Bwrsariaeth wrth Adael Gofal
Os ydych yn fyfyriwr sydd naill ai mewn gofal neu wedi gadael gofal, gallwch fod yn gymwys am Fwrsariaeth wrth Adael Gofal.
Pwy sy’n gymwys
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i fyfyrwyr fodloni pob un o'r meini prawf canlynol:
- yn fyfyrwyr is-raddedig llawn amser
- o dan 25 adeg dechrau’r cwrs
- yn gymwys i gael eu hariannu fel myfyrwyr ‘cartref’
- yn gadael gofal.
Person ifanc sy’n gadael gofal yw rhywun sydd wedi bod yng ngofal eu hawdurdod lleol (ALl), neu wedi derbyn llety ganddynt am gyfnod o 13 wythnos o leiaf ar ôl cyrraedd 14 oed. Mae’n rhaid hefyd eu bod nhw heb gymodi â’u rhieni rhwng gadael gofal a chychwyn ar eu cwrs. Sylwer nad yw myfyrwyr sydd wedi cael eu mabwysiadu yn gymwys am y bwrsari.
Swm a ddyfarnwyd
Hyd at £3,000. Gellir gwneud y taliad hwn ar ben Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth
I gael mwy o fanylion am y wobr hon, cysylltwch â Lena Smith.
Lena Smith
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor i'ch galluogi i wneud dewis gwybodus am astudio gyda ni.