Ewch i’r prif gynnwys

Bwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio

Rydym yn rhoi bwrsariaeth gwerth £1,000 y flwyddyn academiadd i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio israddedig ag ôl-raddedig llawn amser.

Pwy sy’n gymwys

I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod y myfyrwyr:

  • yn fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig amser llawn a addysgir ac
  • o dan 25 oed ar adeg dechrau’r cwrs ac
  • yn gymwys i gael eu hariannu fel myfyrwyr ‘cartref’ ac
  • wedi ymddieithrio mewn modd na ellir ei gymodi oddi wrth y ddau riant biolegol neu fabwysiadol neu’r unig riant sy’n dal yn fyw, ac wedi cael asesiad gan Gyllid Myfyrwyr fel myfyriwr annibynnol oherwydd yr ymddieithrio

Ystyrir ceisiadau am y Fwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio ar sail achos unigol.

Bydd angen tystiolaeth o’ch statws ymddieithrio ynghyd â’th ffurflen gais arnom. Byddai copi o’r dystiolaeth a roddwyd i Gyllid Myfyrwyr yn ddigonol.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ynghylch y dyfarniad hwn, cysylltwch â’r Tîm Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau.

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau