Ewch i’r prif gynnwys

Baglor mewn Nyrsio (Plant) (BN)

  • Maes pwnc:
  • Côd UCAS: B732
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

rosette

Safle 1af yng Nghymru a'r 5 uchaf yn y DU

Yn ôl y Complete University Guide 2023.

tick

Mae cyllid ar gael

Mae cyllid bwrsariaeth y GIG ar gael i fyfyrwyr y DU a thramor, gan gynnwys cymorth gyda ffioedd dysgu a chostau byw (mae'r amodau'n berthnasol).

people

Cyswllt clinigol cynnar

Byddwch yn treulio hanner eich amser ar y rhaglen yn ennill profiad clinigol gwerthfawr ar leoliad, gan weithio gyda chleifion go iawn yng nghwmni staff cefnogol a gwybodus

screen

Defnydd arloesol o’r dechnoleg ddiweddaraf

Defnyddir realiti estynedig i addysgu anatomeg a ffisioleg, gan roi darlun unigryw i chi o fecaneg fewnol y corff dynol.

building

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Gan gynnwys gweithgareddau ein hystafelloedd byw bob dydd, sydd hefyd yn gartref i'n Clinig Therapi Galwedigaethol Mewnol.

Mae nyrsio plant yn faes cyffrous a heriol sy’n rhoi boddhad, gyda theuluoedd a phlant wrth ei wraidd. Mae ein rhaglen, sydd wedi’i dilysu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), yn rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i chi ddod yn nyrs gofrestredig ar ôl tair blynedd. Mae hefyd yn cynnig y cyfle i chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Mae nyrsys plant yn rhoi cymorth ac yn darparu gofal amlasiantaethol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Gall y rôl gynnwys popeth o nyrsio baban newydd-anedig gwael i ofalu am berson ifanc yn dilyn damwain traffig ar y ffordd. Mae angen bod nyrs plant yn dehongli ymddygiad ac ymatebion plant, a bod yn gallu sylwi pan fo iechyd plentyn yn gwaethygu sydd yn aml yn gallu digwydd yn gyflym iawn. Mae gan blant anghenion iechyd penodol iawn, ac mae nyrsys plant yn defnyddio dull o roi gofal sy’n canolbwyntio ar y teulu ac ar yr unigolyn, lle mae plant, pobl ifanc a’u gofalwyr yn cael eu cefnogi i fod yn rhan o benderfyniadau gofal.

O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn arbenigo mewn nyrsio plant. Fodd bynnag, mae'r modd integredig y caiff eich rhaglen ei haddysgu yn golygu y byddwch yn dysgu gyda'r rhai sy'n astudio nyrsio oedolion a nyrsio iechyd meddwl. Bydd rhannu syniadau rhwng disgyblaethau iechyd yn ehangu eich safbwynt ar ofal iechyd ac yn eich helpu i ganolbwyntio ar sgiliau penodol rydych yn eu datblygu yn eich maes nyrsio eich hun. Fel ysgol, rydym yn darparu amrywiaeth o gyrsiau a gaiff eu cydnabod gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Mae hyn oll yn cyfrannu at amgylchedd rhyngddisgyblaethol bywiog lle ceir cyfleoedd i ddysgu ar y cyd, ymgymryd ag asesiadau ffurfiannol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ac addysg ryngbroffesiynol na all llawer o sefydliadau eraill eu cynnig.

Drwy gymryd rhan lawn yn y rhaglen hon byddwch yn datblygu sgiliau gofalu am glaf mewn modd sy’n canolbwyntio ar y teulu a sgiliau hybu iechyd effeithiol, byddwch yn dysgu am effeithiau afiechydon acíwt a hirdymor yn ystod plentyndod a sut i’w rheoli, yn asesu poen ac ymatebion seicolegol i salwch ac yn dysgu technegau chwarae a thynnu sylw yn ogystal â llawer o dechnegau eraill. Bydd hyn yn eich galluogi i ddarparu gofal nyrsio plant o ansawdd uchel mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.

Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr brwdfrydig a gwybodus ym maes nyrsio plant sy’n dylanwadu ar ofal iechyd ledled Cymru a thu hwnt drwy waith ymgysylltu ac ymchwil. Byddwch yn cael tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol i chi ac asesydd academaidd a fydd yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol yn ystod y rhaglen.

Mae gennym labordai sgiliau â chyfarpar llawn yn ein Hystafell Efelychu Clinigol, sy’n eich galluogi i ddysgu mewn efelychiadau realistig o achosion brys, ward a chymuned. Mae efelychiadau realistig gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau yn golygu y gallwch ymarfer a datblygu sgiliau hanfodol yn ddiogel mewn amgylchedd dysgu cefnogol cyn mynd ar leoliad. Bydd hyn yn eich grymuso i arwain ym maes gofal amlddisgyblaethol lle mae arloesedd a thechnoleg yn datblygu’n gyflym.

Byddwch yn treulio 50% o’r rhaglen yn ymgymryd â dysgu ymarfer gyda darparwyr gwasanaethau amrywiol yng Nghymru, mewn ysbytai ac yn y gymuned. Yn ystod eich lleoliadau, cewch eich cefnogi gan staff ymarfer profiadol a fydd yn eich helpu i fod y nyrs plant orau bosibl. Mae gennym ystafell efelychu clinigol â chyfarpar llawn sy’n eich galluogi i ddysgu mewn efelychiadau realistig o achosion brys, ward, cartref a chymuned.

Drwy gwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) fel Nyrs Plant. Ar ôl ennill y cymhwyster hwn, cewch weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Achrediadau

Maes pwnc:

  • academic-schoolYsgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (fel Safon Uwch). Derbynnir gradd C/4 mewn TGAU Iaith Saesneg lle rydych yn astudio cymwysterau ar lefel uwch sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng Saesneg, fel Safon Uwch.
- pedwar TGAU ar radd C/4 gan gynnwys Mathemateg, ac un wyddoniaeth (naill ai Bioleg, Cemeg, neu Ffiseg), neu gymwysterau cyfatebol (pwnc a gradd).

Rhaid i chi hefyd ddarparu datganiad personol sy'n berthnasol i'r proffesiwn. Os ydych yn cyflwyno cais i fwy nag un rhaglen broffesiynol, dylech ebostio datganiad personol pwrpasol ar gyfer pob rhaglen at admissions@caerdydd.ac.uk. Gwnewch hyn ar yr un pryd â chyflwyno'ch cais trwy UCAS. Yn eich datganiad personol, dylech ddangos eich bod yn deall y proffesiwn, bod gennych fewnwelediad i'r cwrs ei hun, a dylech ddisgrifio unrhyw brofiad gwaith perthnasol. Dim ond un datganiad personol y gellir ei gyflwyno ar gyfer pob rhaglen.

Rhaid i chi fodloni gofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) o ran iechyd da a chymeriad ac addasrwydd i ymarfer.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

AMODAU YMRESTRU
Cyn dechrau eich cwrs, bydd hefyd angen i chi lenwi holiadur iechyd galwedigaethol, mynd i unrhyw apwyntiadau dilynol, a chael yr holl frechiadau sydd eu hangen i ymgymryd â lleoliadau clinigol yn ddiogel. Rhaid i chi gael sampl negyddol wedi'i dilysu ar gyfer HIV, Hepatitis B a Hepatitis C. Trefnir hyn gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol ar ôl i’r rhaglen ddechrau.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Saesneg Iaith.

IELTS (academic)

O leiaf 7.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 7.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 24 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 70 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 76 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) a yw'ch cais yn llwyddiannus. Os ydych chi'n gwneud cais o rai gwledydd dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da. Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Astudiaethau Iechyd.

Lefel T

M mewn Lefel T Iechyd, Gwyddor Gofal Iechyd, neu Wyddoniaeth.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

International equivalencies are not accepted for this course. Please contact the International Office for information about entry requirements from your country.

Please view your country page for information on our entry requirements, funding opportunities and who our local advisors are.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Ni fyddwn yn gwneud cynnig heb gyfweld ymgeisydd yn gyntaf.

Mae’n bosib y bydd angen bod wedi cynnal pob cyfweliad ar gyfer y rhaglen, cyn y gellir rhyddhau cynigion.

Rhaid i bob ymgeisydd fodloni'r gofynion sylfaenol ar Lefel 2 (TGAU fel arfer) a Lefel 3 (Lefel A fel arfer) er mwyn bod yn gymwys i'w hystyried ar gyfer cyfweliad. Os ydych chi'n bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol, bydd eich cais yn derbyn sgôr yn seiliedig ar eich datganiad personol. Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu rhestru yn ôl y sgôr hon, a bydd yr ymgeiswyr sydd ar y brig yn cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad.

Efallai y bydd myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n astudio / ar ôl cwblhau rhai Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn ymwneud â Gofal Iechyd yn gymwys i gael cyfweliad gwarantedig ar gais. Cysylltwch â'r tîm derbyniadau Gofal Iechyd am fanylion penodol: HCAREadmissions@caerdydd.ac.uk

Ein proses gyfweld

Mae'r cyfweliadau hyn yn ein helpu i benderfynu a ydych chi:

  • yn gallu meddwl am ateb yn y fan a'r lle
  • wedi meddwl am rai o'r materion sy'n bwysig i'r proffesiwn
  • yn gallu gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol
  • yn gallu cyfathrebu syniadau yn effeithiol.

Maent hefyd yn canolbwyntio ar archwilio'r rhinweddau a'r priodoleddau personol sy'n bwysig i ddatblygiad eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r cyfweliadau hyn yn ein galluogi i gwrdd â chi ac asesu gwybodaeth nad yw bob amser yn hawdd ei chael yn y broses ymgeisio – ni fwriedir iddynt brofi faint o wybodaeth flaenorol sydd gennych am y pwnc na'r proffesiwn.

Sylwch y gall cyfweliadau gael eu cynnal mewn amgylchedd ar-lein. Bydd cyfweliadau ar-lein yn parhau i asesu ymgeiswyr ar y sgiliau a'r priodoleddau a amlinellwyd uchod.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Mae lleoliad GIG yn rhan angenrheidiol o'r cwrs hwn. Mae'r GIG yn trefnu lleoliadau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n gymwys i dalu ffioedd DU yn unig. Felly, nid yw'r cwrs hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Chi fydd yn gyfrifol am dalu i gael Tystysgrif fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sy’n rhan ofynnol o’r broses gwneud cais. Yn ogystal, dylai ymgeiswyr wybod y gallai fod angen iddynt dalu costau teithio a llety mewn perthynas â chyfnodau ar leoliad. Bydd myfyrwyr yn cael gwisg ar gyfer eu lleoliadau; ond, bydd angen i chi dalu am esgidiau priodol.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hon. Rhennir y flwyddyn academaidd yn ddau semester: Hydref a Gwanwyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Ceir pedwar modiwl gorfodol ym mlwyddyn un a dau leoliad ymarfer clinigol. Caiff y modiwlau eu cyflwyno naill ai yn ystod un neu ddau semester bob blwyddyn.

Blwyddyn dau

Ceir pum modiwl gorfodol ym mlwyddyn dau a thri lleoliad ymarfer clinigol. Caiff y modiwlau eu cyflwyno naill ai yn ystod un neu ddau semester bob blwyddyn.

Blwyddyn tri

Ceir pedwar modiwl gorfodol ym mlwyddyn tri a dau leoliad ymarfer clinigol. Caiff y modiwlau eu cyflwyno naill ai yn ystod un neu ddau semester bob blwyddyn. Cynigir y cyfle olaf i ddysgu ymarfer ar y rhaglen yn wythnos 14. Dyma pryd y bydd mentor cymeradwyo yn dod i benderfyniad ynghylch p'un a yw'r myfyrwyr ydynt wedi cyflawni'r cymwyseddau gofynnol yn ddiogel ac yn effeithiol i allu ymuno â chofrestr y Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Caiff strategaethau dysgu wyneb yn wyneb traddodiadol fel darlithoedd, gweithdai a seminarau eu hategu gan gyfleoedd ar-lein rhyngweithiol ac adnoddau a gynlluniwyd i wella eich profiad dysgu cyffredinol a’ch galluogi i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r gallu sydd eu hangen ym maes ymarfer nyrsio plant. Cewch hefyd gyfleoedd gwerthfawr i ddysgu wrth ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr go iawn sy’n cyfrannu at y rhaglen fel arbenigwyr drwy brofiad.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael Tiwtor Personol sy’n aelod o’r grŵp staff academaidd ac yn nyrs plant gymwysedig. Cewch eich annog i drefnu cyfarfodydd â’ch tiwtor personol drwy gydol eich amser ar y rhaglen ac yn ystod y cyfarfodydd hyn, gallwch gael cymorth bugeiliol a myfyrio ar eich cynnydd cyffredinol. Bydd Tiwtoriaid Personol hefyd yn helpu i’ch cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth fel Cyswllt Anabledd Myfyrwyr y Rhaglen a’r Ysgol a gwasanaethau’r Brifysgol, gan gynnwys Cefnogi a Lles Myfyrwyr a’r Tîm Sgiliau Academaidd a Mentora. Gall tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg fod ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis cael cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Ysgol hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i roi cyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg astudio elfennau o’r rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg a’r posibilrwydd o ysgoloriaeth flynyddol. Gallech hefyd ddysgu Cymraeg drwy ein rhaglen Cymraeg i Bawb sy’n cynnwys cyrsiau wedi’u cynllunio o gwmpas eich ymrwymiadau academaidd ac sydd ar gael am ddim.

Gall Rheolwr y Rhaglen, Arweinwyr y Modiwlau a’r asesydd Academaidd eich helpu gyda’ch profiad cyffredinol fel myfyriwr ar y rhaglen, gan gynnwys unrhyw adborth neu bryderon sydd gennych.

Sut caf fy asesu?

Mae’r cwricwlwm yn cynnwys amrywiaeth o strategaethau a dulliau asesu sy’n adlewyrchu dull gweithredu cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y dysgwyr ac sy’n gyson â deilliannau dysgu bwriadedig y rhaglen. 

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn cynnwys asesiad ffurfiannol ac adborth a gynlluniwyd i gefnogi eich dysgu a’ch helpu i nodi eich cryfderau a meysydd i’w datblygu a’ch paratoi ar gyfer asesiad crynodol a gaiff ei farcio’n ffurfiol ac sydd, felly, yn cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau ar ddosbarth eich gradd. Nod asesiad crynodol yw rhoi syniad o’r graddau rydych wedi llwyddo i gyflawni deilliannau dysgu bwriadedig modiwl a bydd yr adborth a ddarperir yn eich galluogi i nodi meysydd i’w datblygu ymhellach.

O safbwynt eich ymarfer, cewch eich asesu yn unol â safonau’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC 2018) ar gyfer goruchwylio ac asesu myfyrwyr. Bob blwyddyn, caiff eich cyflawniadau ym maes ymarfer eu cofnodi mewn Dogfen Asesu Ymarfer.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gellir gweld y deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r cysyniadau athronyddol a damcaniaethol sy’n sail i ymarfer nyrsio ac yn ei lywio, a phwysigrwydd dilyn Cod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Gwybodaeth gadarn am systemau’r corff, anatomi, ffisioleg, genomeg a datblygiad dynol sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth berthnasol ac yn gymwys i iechyd a salwch.
  • Dull gweithredu gwerthusol beirniadol mewn perthynas â’r ffactorau cymdeithasol-wleidyddol a’r polisïau perthnasol sy’n dylanwadu ar iechyd, llesiant a salwch ar lefel unigol, leol, genedlaethol a byd-eang ac sy’n dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir.
  • Dealltwriaeth fanwl o’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i gydweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys sut mae rôl nyrsys oedolion yn cyfrannu at waith rhyngddisgyblaethol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar unigolion a theuluoedd yn cael eu darparu.
  • Gwerthfawrogiad cadarn o safonau cyrff rheoleiddio a chyrff proffesiynol mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus ac ymarfer myfyriol, arweinyddiaeth, ymchwil a gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn datblygu, darparu a gwerthuso gofal nyrsio oedolion diogel, o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar unigolion a theuluoedd.

Sgiliau deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Hyfedredd wrth ddewis, dadansoddi, cyfuno a gwerthuso’n feirniadol wybodaeth o ystod eang o ffynonellau, gan ddod i gasgliadau rhesymegol wrth wneud penderfyniadau cadarn a llunio barn broffesiynol.
  • Datrys problemau mewn ffordd greadigol ac arloesol yn yr amgylchedd academaidd ac ymarferol, gan gynnwys meddwl yn greadigol a datblygu atebion a syniadau arloesol a fydd yn gwella canlyniadau iechyd a phrofiad pobl o ofal nyrsio.
  • Hyfedredd wrth gyfrannu at sail wybodaeth broffesiynol drwy ddewis, cyfiawnhau a chymhwyso cynlluniau a dulliau ymchwil moesegol a nodi strategaethau effeithiol i rannu gwybodaeth.
  • Sgiliau myfyrio a rhesymu proffesiynol uwch sy’n eich annog i adolygu’r gofal a ddarperir, yn ogystal â gwerthoedd ac ymarfer sefydliadol ehangach, yn feirniadol.

Sgiliau ymarferol proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol sefydledig yn unol â disgwyliadau’r corff proffesiynol, fel y disgrifir yng Nghod yr NMC.
  • Arferion cydweithio effeithiol a phriodol â defnyddwyr gwasanaethau, aelodau tîm eraill a phartneriaid, gan ddefnyddio dulliau galluogi, grymuso ac ymgynghori a gwerthfawrogi profiadau a safbwyntiau amrywiol.
  • Hybu diogelwch a llesiant pobl drwy flaenoriaethu eu hawliau cyfreithiol, eu buddiannau a’u hanghenion gan ddefnyddio asesiadau risg a mesurau rheoli risg effeithiol.
  • Sgiliau asesu a rhesymu cadarn er mwyn nodi a chynllunio ymyriadau a gofal priodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan barchu hawliau, diwylliant, anghenion ysbrydol a dewisiadau’r bobl, y gofalwyr a’r teuluoedd dan sylw a gwerthuso effeithiolrwydd.
  • Eiriolaeth ac arweinyddiaeth wrth hybu a diogelu iechyd a llesiant unigolion a chymunedau er mwyn atal salwch a chydnabod yr angen am newid sefydliadol a gwelliannau i wasanaethau.

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Ymgysylltiad gweithredol â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus a ategir gan waith myfyrio beirniadol ac ymrwymiad i ddatblygu gwydnwch a sgiliau dysgu hunangyfeiriedig gydol oes.
  • Y gallu i flaenoriaethu a rheoli amser yn effeithiol, gan weithio gyda’r adnoddau sydd ar gael drwy gydol y broses datrys problemau a dangos arweinyddiaeth, cyfrifoldeb ac atebolrwydd mewn perthynas â rheoli a datblygu eich hun ac eraill.
  • Sgiliau cyfathrebu uwch a gallu i addysgu, goruchwylio a chymell eraill, gan ddefnyddio sgiliau arwain i nodi dulliau a strategaethau i weithio’n effeithiol fel tîm a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
  • Cadw cofnodion cywir a defnyddio ystod o dechnolegau digidol yn gyfrifol i gyfathrebu a chydweithio ag eraill a llunio dogfennau sy’n cyfleu ac yn cyfiawnhau camau gweithredu.
  • Cymhwyso credoau a gwerthoedd proffesiynol craidd ymddygiad proffesiynol, atebolrwydd, rheoli risg a dyletswydd gonestrwydd.

Beth yw deilliannau dysgu'r cwrs/rhaglen?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r cysyniadau athronyddol a damcaniaethol sy’n sail i ymarfer nyrsio ac yn ei lywio, a phwysigrwydd dilyn Cod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Gwybodaeth gadarn am systemau’r corff, anatomi, ffisioleg, genomeg a datblygiad dynol sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth berthnasol ac yn gymwys i iechyd a salwch. 
  • Dull gwerthuso beirniadol mewn perthynas â’r ffactorau cymdeithasol-wleidyddol a’r polisïau perthnasol sy’n dylanwadu ar iechyd, llesiant a salwch ar lefel unigol, leol, genedlaethol a byd-eang ac sy’n dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir wrth ymarfer.
  • Dealltwriaeth fanwl o’r prif egwyddorion a gwerthoedd sy’n sail i gydweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys sut mae rôl nyrs plant yn cyfrannu at waith amlddisgyblaethol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar unigolion a theuluoedd yn cael eu darparu.
  • Gwerthfawrogiad cadarn o safonau cyrff rheoleiddio a phroffesiynol mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus ac ymarfer myfyriol, arweinyddiaeth, ymchwil a gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn datblygu, darparu a gwerthuso gofal nyrsio plant diogel, o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar unigolion a theuluoedd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae nyrsio plant yn yrfa heriol sy’n rhoi boddhad ac ar ôl ennill y cymhwyster hwn, mae'n bosibl gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Mae digonedd o opsiynau gyrfaoedd amrywiol ar gyfer nyrsys plant.  Fel arfer mae nyrsys plant yn rhan o dimau amlddisgyblaethol.

Fel Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod 95% o'n graddedigion nyrsio plant mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio (UNISTATS).

Gellir darparu gofal i blant mewn amrywiaeth o leoliadau:

  • ysbytai

  • canolfannau gofal dydd

  • clinigau iechyd plant

  • cartref y plentyn

  • Hosbis

Gall darpar gyflogwyr gynnwys byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG amrywiol, gwasanaethau iechyd rhyngwladol a sefydliadau addysg uwch.

Mathau o swyddi:

  • Mae nyrsys plant yn rhoi cymorth a gofal i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

  • Uwch-ymarferydd nyrsio – rôl i nyrsys sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol ac sydd wedi ennill cymwysterau academaidd ychwanegol i’w galluogi i archwilio, asesu, trin ac atgyfeirio cleifion, rhoi diagnosis i gleifion, a rhagnodi ar eu cyfer.

  • Ymwelydd iechyd – nyrsys sydd wedi dewis cael hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol fel nyrsys cymunedol arbenigol ym maes iechyd y cyhoedd. Mae’r hyfforddiant ychwanegol ym maes iechyd y cyhoedd yn eich galluogi i asesu anghenion iechyd unigolion, teuluoedd a’r gymuned ehangach.

  • Nyrs ymchwil – hollbwysig o ran gwneud gwaith ymchwil. Byddwch yn darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion, yn casglu data, yn gwneud gwaith dilynol, yn cynnal grwpiau cleifion ac yn ymwneud â diwydiant.

  • Rheolwr ward – byddwch yn darparu arweinyddiaeth ar ward a bod yn weladwy arni, sy’n bwysig er mwyn darparu gofal diogel o ansawdd uchel i gleifion.

  • Nyrs ymgynghorol – byddwch yn sicrhau bod adrannau nyrsio yn dilyn cyfyngiadau a phrotocolau cyfreithiol.

  • Darlithydd - mae bod yn ddarlithydd nyrsio yn rhoi’r cyfle i chi sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o nyrsys yn gymwys ac yn hyderus yn y lleoliad ymarfer.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Rheolwr Ward
  • Uwch-ymarferydd Nyrsio
  • Ymwelydd Iechyd

Lleoliadau

Rhaid i bob myfyriwr ar raglen nyrsio gwblhau o leiaf 2,300 o oriau o ymarfer clinigol wedi’i oruchwylio a’i asesu’n briodol erbyn diwedd y rhaglen (NMC 2018). Mae’r rhaglen hon yn cynnwys saith lleoliad llawn amser sy’n eich galluogi i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol y byddwch wedi’u caffael yn y lleoliad academaidd, ac adeiladu arnynt.

Yn bennaf, bydd lleoliadau ymarfer yn cael eu cynnal yn Ysbyty Plant Cymru Arch Noa, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae lleoliadau’n adlewyrchu gwasanaethau gofal iechyd cyfoes ar gyfer plant.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.