Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd i ymweld â ni

Ymweliadau â’r campws

Rydym yn falch i groesawu grwpiau ysgol i gampws Parc Cathays drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae ymweliadau â’r campws yn ffordd wych i fyfyrwyr ddysgu amdano, dysgu rhagor am fywyd myfyrwyr a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am yr brifysgol.

Yn ystod ymweliad â'r campws bydd myfyrwyr yn derbyn y canlynol:

  • dau gyflwyniad yn cyffwrdd ag agweddau ar fywyd a phrofiadau myfyrwyr
  • taith o amgylch y campws o dan arweiniad myfyrwyr

Mae ymweliadau â’r campws yn bosibl drwy gydol y tymor. Cewch opsiwn o sesiwn fore neu sesiwn brynhawn.

Archebu nawr

Ebostiwch ni drwy schools@caerdydd.ac.uk.

Diwrnodau Agored

Gwyliwch ein fideo Diwrnod Agored.

Bydd ein Diwrnodau Agored nesaf yn cael eu cynnal yn ystod haf 2024.

Diwrnodau Agored yw’r cyfle perffaith i'ch disgyblion weld drostynt eu hunain sut beth yw bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, siarad â staff y gwasanaethau academaidd a phroffesiynol a chael ateb i'w cwestiynau.

Ebostiwch openday@cardiff.ac.uk os oes gennych ddiddordeb mewn dod â grŵp ysgol.

Rydym wedi bod i ddiwrnodau agored yn y gorffennol ac rydym am iddo fod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr yr ysgol oherwydd llwyddiant ein hymweliadau. Mae'r diwrnodau agored wedi'u trefnu'n eithriadol o dda ac mae'r tîm cyswllt ysgolion yn wych. Mae'r cyfathrebu'n brydlon ac rydym bob amser yn cael rhaglenni ymlaen llaw. Mae ein disgyblion wrth eu bodd gan fod hyn yn eu galluogi i gynllunio eu diwrnod ymlaen llaw.

Adborth gan athro, Gorffennaf 2019

Ysgolion academaidd

Pan fydd amgylchiadau'n caniatáu, mae ein hysgolion academaidd yn aml yn cynnal digwyddiadau ar y campws ar gyfer athrawon a disgyblion mewn gwahanol gyfnodau allweddol. Chwiliwch am ein gweithgareddau ymgysylltu ag ysgolion a cholegau.

Yn ogystal â Diwrnodau Agored y Brifysgol, mae’r Ysgol Meddygaeth yn cynnal digwyddiadau arbennig i roi gwybodaeth. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i ddarpar fyfyrwyr, athrawon, ymgeiswyr a chynghorwyr gyrfaoedd gael dealltwriaeth fanylach o gyrsiau’r Ysgol a'r cyfleusterau sydd ar gael.

Taith rithwir

Eisiau rhagor o wybodaeth? Ewch ar daith rithwir o amgylch y campws a’r ddinas.