Ewch i’r prif gynnwys

Daearyddiaeth Ffisegol (MSci)

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae daearyddwyr ffisegol yn archwilio esblygiad arwyneb y Ddaear a’r wyddoniaeth sydd y tu ôl i’w phrosesau ffisegol.

screen

Cyfleusterau o ansawdd uchel

Bydd y technolegau diweddaraf mewn offer arolygu a mapio, labordai cemegol a labordai gyda System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ar gael ar eich cyfer.

briefcase

Cysylltiadau cryf

Mae ein cysylltiadau rhagorol â sefydliadau lleol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth Aber Afon Hafren, yn helpu ein myfyrwyr i ddod o gyfleoedd i wneud prosiectau a mynd ar leoliadau gwaith.

star

Cwrs hyblyg

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ofyn am gael eich symud i raglen radd MSci neu newid i gwrs arall yn yr un Ysgol ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

location

Lleoliad gwych

O fynyddoedd trawiadol y gogledd i aber llanwol bioamrywiol yn y de, mae gan Gymru yn lle chwarae i ddaearyddwyr gan fod ystod enfawr o amgylcheddau naturiol i’w harchwilio.

globe

Cyfleoedd gwaith maes

Bydd teithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes yn rhan o ffioedd eich cwrs.

Mae ein planed yn esblygu ac yn ail-lunio ei hun yn barhaus. Mae angen i ni ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i brosesau a pheryglon ffisegol, fel llifogydd ac erydu arfordirol, fel y gallwn ni addasu a dod o hyd i atebion i’r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. 

Byddwch yn archwilio sut mae’r Ddaear yn gweithredu ac yn dysgu am beryglon byd-eang mewn llosgfynyddoedd a thirlithriadau ac yn ymchwilio i sut mae tirweddau'n esblygu dros amser yn rhan o’n cwrs Daearyddiaeth Ffisegol. Byddwch yn astudio prosesau ffisegol o bedwar ban byd – o brosesau rhewlifol i ddiffeithdiro. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn mapio ac ymchwilio, ac yn ennill profiad mewn defnyddio meddalwedd ac offer safonol yn y diwydiant. 

Rydym yn manteisio i’r eithaf ar ein lleoliad ac yn mynd ar deithiau dydd rheolaidd ar yr arfordir ac i Fannau Brycheiniog yn ne Cymru. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd dramor, ac yn y gorffennol mae ein myfyrwyr daearyddiaeth wedi bod yn y Swistir a Tenerife.

Yn y bedwaredd flwyddyn o’r MSci, bydd gennych y cyfle, yn amodol ar berfformiad academaidd, i weithio ar brosiect ymchwil cyffrous gydag academydd o'r Ysgol a'i staff ymchwil. Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil datblygedig, sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn ymchwil academaidd. Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil datblygedig y mae eu hangen i ddilyn gyrfa mewn ymchwil academaidd ac ymgynghori.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daearyddiaeth (Ffisegol)

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth Lefel Uwch) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gyda dau bwnc gwyddonol Lefel Uwch). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn.

Bydd angen Mathemateg TGAU ar Radd B neu Radd 6 a TGAU Saesneg Iaith ar Radd C neu Radd 4 neu gyfwerth Saesneg derbyniol www.cardiff.ac.uk/study/international/english-language-requirements/undergraduate.

 

Gofynion Iaith Saesneg ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt o’r DU

Cynnig IELTS nodweddiadol: Mae'n ofynnol i ymgeiswyr, nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf, fod wedi sicrhau sgôr o 6.5 o leiaf yn arholiad (Academaidd) IELTS neu gyfwerth ag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, h.y. siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol yn gymwys i wneud cais am Raglen Cymorth Ariannol Caerdydd i helpu gyda’r costau hyn.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas arnoch gan gynnwys dillad ar gyfer tywydd cynnes, gwynt a siacedi i’ch diogelu mewn stormydd ac esgidiau cerdded. Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar iechyd a diogelwch yn ogystal ag offer maes arbenigol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs amser llawn a phedair blynedd o hyd yw hwn. Byddwch yn astudio am eich gradd Bagloriaeth a Meistr ar yr un pryd. Mae’r tair blynedd gyntaf wedi’u strwythuro yn yr un ffordd â’r cwrs BSc, ac yna byddwch yn cwblhau eich cymhwyster Meistr ym mlwyddyn pedwar.

Byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn dysgu sylfaen gref mewn daearyddiaeth forol yn eich blwyddyn gyntaf. Ceir modiwlau craidd a modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau i flwyddyn pedwar, felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis y meysydd astudio sydd o ddiddordeb i chi. Mae blwyddyn tri a blwyddyn pedwar yn cynnwys traethawd ymchwil hir.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau craidd sydd wedi'u cynllunio i roi sylfaen gref i chi ym maes gwyddorau'r Ddaear a daearyddiaeth. Mae pynciau’n cynnwys cefnforoedd, yr hinsawdd, prosesau’r ddaear ac amgylcheddau byd-eang. Byddwch yn datblygu sgiliau daearyddol hanfodol megis gwaith map a siartiau, Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) a dadansoddi data daearyddol.

Mae pob un o'r graddau yn yr Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol yn astudio'r un semester cyntaf. Ar ôl semester un, gallwch benderfynu a ydych am barhau â’ch dewis gwreiddiol neu newid i un o’r graddau eraill (megis Daearyddiaeth Forol neu Amgylcheddol).

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn, ac mae pob modiwl craidd yn werth 20 o gredydau.

Blwyddyn dau

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth o flwyddyn un ac yn dechrau archwilio cysyniadau mwy datblygedig fel geomorffoleg prosesau a hydroleg. Byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad mewn samplu, casglu a dadansoddi data yn barod ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl i barc cenedlaethol arfordirol yng Nghymru (naill ai Sir Benfro neu Eryri) lle byddwch yn dysgu sgiliau maes allweddol gan gynnwys mapio ac arolygu.

Yn ystod yr haf rhwng blwyddyn dau a blwyddyn tri, byddwch yn cwblhau pum wythnos o ymchwil annibynnol i’ch paratoi chi ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri. Gallwch ddewis ymchwilio i faes sydd o ddiddordeb i chi, gan gynnwys pynciau megis llifogydd ac erydu arfordirol, newidiadau i’r dirwedd yn y dyfodol a newidiadau i broffiliau clogwyni ar hyd arfordiroedd sy’n erydu ar hyn o bryd.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys modiwlau craidd 40 a 20 o gredydau a dewis o fodiwlau dewisol gwerth 20 o gredydau.

Blwyddyn tri

Bydd gennych fwy o ryddid i lywio eich gradd yn eich trydedd flwyddyn ac yn dewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir a Geomorffoleg Amgylcheddol. Gallwch ddewis astudio amrywiaeth o bynciau arbenigol fel Newid Hinsawdd y Byd fel rhan o'ch modiwlau dewisol.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl dramor i leoliad yn Ewrop lle byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn monitro amgylcheddol ac arolygu’r dirwedd ffisegol. Rydym wedi bod i’r Iseldiroedd a’r Swistir yn y gorffennol.

Blwyddyn pedwar

Byddwch yn astudio ar gyfer eich gradd Meistr ym mlwyddyn pedwar. Mae eich modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir (60 o gredydau) a modiwl gwaith maes. Gallwch ddewis o blith pynciau megis busnes ac ymgynghori a modelu daearyddol uwch ar gyfer eich modiwlau dewisol.

Gallwch ddewis cwblhau traethawd hir eich gradd meistr ar unrhyw bwnc yn ymwneud â daearyddiaeth ffisegol y gallwn ei oruchwylio yn yr Ysgol. Gallwch naill ai ddewis o blith rhestr o brosiectau posibl a gaiff ei chylchredeg gan yr Ysgol, neu gallwch weithio gyda goruchwyliwr i lunio prosiect mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Byddwch yn gweithio un-i-un gyda goruchwyliwr ymchwil drwy gydol y flwyddyn a chyda grŵp ehangach o fyfyrwyr ymchwil a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant o bosibl. Mae rhai o’r prosiectau ymchwil Meistr gorau wedi’u cyhoeddi mewn llenyddiaeth wyddonol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a chewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n cynnal ymchwil arloesol yn rhyngwladol.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Cewch hefyd eich annog i ddysgu’n annibynnol ac mewn grwpiau drwy gydol y cwrs, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau rheoli prosiect a threfnu yn ogystal â datblygu eich gallu wrth gymhwyso technoleg gwybodaeth a defnyddio technegau ac offer o’r radd flaenaf.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cefnogaeth

Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir tiwtor personol i chi ac mi fyddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlwyddyn dau a thri. Bydd eich tiwtor personol yn arbenigwr yn eich cwrs gradd dewisol, a gall gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn tri a phedwar, byddwch hefyd yn cael goruchwyliwr ar gyfer eich traethawd hir a'ch prosiectau blwyddyn olaf.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bo'n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan wefan Dysgu Canolog fodiwl Cynllunio Datblygiad Personol hefyd sy’n eich helpu i asesu eich cynnydd yn rheolaidd ac i ddiwallu eich anghenion datblygu.

Gwasanaethau cefnogi

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a'n statws Efydd ( https://www.cardiff.ac.uk/earth-ocean-sciences/about-us/equality-diversity-and-inclusivity ).

Sut caf fy asesu?

We will be assessing your level of knowledge and understanding in each module through a combination of assignments, presentations, fieldwork, examinations and a dissertation. You will receive written and oral feedback on your coursework and there are opportunities for informal feedback throughout the course.

You will complete a wide range of assessments, from traditional essays, data interpretation exercises and posters on topical themes to more interactive assignment experiences including group presentations, technical reports and briefing papers. These different assessments are designed to give you professional assessment experience and help you prepare for employment.

 

NOTE: The University welcomes applications from students with disabilities and we endeavour to offer reasonable alternative assessment methods wherever possible.   We have an Alternative Fieldwork Policy which is adopted in cases where a student cannot attend a scheduled, taught field course, or part(s) thereof, because of extenuating circumstances.      

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dealltwriaeth systematig a beirniadol o brosesau gofodol ac amserol sy'n ymwneud â phrosesau systemau’r ddaear, gan gynnwys dealltwriaeth eang o'r rhyngberthynas rhwng y rhain ar ystod o raddfeydd
  • Dealltwriaeth a beirniadol eang o heriau byd-eang gan gynnwys risgiau a pheryglon sy'n gysylltiedig â phrosesau system y ddaear, gan gynnwys dulliau o lywodraethu'r rhain
  • Dealltwriaeth feirniadol systematig o natur amlddisgyblaethol Daearyddiaeth Ffisegol, gan gynnwys ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o'r angen i integreiddio gwybodaeth o'r gwyddorau cytras, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â gwyddorau cefnfor, atmosfferig, ffisegol ac amgylcheddol
  • Gwerthfawrogiad a chymhwysiad trylwyr o'r broses wyddonol, gan gynnwys dylunio a phrofi damcaniaethau, a llunio cysyniadau newydd
  • Llunio, dylunio a defnyddio methodoleg labordy, maes a/neu gyfrifiadurol briodol sy'n berthnasol i brosiect ymchwil lefel uchel

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol :

  • Dadlau, dehongli a gwerthuso achosion a graddfeydd prosesau system ddaear gyfoes ac yn y dyfodol wrth gymhwyso syniadau, cysyniadau a dulliau perthnasol yn feirniadol
  • Casglu, coladu, syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth Daearyddiaeth Ffisegol, gan ddefnyddio dulliau perthnasol mewn meysydd cysylltiedig o wyddoniaeth
  • Gwerthuso’n feirniadol ymchwil gyfredol mewn agweddau dethol ar Ddaearyddiaeth Ffisegol, gan ddangos gwerthfawrogiad o ansicrwydd, amwysedd a therfynau dealltwriaeth wyddonol gysylltiedig
  • Gweithio’n effeithiol ar draws disgyblaethau i gysylltu gwybodaeth a phrofiad o wyddorau perthynol i gynnal gwerthusiad beirniadol o’r wyddoniaeth sy’n gysylltiedig â phrosesau system y ddaear
  • Y gallu i ddatrys problemau gwyddonol cymhleth yn greadigol ac yn annibynnol
  • Modelu a dehongli data daearyddol ffisegol i gynhyrchu damcaniaethau y gellir eu profi gyda data ychwanegol neu eu harsylwi

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dadansoddi a dehongli'n feirniadol ystod o wahanol fathau o ddata sy'n gysylltiedig â'r prosesau ymchwil daearyddiaeth ffisegol i ymchwilio i ystod o bynciau amserol ar wyneb y ddaear a chysyniadau damcaniaethol
  • Cynllunio, dylunio a chynnal ymchwil sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth ffisegol, gan ddefnyddio'n feirniadol ystod o ddulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data mewn astudiaethau maes, ar y môr, yn y labordy ac wrth ddesg.
  • Cymhwyso dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn fformatau cartograffig a graffig priodol gan ddefnyddio platfformau priodol, gan gynnwys GIS
  • Mynd i'r afael â phroblemau ymchwil sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data amrywiol, sy’n aml yn anghyflawn ac ansicr gan ddefnyddio methodolegau a dulliau ansoddol a meintiol priodol
  • Arddangos sgiliau ymarferol datblygedig a chymhwysedd mewn technoleg gwybodaeth, systemau gwybodaeth ddaearyddol, technegau cartograffig, ystadegol a dadansoddol eraill
  • Defnyddio sgiliau rheoli prosiect a threfnu effeithiol drwy weithio'n annibynnol a thrwy weithio mewn tîm
  • Deall yr agweddau ar gasglu data o ran cyfyngiadau ymarferol, logisteg, diogelwch a moesegol, a hynny mewn amrywiol amgylcheddau, a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon, fel sy'n briodol i ymchwil gymhwysol uwch
  • Y gallu i gynllunio prosiect cymhleth yn annibynnol sydd ar flaen y gad mewn pwnc ymchwil
  • Modelu data daearyddol ffisegol rhifiadol cymhleth a dod i gasgliadau priodol ar sail gwaith modelu o'r fath

Sgiliau Trosglwyddadwy/ Allweddol

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg
  • Y gallu i weithio'n gymwys yn unigol neu fel rhan o dîm wrth osod problemau a datrys problemau o fewn ystod o amgylcheddau ymchwil cymhwysol uwch lle mae’r dasg o wneud penderfyniadau’n gymhleth ac yn amlddisgyblaethol
  • Y gallu i ymgymryd ag astudiaeth annibynnol ac ysgolheictod personol uwch, wedi'u meithrin trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, menter a phrofiadau hunan-ddysgu
  • Ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu yn y broses o gynllunio datblygiad personol a chymryd yr awennau ar eich addysg eich hun
  • Y gallu i ddatrys problemau yn ogystal â dibynadwyedd, teyrngarwch, ymddygiad cymdeithasol, pwyll, agwedd at ddysgu ac ymchwil, arweinyddiaeth, gwytnwch, gwneud penderfyniadau a rhesymu

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Gyda’r blaned dan bwysau cynyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a thirwedd newidiol, mae galw mawr am wybodaeth a sgiliau daearyddwyr ffisegol. A chithau’n ddaearyddwr ffisegol, gallwch ddefnyddio eich dealltwriaeth o brosesau’r Ddaear i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i nifer o heriau cymhleth rydym yn eu hwynebu heddiw ac y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gwahanol a rolau llywodraeth, asiantaethau llywodraethol neu gwmnïau ymgynghori amgylcheddol, gan gynnwys gweithio fel arbenigwr technegol neu ddadansoddwr geo-ofodol. Bydd gennych hefyd sgiliau y gellir eu rhoi ar waith mewn sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio.

Bydd eich sgiliau ymchwil datblygedig, eich arloesedd a’ch menter o’r radd Meistr yn amhrisiadwy i gyflogwyr yn y byd academaidd, y llywodraeth a’r diwydiant. Mae nifer o swyddi uwch mewn gyrfaoedd yn ymwneud â daearyddiaeth ffisegol yn gofyn am gymhwyster ar lefel Meistr o leiaf.

Mae rhai o’n myfyrwyr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio yn Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, llywodraeth leol, cwmnïau ymgynghori amgylcheddol ac elusennau amgylcheddol.

Gwaith maes

Rhwng y mynyddoedd trawiadol yn y gogledd ac aber llanw bioamrywiol yn y de, cewch chi gyfoeth o brofiadau ymarferol yn archwilio rhai o ardaloedd o ddiddordeb daearyddol mwyaf unigryw y DU.

Rydym yn mynd ar deithiau dydd rheolaidd ar hyd yr arfordir ac i fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn Ne Cymru, yn ogystal â thaith breswyl i Eryri, a thaith dramor i Ewrop. Mae lleoliadau blaenorol yn cynnwys y Swistir a Tenerife.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.