Ewch i’r prif gynnwys

Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Astudiaethau Addysg) (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Hyfforddiant uwch mewn dulliau ymchwil sy'n eich paratoi ar gyfer astudiaethau PhD neu alwedigaethau ymchwil.

star

Llwybrau arbenigol

Cewch ddewis llwybr sy’n cyd-fynd â’ch prif faes diddordeb.

academic-school

Ymwneud ag ymchwil newydd

Gallwch gymryd rhan yng ngweithgareddau grwpiau ymchwil yr Ysgol; mae ystod eang ohonynt!

certificate

Wedi’i llywio gan arbenigwyr

Mae'r rhaglen yn cael ei dylanwadu gan ymchwil ein staff academaidd; ymchwil sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol.

academic-school

Ymchwil annibynnol

Cewch gymryd rhan mewn ymchwil annibynnol wedi'i seilio ar hyfforddiant dulliau dosbarth-cyntaf, yn rhan o'ch traethawd hir terfynol.

Bydd y cwrs MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig uwch-hyfforddiant mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol. Mae gan bob llwybr cwrs gydnabyddiaeth ESRC ac maent yn bodloni’r anghenion hyfforddiant ar gyfer cyllid PhD ESRC.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd helaeth i astudio’n rhyngddisgyblaethol, i gymhwyso arbenigedd o ran ymchwil gymdeithasol at ddatblygu gyrfa alwedigaethol, ac i fynd ar drywydd maes sylweddol o ddiddordeb ar lefel ôl-raddedig.

Cewch lawer iawn o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am lunio astudiaethau ymchwil effeithiol, am yr amrywiaeth o ddulliau o gasglu data sydd ar gael i’r gwyddonydd cymdeithasol ac am y prif ddulliau o ddadansoddi data o fyd y gwyddorau cymdeithasol. Hefyd, cewch eich cyflwyno i’r fframweithiau gwleidyddol a moesegol y gwneir ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol ynddynt, a rhai o’r ffyrdd o ledaenu canlyniadau ymchwil gwyddorau cymdeithasol.

Llwybr addysg

Mae hyfforddiant ymchwil ym maes Addysg yn adeiladu ar yr ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol a gynhelir gan ein staff academaidd. Byddwch yn elwa ar y wybodaeth arbenigol hon ym maes ymchwil addysg, yn ogystal ag ar ein proffil rhyngddisgyblaethol o fewn y Gwyddorau Cymdeithasol.

Fe gewch chi’ch annog i fynd a chymryd rhan yng ngweithgareddau ein Grŵp Ymchwil Addysg, sy’n cynnal cyfarfodydd cyson i gynnig cyfleoedd i rannu syniadau a thrafod materion polisi ac ymarfer ymchwil sy’n ymwneud ag addysg.

Fe wnaeth yr MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol fy ngalluogi i ddilyn fy niddordebau ymchwil mewn ymchwil addysgol. Un uchafbwynt penodol oedd y modiwl Sylfeini’r Gwyddorau Cymdeithasol, lle llwyddais i ymchwilio i athroniaeth y gwyddorau cymdeithasol. Roedd yr addysgu’n dda iawn ac mae’r cynnwys a ddysgais yn ystod y modiwl wedi bod yn arwyddocaol yn nyluniad fy ymchwil PhD. Mae astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi bod mor fuddiol ac wedi darparu cymaint o gyfleoedd i mi, o astudio yn Beijing i gyflwyno ymchwil ym Mhalas San Steffan.
Ross Goldstone, MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Astudiaethau Addysgol)

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5179
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Applicants should normally hold a first or upper second-class undergraduate degree in a humanities or social sciences subject. However, other applicants will be considered if they can demonstrate, through recent and relevant experience, that they have the ability to undertake the course.

Applicants whose first language is not English are required to obtain a minimum overall IELTS score of 6.5 with at least 6.5 in writing, and at least 5.5 in all other sub-sections. An equivalency in another English Language qualification may be accepted. Applicants who require a Tier 4 visa to study in the UK must present an acceptable English language qualification in order to meet UKVI (UK Visas and Immigration) requirements.

This course is suitable for graduates in social science and cognate disciplines including sociology, politics, critical psychology, education, social policy and social work, criminology, management and business studies, history, area studies, geography, pedagogy, public administration, industrial and employee relations, and law.

Application deadline: 31 August

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Rhaglen amser llawn dros flwyddyn yw hon.

Bydd gofyn i chi gwblhau chwe modiwl 20 credyd - pum modiwl ymchwil craidd ac un modiwl llwybr arbenigol. Ym mhob modiwl cewch gyfle i ddefnyddio llenyddiaeth ac ymchwil sy'n berthnasol i'ch llwybr.

Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau. Mae angen astudio'n annibynnol ar gyfer y gydran traethawd hir sy’n 60 credyd. Y myfyrwyr fydd yn dewis pynciau eu traethawd hir, mewn cytundeb â'u goruchwylwyr.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Developing Core Research SkillsBST70320 credydau
Foundations of Social Science ResearchCPT89820 credydau
Qualitative Research MethodsSIT70020 credydau
Quantitative Research MethodsSIT70120 credydau
Research ApplicationsSIT70320 credydau
Debates in Educational ResearchSIT70420 credydau
DissertationSIT07860 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd eich rhaglen yn cynnwys gweithgareddau dysgu ar yr amserlen (gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol) ac astudio annibynnol o dan arweiniad.

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan weithredol yn yr holl weithgareddau addysgol ar eich rhaglen astudio, paratoi at yr holl weithgareddau addysgu ar yr amserlen a bod yn bresennol ynddyn nhw, a dod yn ddysgwyr annibynnol a hunan-gyfeiriedig.

Sut y caf fy asesu?

Bydd yn rhaid i chi gwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, sy'n cynnwys 120 credyd.

Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir - Dysgu Canolog - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth am asesiadau. Byddwch yn cael tiwtor personol.

Adborth

Bydd adborth ar gael i chi drwy gydol y rhaglen a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad â'ch tiwtor personol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn meithrin amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr sy’n benodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau ""cyflogadwyedd"" mwy cyffredinol.

Bydd sgiliau’n cynnwys:

  • y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli amrywiaeth o ddata cymhleth;
  • amrywiaeth o sgiliau ymchwil ansoddol a meintiol priodol;
  • defnyddio a chymhwyso technolegau gwybodaeth;
  • y gallu i gyfleu a chyflwyno syniadau a chanfyddiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft, yn ysgrifenedig, ac ar lafar;
  • y gallu i ddatrys problemau, a gweithio'n unigol ac mewn grwpiau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £8,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £20,450 £2,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae’r rhaglen yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd sy’n addas ar gyfer gyrfaoedd ym maes ymchwil a datblygu, busnes, astudiaethau marchnad, asiantaethau cyhoeddus ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, addysg, addysgu a gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, a sefydliadau gwirfoddol.

Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant addas ar gyfer symud ymlaen at PhD.

Mae’r cwrs MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol wedi bod yn hynod werthfawr i mi, gan fy ngalluogi i ennill nifer o sgiliau ymchwil a fydd o fudd wrth i mi symud ymlaen at raglen PhD. Y modiwl dulliau meintiol oedd yr un mwyaf heriol hyd yma ond eto yr un mwyaf diddorol, ac fe wnaeth y tîm darlithio gynnig llawer o gefnogaeth i’m helpu i ddeall y gwaith. Roedd y tîm darlithio ar draws yr holl raglen yn barod i helpu ac yn ddefnyddiol pan oeddwn i eu hangen, a byddwn i’n argymell y cwrs yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes ymchwil.”
Emma Noble,MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Astudiaethau Addysgol)

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gwyddorau cymdeithasol, Addysg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.