Ewch i’r prif gynnwys

Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Troseddeg) (MSc)

  • Hyd: 3 blynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant uwch mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol - mae’n cyd-fynd â gofynion grant ESRC ar gyfer cwrs PhD.

star

Llwybrau arbenigol

Cewch ddewis llwybr sy’n cyd-fynd â’ch prif faes diddordeb.

academic-school

Ymwneud ag ymchwil newydd

Gallwch gymryd rhan yng ngweithgareddau grwpiau ymchwil yr Ysgol; mae ystod eang ohonynt!

certificate

Wedi’i llywio gan arbenigwyr

Mae'r rhaglen yn cael ei dylanwadu gan ymchwil ein staff academaidd; ymchwil sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol.

academic-school

Ymchwil annibynnol

Cewch gymryd rhan mewn ymchwil annibynnol wedi'i seilio ar hyfforddiant dulliau dosbarth-cyntaf, yn rhan o'ch traethawd hir terfynol.

Bydd y cwrs MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig uwch-hyfforddiant mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol. Mae gan bob llwybr cwrs gydnabyddiaeth ESRC ac maent yn bodloni’r anghenion hyfforddiant ar gyfer cyllid PhD ESRC.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd helaeth i astudio’n rhyngddisgyblaethol, i gymhwyso arbenigedd o ran ymchwil gymdeithasol at ddatblygu gyrfa alwedigaethol, ac i fynd ar drywydd maes sylweddol o ddiddordeb ar lefel ôl-raddedig.

Cewch lawer iawn o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am lunio astudiaethau ymchwil effeithiol, am yr amrywiaeth o ddulliau o gasglu data sydd ar gael i’r gwyddonydd cymdeithasol ac am y prif ddulliau o ddadansoddi data o fyd y gwyddorau cymdeithasol. Hefyd, cewch eich cyflwyno i’r fframweithiau gwleidyddol a moesegol y gwneir ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol ynddynt, a rhai o’r ffyrdd o ledaenu canlyniadau ymchwil gwyddorau cymdeithasol.

Llwybr Troseddeg

Bydd y llwybr troseddeg yn darparu sgiliau dadansoddi ac ymchwil, dealltwriaeth ymarferol o sut i gynhyrchu ymchwil troseddegol, a sylfaen wybodaeth rhyngddisgyblaethol, yn tynnu ar safbwyntiau cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, y gyfraith, seicoleg a gwyddor wleidyddol.

Mae gan ein staff enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ymchwil ac ysgrifennu arloesol ar bynciau arbenigol a chyffredinol. Mae ein staff a’ch cydfyfyrwyr yn dod ag ystod eang o hanes a chefndiroedd academaidd i’r rhaglen, sy’n cynnig cyfle cyffrous i ddod i gysylltiad ag amrywiaeth o brofiadau ymarferol yn ogystal â gwybodaeth academaidd fanwl.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5179
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis astudiaethau maes, troseddeg, seicoleg feirniadol, addysg, daearyddiaeth, hanes, cysylltiadau diwydiannol a gweithwyr, y gyfraith, astudiaethau rheoli a busnes, addysgeg, gwleidyddiaeth, gweinyddiaeth gyhoeddus, polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, neu gymdeithaseg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 5.5 yn yr holl is-sgiliau eraill, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail profiad proffesiynol diweddar a pherthnasol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen ran-amser dros gyfnod o ddwy flynedd yw hon.

Bydd gofyn i chi gwblhau chwe modiwl 20 credyd - pum modiwl ymchwil craidd ac un modiwl llwybr arbenigol. Ym mhob modiwl cewch gyfle i ddefnyddio llenyddiaeth ac ymchwil sy'n berthnasol i'ch llwybr.

Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau. Mae angen astudio'n annibynnol ar gyfer y gydran traethawd hir sy’n 60 credyd. Byddwch yn dewis pwnc eich traethawd hir mewn cytundeb â'ch goruchwyliwr.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Blwyddyn dau

Blwyddyn tri

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Traethawd hirSIT07860 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd eich rhaglen yn cynnwys gweithgareddau dysgu ar yr amserlen (gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol) ac astudio annibynnol o dan arweiniad.

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan weithredol yn yr holl weithgareddau addysgol ar eich rhaglen astudio, paratoi at yr holl weithgareddau addysgu ar yr amserlen a bod yn bresennol ynddyn nhw, a dod yn ddysgwyr annibynnol a hunan-gyfeiriedig.

Sut y caf fy asesu?

Bydd yn rhaid i chi gwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, sy'n cynnwys 120 credyd.

Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir - Dysgu Canolog - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth am asesiadau.

Adborth

Bydd adborth ar gael i chi drwy gydol y rhaglen a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad â'ch tiwtor personol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn meithrin amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr sy’n benodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau ""cyflogadwyedd"" mwy cyffredinol.

Bydd sgiliau’n cynnwys:

  • y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli amrywiaeth o ddata cymhleth
  • amrywiaeth o sgiliau ymchwil ansoddol a meintiol priodol
  • defnyddio a chymhwyso technolegau gwybodaeth
  • y gallu i gyfleu a chyflwyno syniadau a chanfyddiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft, yn ysgrifenedig, ac ar lafar
  • y gallu i ddatrys problemau, a gweithio'n unigol ac mewn grwpiau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Oherwydd hyd y rhaglen hon, dim ond myfyrwyr sy'n dod o Gymru a'r UE sy'n bodloni’r gofynion preswylio (mae myfyrwyr sy'n dod o Loegr wedi'u heithrio) sy'n gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau Llywodraeth y DU i Ôl-raddedigion.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £4,975 Dim
Blwyddyn dau £4,975 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,600 £2,500
Blwyddyn dau £11,600 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae’r rhaglen yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd sy’n addas ar gyfer gyrfaoedd ym maes ymchwil a datblygu, busnes, astudiaethau marchnad, asiantaethau cyhoeddus ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, addysg, addysgu a gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, a sefydliadau gwirfoddol.

Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant addas ar gyfer symud ymlaen at PhD.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gwyddorau cymdeithasol, Troseddeg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.