crwn yn y Senedd.

Garden hand tools

Offeryn casglu data’n gallu helpu garddwyr marchnad organig i gynyddu elw

6 Tachwedd 2019

Mewn gweithdy a hwyluswyd gan Hannah Pitt, daethpwyd i’r casgliad y gall offeryn casglu data alluogi garddwyr marchnad organig i gasglu a phrosesu gwybodaeth a allai eu helpu i wneud penderfyniadau busnes gwybodus a chynhyrchu cymaint o elw â phosibl.

Bread

Newidiadau deddfwriaethol yn angenrheidiol er mwyn cael system fwyd gynaliadwy yng Nghymru

5 Tachwedd 2019

Mae cynhyrchu bwyd rhad ar lefel ddiwydiannol yn bygwth systemau bwyd cynaliadwy a chyfiawn yng Nghymru yn ôl adroddiad gan ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.

Image of fresh fruit and vegetables at a market

Arbenigwyr yn rhybuddio bod diogelwch bwyd y DU mewn perygl wrth i’r cyhoedd gael eu paratoi ar gyfer safonau is

25 Medi 2019

Yn ôl hysbysiad newydd gan y Food Research Collaboration sy’n cynnwys yr Athro Terry Marsden o'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, ceir arwyddion bod y llywodraeth yn ceisio meddalu’r farn gyhoeddus ynghylch safonau bwyd is ar ôl Brexit.

Field

Adroddiad newydd yn annog cynghorau i wella eu cynlluniau wrth gefn i atal unrhyw fersiwn ar Brexit rhag tarfu ar y cyflenwad bwyd

31 Mai 2019

Mae’r Athro Terry Marsden wedi llunio adroddiad newydd ar y cyd, sy’n dweud bod yn rhaid i Awdurdodau Lleol y DU gryfhau cynlluniau ar gyfer ymyrraeth bosibl oherwydd Brexit.

GBike

G-BiKE: Rhwydwaith Ewropeaidd newydd ar Fioamrywiaeth Genomeg ar gyfer Ecosystemau Gwydn

1 Ebrill 2019

Rhwydwaith ymchwil sydd newydd ddechrau cael ei hariannu yn cysylltu gwyddonwyr ac ymarferwyr ar draws yr UE a thu hwnt, er mwyn amlygu pwysigrwydd offer geneteg a genomeg ym maes cadwraeth bioamrywiaeth.