Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu Trefol a Rhanbarthol (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Video providing details on the MSc Urban and Regional Development. School of Geography and Planning.

Mae'r MSc hwn yn gyfle i ddeall newid economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol drefi, dinasoedd, rhanbarthau a dinas-ranbarthau yn fyd-eang.

briefcase

Cydnabyddiaeth broffesiynol

Wedi’i hachredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

globe

Cyd-destun byd-eang

Y cyfle i gael dealltwriaeth o newid economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol drefi, dinasoedd, rhanbarthau a dinas-ranbarthau yn fyd-eang.

people

Dan arweiniad arbenigwyr

Byddwch yn dysgu gan, ac yn ymgysylltu â, staff sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n gweithio ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth.

star

Gwneud gwahaniaeth

Byddwch yn datblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i helpu i fynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu dinasoedd a'u poblogaethau.

Mae ein rhaglen MSc Datblygu Trefol a Rhanbarthol (sy’n cael ei hachredu gan RICS ac yn cael ei hachredu’n rhannol gan RTPI) wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd am ddeall mwy am theori ac ymarfer datblygu economaidd trefol a rhanbarthol.

Mae datblygiad economaidd dinasoedd a rhanbarthau yn dod yn fwyfwy pwysig mewn economi fyd-eang a nodweddir gan newid technolegol cyflym, economïau sy’n trawsnewid a globaleiddio. Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r meddwl beirniadol i chi i ateb yr her o ddatblygu economïau cystadleuol, deallus, cynaliadwy a chynhwysol.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth am natur a ffynhonnell y newid economaidd hwn a chydnabod ei effaith anghyson ar wahanol grwpiau cymdeithasol, cymunedau a gwledydd. Gan ddefnyddio dadleuon damcaniaethol amserol am ddatblygiadau gofodol anghyson a'r heriau y mae hyn yn eu cyflwyno ar raddfeydd gofodol penodol, bydd y rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau allweddol - dadansoddi data, ymchwilio a datrys problemau - sydd eu hangen arnoch i lunio datblygiadau lleol a rhanbarthol drwy arloesi mewn polisi ac ymarfer.

Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar adeiladu rhwydwaith a chonsensws drwy edrych ar strwythurau a fframweithiau ar gyfer ymgysylltu a gweithio ar draws gwahanol ddiwydiannau, sectorau a sefydliadau - gan gynnwys mentrau cyhoeddus, preifat, trydydd sector a chymdeithasol.

Byddwch yn ennill y sgiliau beirniadol a dealltwriaeth gadarn am bolisi i fynd i'r afael â'r her ymarferol o gynllunio strategaethau a fydd yn helpu dinasoedd a rhanbarthau i ddod yn lleoedd mwy arloesol a gwydn i fyw a gweithio ynddyn nhw.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, cynllunio celf a dylunio, peirianneg, dylunio amgylcheddol/daearyddiaeth gwyddoniaeth, dylunio trefol neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen MSc amser llawn, a addysgir dros flwyddyn ac sy'n cynnwys modiwlau sy'n dod i gyfanswm o 180 credyd.

Mae wedi'i rhannu'n ddwy ran:

  • Rhan un: rhaglen addysgu o fodiwlau craidd a dewisol dros ddau semester.
  • Rhan dau: traethawd hir unigol ar bwnc o’ch dewis, wedi’i ddewis mewn ymgynghoriad ag aelodau o staff. Er bod rhywfaint o gyfyngiadau o ran y pwnc y gellir ei ddewis, rhaid iddo fynd i'r afael ag o leiaf un o themâu craidd y rhaglen Datblygu Trefol a Rhanbarthol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Blwyddyn dau

Byddwch yn ymgymryd â'ch traethawd hir yn ystod ail flwyddyn eich astudiaethau.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu yn cael eu defnyddio drwy gydol y rhaglen hon.

Byddwch yn mynychu darlithoedd, yn cymryd rhan mewn seminarau a thrafodaethau, ac yn mynychu ymweliadau astudiaethau maes. Mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau a addysgir yn y rhaglen yn orfodol, er bod rhywfaint o le i ddewis yn yr ail semester ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dylech fynychu holl sesiynau'r rhaglen sydd wedi'u hamserlennu - darlithoedd, seminarau a chyflwyniadau - ond disgwylir i chi hefyd astudio’n annibynnol, am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Sut y caf fy asesu?

Mae amrywiaeth o ddulliau asesu crynodol yn cael eu defnyddio. Mae'r rhain yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig ffurfiol, testunau ysgrifenedig, aseiniadau ysgrifenedig sy’n amrywio o ran hyd, prosiectau sy'n gofyn am ddata empirig, astudiaethau achos, cyflwyniadau dan arweiniad myfyrwyr, adolygiadau o ymchwil gyfredol, ymchwil yn y llyfrgell, fformatau a phynciau a drafodwyd ar y cyd.

Asesir gwaith cwrs pob modiwl bellach, ar wahân i ddau (sy’n defnyddio arholiadau). Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ddilyn a datblygu diddordebau a themâu penodol ar draws ystod o fodiwlau gwahanol. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd pellach i chi weithio'n annibynnol a dangos sgiliau ymarferol, proffesiynol a throsglwyddadwy lefel uchel.

Bydd gwaith cwrs fel arfer yn cynnwys un darn o waith 4000 -5000 o eiriau oni nodir yn wahanol. Bydd rhywfaint o waith cwrs yn cael ei asesu ar ffurf gwaith sy'n seiliedig ar brosiect lle mae hyn yn briodol i'r set sgiliau a'r deilliannau dysgu.

Y darn mawr o waith prosiect fydd y traethawd hir. Bydd hyn yn cynnwys darn annibynnol o ddadansoddi ac ymchwil empirig. Bydd y traethawd hir yn rhan integredig o'r cynllun gyda modiwl paratoadol (Dulliau Astudiaeth Ymchwil) sy'n ceisio rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i chi gwblhau'r ymarfer yn llwyddiannus.

Bydd disgwyl i chi gwblhau'r traethawd hir erbyn diwedd mis Medi eich blwyddyn olaf.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau’r cwrs. Bydd y tiwtor hwn gyda chi drwy gydol y ddwy flynedd.

Mae pob modiwl yn defnyddio Dysgu Canolog, ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir, yn helaeth. Yma, byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau eich cwrs.

Byddwch yn cael cyfle i fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl Cynllunio Datblygiad Personol, sydd ar gael ar Dysgu Canolog, drwy'r modiwl Datblygiad Proffesiynol sy'n rhan annatod o brofiad y trydydd semester, a thrwy gyfarfodydd â’ch tiwtor personol.

Adnoddau a chyfleusterau

  • Mynediad i labordy cyfrifiaduron pwrpasol gyda pherifferolion o safon uchel gan gynnwys; argraffu laser ar gyfrif rhwydwaith, argraffu lliw fformat mawr, argraffu lliw maint A4
  • Cyfleusterau GIS/gweithfan/mynediad at gyfleuster mapio digidol digimap Edina;
  • Dau dechnegydd cyfrifiadurol penodol
  • Labordy 30 cyfrifiadur mynediad agored yn Adeilad Morgannwg
  • Llyfrgell ragorol sy’n cynnwys dros 12000 o lyfrau arbenigol, 280 o gyfnodolion, a gwariant o dros £100,000 ar stoc bob blwyddyn
  • Mynediad at gyfleusterau adnoddau dyslecsia
  • Cymorth i fyfyrwyr sy’n gweithio/cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cyflwyno sgiliau proffesiynol yn ystod yr wythnos ymsefydlu i roi hyfforddiant i fyfyrwyr ar ddefnyddio cyfrifiaduron; sgiliau cyflwyno ac ati

Adborth

Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar bob asesiad. Darperir canllawiau ffurfiannol ar ymarferion heb eu hasesu, gan gynnwys cyflwyniad llafar yn seiliedig ar y traethawd hir drafft.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn ennill ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr - yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol.

Fel myfyriwr ar y rhaglen hon byddwch yn:

  • Datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol feirniadol am brosesau newid economaidd-gymdeithasol mewn persbectif cymharol - mewn trefi, dinasoedd, rhanbarthau a dinas-ranbarthau ledled y byd
  • Datblygu sgiliau dadansoddi data ac ymchwil cadarn, yn enwedig wrth ddadansoddi datblygiad anghyson ar raddfeydd cymunedol rhanbarthol a mwy lleol
  • Ennill sgiliau ymarferol wrth ddyfeisio strategaethau datblygu trefol a rhanbarthol
  • Gallu ymwneud â’r heriau ymarferol a’r heriau polisi o fynd i'r afael â datblygiad anghyson rhwng lleoedd a myfyrio’n feirniadol arnyn nhw
  • Datblygu dealltwriaeth o'r fframweithiau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a gofodol sy'n llunio polisi ac ymarfer datblygu trefol a rhanbarthol
  • Datblygu cymhwysedd mewn dadansoddi polisi mewn gwahanol leoliadau sefydliadol a graddfeydd gofodol
  • Mireinio sgiliau personol a chyfathrebu o ran hunanreoli, meithrin tîm, dadansoddi, gwneud penderfyniadau, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno
  • Datblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol i lefel uwch mewn meysydd penodol
  • Gwerthfawrogi a gwerthuso'r rhyngweithio rhwng theori, polisi ac ymarfer a hunanymwybyddiaeth feirniadol o'ch ymarfer proffesiynol eich hun.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,350 Dim
Blwyddyn dau £5,350 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,725 £2,500
Blwyddyn dau £11,725 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r cwrs yn cynnig y wybodaeth a'r arbenigedd i'ch galluogi i weithio mewn nifer fawr o yrfaoedd sy'n gysylltiedig â datblygu trefol a rhanbarthol. Gall y rhain amrywio o ymchwil, datblygu polisi a gweithredu, rolau cynllunio o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat i asiantaethau a busnesau sy'n ymwneud â phrosiectau newydd ac ail-ddatblygu.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Geography and planning, Social sciences


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.