Ewch i’r prif gynnwys

Pam ddylech chi astudio gyda ni

star

1af yng Nghymru

Yn ôl tablau Complete University Guide 2023, ein rhaglen Nyrsio Oedolion yw'r gorau yng Nghymru.

rosette

5ed yn y DU

Yn ôl tablau Complete University Guide 2023 mae ein rhaglen Nyrsio Oedolion yn 5ed yn y DU.

globe

Rydym yn rhyngwladol

Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.

location

Ein lleoliad

Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.

tick

Caiff ein rhaglen ei hariannu

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.

building

Ein cyfleusterau

Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Baglor mewn Nyrsio (Oedolion) derbyniad y Gwanwyn (BN)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae nyrsys yn defnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd.

Baglor mewn Nyrsio (Oedolion) Derbyniad yr Hydref (BN)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae nyrsys yn defnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd.

Dychwelwch i Ymarfer (Nyrsio) (Credyd Israddedig Sefydliadol)

Part Time Blended Learning, 20 wythnos

Bydd ein rhaglen fer, Dychwelyd i Ymarfer, sydd wedi'i hachredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), yn adeiladu ar eich profiad presennol ac yn eich cefnogi i ailgofrestru gyda'r NMC.

Ein sgwrs

Mae Tiwtor Derbyn Nyrsio Oedolion (BN), Sandra Fender, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.

Rwyf wrth fy modd yn fyfyriwr nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd oherwydd yr holl gyfleoedd y mae wedi'u rhoi i mi ac oherwydd eich bod yn dysgu drwy'r amser. Mae'n ddewis gyrfa mor werthfawr.
Carol Myfyriwr Nyrsio Oedolion (BN)

Cyfleusterau a lleoliadau

Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr

Mae Eleanor, sy'n fyfyriwr Nyrsio Oedolion (BN) yn y drydedd flwyddyn, yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.

Mae bod yn nyrs dan hyfforddiant yn rhoi pwrpas i mi yn fy mywyd - i ofalu am eraill pan fydd arnynt ei angen fwyaf.
Ffion Myfyriwr Nyrsio Oedolion (BN)

Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau

Ystafell Efelychu Caerllion

Mae ein hystafell efelychu yn adlewyrchu lleoliadau clinigol sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a phrofiad allweddol.

LT1

Darlithfa

Mae ein darlithfa wedi'i hadnewyddu yn cynnal sesiynau addysgu mawr.

Flat 189

Fflat 189

Mae fflat 189 yn galluogi myfyrwyr i ymarfer sgiliau asesu a thrin mewn amgylchedd cartref.

Ystafell sgiliau

Ein cyfleuster lle mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau fel Cynnal Bywyd Sylfaenol.

Ardal myfyrwyr

Ardal ddynodedig i'r myfyrwyr ei ddefnyddio yn ystod seibiannau a cyn ac ar ôl darlithoedd.

Lolfa IV

Mae ein man hamdden a chaffeteria hefyd yn gartref i Undeb Myfyrwyr ar Gampws y Mynydd Bychan.

Llyfrgell Campws y Mynydd Bychan

Mae adnoddau addysgol ar gyfer ein rhaglenni iechyd gofal ar gael yn ein llyfrgell ar y safle.

Ystafell ymarferol

Mae gennym lawer o ystafelloedd ymarferol lle y gall myfyrwyr ymarfer a datblygu eu sgiliau clinigol.

Dewch i fod yn rhan o rywbeth arbennig

Ydych chi am ddewis cwrs sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Gyda chyrsiau hygyrch, darlithwyr ysbrydoledig, a gwneud ffrindiau oes, rhyddhewch eich potensial gyda ni a dechrau gyrfa y byddwch chi'n ymfalchïo ynddo.

Mwy i wylio

Crëwyd y fideos canlynol gan staff a myfyrwyr i ddathlu Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig 2020.

Rhai o'n cynfyfyrwyr yn rhannu negeseuon arbennig gyda ni.

Negeseuon gan ein cynfyfyrwyr

Rhai o'n cynfyfyrwyr yn rhannu negeseuon arbennig gyda ni.

...drwy ddweud wrthym pam mae nhw'n caru bod yn fyfyrwyr nyrsio.

Bydd ein myfyrwyr yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2020

...drwy ddweud wrthym pam mae nhw'n caru bod yn fyfyrwyr nyrsio.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi mai 2020 yw Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig.

Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig 2020

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi mai 2020 yw Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni

screen

Ein rhaglenni Nyrsio Oedolion (BSc)

Rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad, ffioedd dysgu a mwy

Download icon

Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol

Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.

icon-chat

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

mobile-message

Dilynwch ni ar Twitter

I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.

Gallai fod diddordeb gennych hefyd yn

Student nurse taking notes

Nyrsio iechyd meddwl

Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen yw’r un orau yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU.