Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Rheoli ac Astudiaethau Busnes) (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Hyfforddiant uwch mewn dulliau ymchwil i’ch paratoi ar gyfer eich astudiaeth PhD.
Llwybrau arbenigol
Cewch ddewis llwybr sy’n cyd-fynd â’ch prif faes diddordeb.
Dull rhyngddisgyblaethol
Byddwch yn cael dysgu drwy gyfrwng ein dull rhyngddisgyblaethol o ymdrin ag ymchwil busnes sydd wedi’i lywio gan wyddoniaeth gymdeithasol.
Ymchwil wedi’i llywio gan sialens
Mae ein hegwyddor gwerth cyhoeddus unigryw yn canolbwyntio ar heriau cymdeithasol ac economaidd er mwyn cael effaith y tu hwnt i'r byd academaidd.
Ymchwil annibynnol
Cewch gymryd rhan mewn ymchwil annibynnol wedi'i seilio ar hyfforddiant dulliau dosbarth-cyntaf, yn rhan o'ch traethawd hir terfynol.
Bydd y cwrs MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig uwch-hyfforddiant mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol. Mae gan bob llwybr cwrs gydnabyddiaeth ESRC ac maent yn bodloni’r anghenion hyfforddiant ar gyfer cyllid PhD ESRC.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd helaeth i astudio’n rhyngddisgyblaethol, i gymhwyso arbenigedd o ran ymchwil gymdeithasol at ddatblygu gyrfa alwedigaethol, ac i fynd ar drywydd maes sylweddol o ddiddordeb ar lefel ôl-raddedig.
Cewch lawer iawn o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am lunio astudiaethau ymchwil effeithiol, am yr amrywiaeth o ddulliau o gasglu data sydd ar gael i’r gwyddonydd cymdeithasol ac am y prif ddulliau o ddadansoddi data o fyd y gwyddorau cymdeithasol. Hefyd, cewch eich cyflwyno i’r fframweithiau gwleidyddol a moesegol y gwneir ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol ynddynt, a rhai o’r ffyrdd o ledaenu canlyniadau ymchwil gwyddorau cymdeithasol.
Llwybr Astudiaethau Rheoli a Busnes
Mae hyfforddiant ymchwil ym maes astudiaethau Rheoli a Busnes yn adeiladu ar yr ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol a gynhelir gan staff academaidd o fewn Ysgol Busnes Caerdydd. Byddwch yn elwa ar y wybodaeth arbenigol hon ym maes rheoli ymchwil yn ogystal ag ar y proffil ymchwil eang sydd gan yr Ysgol a chysylltiadau gydag ymchwil ehangach Prifysgol Caerdydd.
Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd eisiau datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau o fewn gwaith ymchwil cymwysedig, a’r rhai hynny sy’n bwriadu gwneud PhD ar bwnc sy’n ymwneud â disgyblaethau rheoli. Gallai’r pynciau hyn gynnwys rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol, rheoli strategol, rheoli’r sector cyhoeddus, marchnata, cyfrifeg, cyllid, logisteg a rheoli gweithrediadau.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.
Meini prawf derbyn
2:1 or above in an honours degree and preferrably a Master's degree at distinction level or a recognised equivalent. Non-graduates will be considered if they can demonstrate, through some recent and relevant professional experience, that they have the ability to undertake the course.
This course is suitable for graduates in Social Science and cognate disciplines including Sociology, Politics, Critical Psychology, Education, Social Policy and Social Work, Criminology, Management and Business Studies, History, Area studies, Geography, Pedagogy, Public Administration, Industrial and Employee Relations, and Law.
Typical IELTS offer: An overall IELTS score of 7.0,(with at least 7.0 in writing and 6.5 in all other sub-scores), is required for non-native English speakers or those who have not had a substantial part of their education taught in the English language.
Application deadline: 31 August
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
This is a one-year full-time programme.
You will be required to complete six 20-credit modules - five core research modules and one specialist pathway module. In all modules you will have the opportunity to engage with literature and research relevant to your pathway.
On successful completion of the taught component, you will prepare a dissertation of a maximum 20,000 words. The 60-credit dissertation component requires independent study. Dissertation topics are chosen by the students in agreement with their supervisors.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Qualitative Research Methods | BST214 | 20 credydau |
Quantitative Research Methods | BST215 | 20 credydau |
Developing Core Research Skills | BST703 | 20 credydau |
Foundations of Social Science Research | CPT898 | 20 credydau |
Research Applications | SIT703 | 20 credydau |
Dissertation | BST270 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Advanced Issues in Logistics and Operations Management Research | BST211 | 20 credydau |
Conducting Research in Marketing and Strategy: An Overview of Theories, Methods and Issues | BST212 | 20 credydau |
Advanced Issues in Management, Employment and Organizational Research | BST216 | 20 credydau |
Advanced Research Topics in Finance and Accounting | BST217 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Your programme will be made up of scheduled learning activities (including lectures, seminars, tutorials and practical sessions) and guided independent study.
You will be expected to actively engage in all the educational activities on your programme of study, to prepare for and attend all scheduled teaching activities, and continue your development as an independent and self-directed learner.
Sut y caf fy asesu?
You will have to successfully complete the taught component which comprises of 120 credits.
On successful completion of the taught component, you will prepare a dissertation of a maximum 20,000 words.
Sut y caf fy nghefnogi?
All modules within the programme make use of our Virtual Learning Environment (VLE) Learning Central, on which you will find course materials, links to related materials and information on assessment. You will be allocated a personal tutor.
Feedback
Feedback will be available to you throughout the programme and you will be able to discuss your performance with your personal tutor.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
You will acquire and develop a range of valuable skills which are discipline specific and more general ‘employability’ skills.
Skills will include:
- the ability to collect, analyse and interpret a range of complex data;
- a range of appropriate qualitative and quantitative research skills;
- the use and application of information technologies;
- the ability to communicate and present ideas and findings in a variety of ways, for example, in writing, and orally;
- the ability to problem solve, and work individually and in groups.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £8,200 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £18,700 | £1,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae’r rhaglen yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd sy’n addas ar gyfer gyrfaoedd ym maes ymchwil a datblygu, busnes, astudiaethau marchnad, asiantaethau cyhoeddus ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, addysg, addysgu a gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, a sefydliadau gwirfoddol.
Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant addas ar gyfer symud ymlaen at PhD.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2022.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Other course options
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gwyddorau cymdeithasol, Busnes, Rheoli
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.