Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau personol effeithio ar eich penderfyniad i wneud cais i'r brifysgol a hefyd y gall amgylchiadau newid yn ystod eich cwrs.
Bydd y canlynol yn rhoi syniad i chi o’r cymorth y gellir ei gynnig a'r polisïau sydd eisoes ar waith.
Rydym wedi datblygu pecyn cymorth ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gwneud cais am loches, ond sydd heb dderbyn penderfyniad gan y Swyddfa Gartref eto.
Mae gennym becyn cefnogaeth hael i fyfyrwyr sydd naill ai mewn gofal, neu sydd wedi gadael gofal. Lluniwyd y pecyn hwn ar gyfer ymadawyr gofal sydd â’u preswylfa barhaol yn y Deyrnas Unedig.
Rydym ni’n gweithio gyda myfyrwyr sydd ag amrywiaeth o anableddau, gan gynnwys amhariadau corfforol neu synhwyraidd, anawsterau dysgu penodol, cyflyrau meddygol tymor hir a chyflyrau iechyd meddwl.
Defnyddir y ‘term myfyriwr sydd wedi ymddieithrio’ i gyfeirio at fyfyrwyr ifanc sy'n astudio heb gymorth rhwydwaith teuluol. Rydym wedi llunio pecyn cymorth i helpu myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio.
Rydym yn sefydliad sy’n cefnogi’r lluoedd arfog ac yn ymrwymedig i gefnogi dynion/menywod a fu’n aelodau o’r lluoedd arfog a’u dibynyddion, trwy ein Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog yn wynebu anfantais mewn Addysg Uwch.
Rydym am gefnogi ein holl staff a myfyrwyr yn eu dewis o hunaniaeth rhywedd ac mae gennym ganllawiau i helpu gyda hyn.
Gall myfyrwyr LHDT+ wynebu heriau gwahanol yn y brifysgol ac mae gennym wasanaethau i'ch cefnogi. Rydym am sicrhau ein bod yn darparu’r cymorth gorau i’n holl fyfyrwyr.
Myfyriwr israddedig sy’n 21 oed neu’n hŷn yw myfyriwr aeddfed. Mae gennym nifer o wasanaethau ar gael i gefnogi eich astudiaethau gyda ni.
Mae Caerdydd yn ddinas amlddiwylliannol lle mae llawer o wahanol grefyddau'n cael eu hymarfer. Dylid trin unigolion a grwpiau ag urddas a thegwch beth bynnag fo'u credoau crefyddol a/neu athronyddol.
Rydym ni’n cydnabod gofalwyr fel y rhai sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch neu anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu ddibyniaeth. Rydym yn datblygu pecyn cymorth ynghylch cefnogi myfyrwyr sy’n ofalwyr.
P’un a oes gennych chi blentyn eisoes neu rydych chi ar fin dod yn rhiant, mae cyfoeth o wasanaethau ar gael i gefnogi eich astudiaethau gyda ni.