
Nyrsio iechyd meddwl
Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau i gefnogi a thrin pobl sy'n byw gyda neu'n profi problemau iechyd meddwl.
Pam y dylech astudio gyda ni
1af yng Nghymru
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2023 ein rhaglen Iechyd Meddwl (BN) yw’r un orau yng Nghymru.
5ed yn y DU
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2023 mae ein rhaglen Nyrsio Iechyd Meddwl (BN) yn 5ed yn y DU.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein lleoliad
Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgwrs
Mae Tiwtor Derbyn Nyrsio Iechyd Meddwl (BN), Alex Nute, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.
Mae bod yn nyrs iechyd meddwl wedi caniatáu i mi ofalu am bobl pan fyddant yn fwyaf agored i niwed, cael cyfle i wneud gwahaniaeth a'u grymuso a'u cynorthwyo i newid eu bywydau. Dyna'r teimlad gorau yn y byd!
Cyfleusterau a lleoliadau

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Wedi'i leoli yn Tŷ Dewi Sant, Campws Parc y Mynydd BychanMan lle bydd y mwyafrif o fyfyrwyr gofal iechyd yn ymgymryd â dysgu yn yr ystafell ddosbarth a darlithoedd a hefyd yn datblygu ac ymarfer eu sgiliau clinigol yn yr amgylcheddau efelychiedig.

Llyfrgell Parc y Mynydd Bychan
Wedi'i leoli yn Adeilad CochraneLlyfrgell 24 awr a man astudio sydd ar gael i'r holl fyfyrwyr ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Lolfa IV
Wedi'i leoli yn Campws Parc y Mynydd BychanWedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae'r lolfa IV yn ofod i bob myfyriwr ddal i fyny ar waith a dadflino.
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae Jodie, myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl (BN) yn yr ail flwyddyn, yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.
Dwi wrth fy modd fy mod yn fyfyriwr nyrsio gan ei fod yn rhoi'r cyfle i mi ddysgu pethau newydd bob dydd. Mae hefyd wedi fy helpu i fod y person ydw i heddiw - rwy'n llawer mwy hyderus ac yn agored fy meddwl ac ni fyddaf byth yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol o hyn ymlaen.
Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau

Cyfleoedd gofal iechyd byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol. Yn 2019, teithiodd dros 100 o fyfyrwyr israddedig gofal iechyd a chawsant brofiad o ofal iechyd dramor.
Ble yn y byd y byddech chi'n mynd?
Mwy i wylio
The following videos were created by staff and students to celebrate the Year of the Nurse and Midwife 2020.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Pob cwrs Nyrsio israddedig
Archwilio ein cyrsiau
Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.