Athroniaeth (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Archwiliwch faterion cyfoes diddorol a dyrys gydag athronwyr â bri rhyngwladol sy’n cael eu cydnabod am eu gwaith mewn ystod eang o feysydd arbenigol.
Wynebu ac archwilio
Cyfle i archwilio problemau cymhleth a mynd i'r afael â materion cyfoes; ceir hyfforddiant cynhwysfawr ar draws ystod o ddulliau athronyddol.
Arbenigedd rhyngwladol
Cyfle i ddefnyddio athroniaeth ddadansoddol, gyfandirol ac empirig; addysgu gan arweinwyr yn eu meysydd.
Arbenigeddau: ffocws i’ch gwaith meddwl
Mae ein hacademyddion ar flaen y gad ym meysydd epistemoleg, athroniaeth foesol ac athroniaeth meddwl a gwybyddiaeth.
Cymuned glos, gefnogol
Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a chyfathrebu hanfodol, gan ffynnu drwy addysgu a arweinir gan ymchwiliadau.
Bydd ein rhaglen MA Athroniaeth gwobrwyol yn datblygu eich gwybodaeth o faterion a thechnegau athronyddol, gan ganolbwyntio ar bynciau blaenllaw epistemoleg, athroniaeth foesol, ac athroniaeth y meddwl a gwybyddiaeth.
Gan adeiladu ar sylfaen gadarn drwy archwilio’r casgliad cyfan o ddadleuon athronyddol trwy ddadansoddi gweithiau pwysig ar draws mathau dadansoddol, cyfandirol ac empirig o athroniaeth, byddwch yn symud ymlaen at archwilio materion sydd o ddiddordeb arbennig i chi.
Fe gewch chi’ch meithrin i gyrraedd eich potensial mewn amgylchedd colegol sy’n canolbwyntio ar gyfnewid ystyrlon a chyfranogiad yn ein seminarau arbenigol. Yn fwy na hynny, mae ein rhaglen wedi’i dylunio i’ch helpu i feistroli’r prif sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa ymchwil lwyddiannus.
Bydd hyfforddiant cynhwysfawr yn adeiladu sgiliau allweddol er mwyn ymgysylltu â phrosiectau ymchwil annibynnol a chydweithredol, sy’n hanfodol yn y byd academaidd ac mewn llawer o yrfaoedd graddedigion. Fe fydd addysgu mewn grwpiau bach gyda phwyslais ar drafodaeth rhwng cymheiriaid yn meithrin eich gallu i gyfathrebu syniadau cymhleth a dadleuol mewn modd proffesiynol. Fel un o raddedigion y rhaglen hon, byddwch chi’n brofiadol yn ymdrin â chwestiynau anodd mewn modd creadigol, beirniadol a cholegol.
Mewn cymuned ymchwil ffyniannus a chefnogol lle cynhelir seminarau am waith sy’n mynd rhagddo i ôl-raddedigion, grwpiau darllen drwy gydol y flwyddyn, gweithdai a chynadleddau, byddwch yn cymryd rhan yn rhaglen siaradwyr gwadd y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol sy’n ysgogi’r meddwl, ac mewn cynhadledd flynyddol.
Cyrhaeddom y 4ydd safle ar gyfer effaith ein hymchwil mewn Athroniaeth ar gymdeithas, fel y cyhoeddwyd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar y DU (REF 2014).
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as philosophy or a related discipline such as English literature, language, communication, history, law, modern languages, politics, psychology, religious studies, or social sciences or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
Applicants with a degree that is not in philosophy but in a related discipline will be required to submit an essay of 2000 words(maximum) that demonstrates skills in explanation, argumentation and critical analysis, on a topic of your choice.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 7.0 with at least 6.5 in all other subskills.
Other essential requirements:
- At least one academic reference, that is on headed paper, signed and stamped
- Copy of undergraduate certificate and transcript of module results
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application by looking at the modules you have studied and grades achieved to ensure you have the relevant knowledge to succeed on the programme. If you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn cwblhau cyfanswm o 180 o gredydau, yn cynnwys chwe modiwl a addysgir, 20 credyd yr un ac un traethawd hir 60 credyd.
Mae'r ddau fodiwl 20 credyd sy'n sail i'r rhaglen radd ac sy'n rhoi sylfaen gadarn i chi yn y ddisgyblaeth yn cael eu haddysgu ar draws y ddau semester.
Mae'r pedwar modiwl 20 credyd ar faterion mewn epistemoleg, athroniaeth foesol ac athroniaeth meddwl yn cael eu haddysgu yn semester yr hydref. Addysgir y ddau arall yn semester y gwanwyn.
Caiff y traethawd hir fod mewn unrhyw faes Athroniaeth o fewn ystod arbenigedd y staff. Byddwch yn datblygu eich cynnig traethawd hir yn ystod cam olaf un o'r modiwlau craidd.
Byddwch yn cymryd 60 credyd bob semester ac yn ysgrifennu'r traethawd hir rhwng diwedd semester y gwanwyn ac wythnos gyntaf y mis Medi canlynol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Mae holl gynnwys y rhaglen radd wedi ei gynnwys ym Mlwyddyn Un.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Philosophy Research and Communication Skills | SET440 | 20 credydau |
Varieties of Philosophical Reasoning | SET441 | 20 credydau |
Philosophy MA Dissertation | SET400 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Artificial Intelligence | SET442 | 20 credydau |
Mental Health and Psychiatry | SET446 | 20 credydau |
New Problems of Perception | SET447 | 20 credydau |
Art, Beauty & Value | SET448 | 20 credydau |
Other People | SET451 | 20 credydau |
Climate Change and Global Justice | SET452 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Cyflwynir ein holl fodiwlau MA a addysgir drwy seminarau grŵp bach, a rhoddir llawer o bwyslais ar y myfyrwyr yn cymryd rhan, drwy gyflwyniadau a thrafodaeth dan arweiniad myfyrwyr. Mae hyn yn galluogi cyfuno a rhoi adborth parhaus ar ddysgu unigol ac ar y cyd, datblygu sgiliau sy'n benodol i ddisgyblaeth a sgiliau trosglwyddadwy, datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol ac ar y cyd, a datblygu sgiliau cyfathrebu llafar mewn trafodaethau grŵp anffurfiol a chyflwyniadau ffurfiol.
Ar gyfer y traethawd hir byddwch yn cynnal ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis. Cewch eich cefnogi drwy gyfarfodydd goruchwylio rheolaidd gydag aelod o staff academaidd. Mae hyn yn datblygu eich gallu i gynllunio a chyflwyno prosiect ymchwil annibynnol parhaus, mynegi eich dadansoddiadau a'ch dadleuon manwl mewn ysgrifennu ffurfiol a datblygu eich syniadau drwy drafodaeth lafar ar eich drafftiau ysgrifenedig.
Bydd pob modiwl yn defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog, lle gallwch gael mynediad at ddeunyddiau darllen craidd a deunyddiau cwrs eraill.
Sut y caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o fathau o asesu i ddatblygu eich gallu i gyflwyno’ch syniadau eich hun mewn iaith lafar ac ysgrifenedig ffurfiol. Nodir y ffurfiau asesu ar gyfer pob modiwl yn y disgrifiadau o’r modiwlau.
Bydd eich gwaith yn cael ei asesu mewn perthynas â meini prawf graddio ffurfiol fel y nodir yn llawlyfr y radd, sy’n pwysleisio gwybodaeth, dealltwriaeth, dadansoddiad beirniadol, a dadleuaeth.
Fe'ch anogir i drafod syniadau ar gyfer eich gwaith a asesir ag arweinydd neu oruchwyliwr y modiwl.
Ym mhob modiwl a addysgir, byddwch yn gallu cyflwyno drafft cyntaf o'ch gwaith er mwyn cael adborth ffurfiannol.
Datblygir y traethawd hir drwy gael cyfarfodydd ffurfiol gyda’ch goruchwyliwr, a fydd yn rhoi adborth ar adrannau drafft ac yn trafod unrhyw syniadau rydych chi’n eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
Sut y caf fy nghefnogi?
Cewch diwtor personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich gwaith ac yn eich cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa. Bydd hyn yn cynnwys cyfarfod ffurfiol bob semester i lunio strategaethau pendant i'ch helpu i gyrraedd eich potensial academaidd a phroffesiynol yn llawn.
Eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf hefyd os byddwch yn cael unrhyw anawsterau.
Mae arweinwyr modiwlau ar gael yn eu horiau swyddfa neu drwy wneud apwyntiad i drafod unrhyw faterion sy'n ymwneud yn benodol â'u modiwl. Fe'ch anogir i drafod pynciau a darlleniadau ar gyfer asesiadau ag arweinwyr eich modiwl.
Gallwch gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen MA Athroniaeth i drafod eich cynnydd ac unrhyw anawsterau rydych chi’n eu hwynebu.
Gellir gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer anableddau a dyslecsia.
Mae cymorth sgiliau ysgrifennu ar gael i bob myfyriwr.
Mae'r cymorth gyrfaoedd yn cynnwys cyfarfodydd un-i-un i gael cyngor ar gynllunio gyrfa, a gwybodaeth am gyfleoedd lleoliad.
Mae llyfrgellydd arbenigol ar gyfer Athroniaeth yn rhoi cyngor ar ddod o hyd i lyfrau, erthyglau a deunyddiau perthnasol eraill.
Mae cymorth ar gael gan y Brifysgol ar gyfer delio ag anawsterau ariannol, neu rai sy'n ymwneud ag iechyd a lles.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos eich bod yn:
- Gallu esbonio'n glir, nodi cydgysylltiadau rhwng dadleuon a theorïau canolog, gan eu hasesu’n feirniadol ac yn greadigol, a hynny ar draws ehangder Athroniaeth, yn y gorffennol a'r presennol, gan gynnwys pynciau sydd ar flaen y gad o ran Epistemoleg, Athroniaeth Foesol, ac Athroniaeth y Meddwl a Gwybyddiaeth
- Gallu gwerthuso a chymhwyso ystod eang o dechnegau dehongli a rhesymu testunau.
- Gallu gwerthuso a chymhwyso strategaethau ar gyfer mynd ar drywydd prosiectau ymchwil annibynnol a gwreiddiol mawr.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos eich bod yn:
- Gallu dethol yr honiadau a’r dadleuon canolog o destunau cymhleth.
- Gallu mynd ati mewn modd beirniadol a chreadigol i ddadansoddi problemau sy‘n codi o honiadau neu resymu.
- Gallu nodi a dadansoddi'n feirniadol yr arddull lenyddol a ddefnyddir mewn testun cymhleth.
- Gallu cyflwyno dadleuon a syniadau yn glir ac yn gydlynol yn ysgrifenedig ar gyfer cynulleidfa arbenigol.
- Gallu cyflwyno dadleuon a syniadau yn glir ac yn gydlynol mewn cyflwyniadau llafar ar gyfer cynulleidfaoedd arbenigol.
- Gallu cyflwyno dadleuon a syniadau yn glir, yn gydlynol ac yn golegol mewn sgyrsiau grŵp.
- Gallu cyflwyno dadleuon a syniadau yn glir ac yn gydlynol yn ysgrifenedig ar gyfer cynulleidfa heb fod yn arbenigol.
- Gallu cynllunio ac ysgrifennu papur gwreiddiol sylweddol yn dadansoddi llenyddiaeth ar fater cymhleth.
- Gallu cynllunio a chwblhau prosiect ymchwil annibynnol a gwreiddiol mawr.
- Gallu ymwneud yn broffesiynol ac yn gynhyrchiol ag ymchwiliad ymchwil gydweithredol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos eich bod yn:
- Gallu cyflwyno dadleuon a syniadau yn glir ac yn gydlynol yn ysgrifenedig ar gyfer cynulleidfa broffesiynol.
- Gallu cyflwyno dadleuon a syniadau yn glir ac yn gydlynol mewn cyflwyniadau llafar ar gyfer cynulleidfaoedd proffesiynol.
- Gallu cyflwyno dadleuon a syniadau yn glir, yn gydlynol ac yn broffesiynol mewn sgyrsiau proffesiynol.
- Gallu cynllunio ac ysgrifennu adroddiad gwreiddiol sylweddol yn dadansoddi llenyddiaeth ar fater cymhleth.
- Gallu cynllunio a chwblhau prosiectau ymchwil proffesiynol annibynnol.
- Gallu cymryd rhan gynhyrchiol mewn gwaith proffesiynol cydweithredol.
- Gallu trefnu llwyth gwaith i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd ac yn gallu bodloni dyddiadau cau pwysig.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos eich bod yn:
- Gallu dehongli syniadau a rhesymu cymhleth a gyflwynir mewn amrywiaeth o ffurfiau ysgrifenedig a llafar.
- Gallu crynhoi syniadau gwreiddiol soffistigedig mewn gwaith ysgrifenedig byr a diddorol i’w gyhoeddi ar-lein.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Rydyn ni’n cynnig y cyfle i fynychu cynhadledd Athroniaeth fel rhan o'r rhaglen. Mae lleoliadau blaenorol ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn cynnwys Neuadd Gregynog a Pharc Cenedlaethol Bluestone ond gellir cynnal y digwyddiadau hyn yn fwy lleol hefyd, yng Nghaerdydd. Rydyn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau bod gweithgareddau o'r fath yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr, ond ar adegau efallai y bydd angen gwneud cyfraniad ariannol. Cofiwch, dydy’r gweithgareddau hyn ddim yn orfodol.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwch yn cael deunyddiau arbenigol hanfodol, gan gynnwys mynediad at gyfrifiaduron a deunyddiau craidd y cwrs (llyfrau, erthyglau cyfnodolion) drwy'r llyfrgell a bydd cost argraffu’r traethawd hir yn cael ei thalu.
Chi fydd yn gyfrifol am unrhyw gostau sylfaenol neu gostau nad ydynt yn hanfodol sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau. Gall hyn gynnwys teithio i'r Brifysgol, offer ysgrifennu cyffredinol, gliniaduron, llungopïo ac argraffu, a chopïau personol o lyfrau.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
O’r sector cyhoeddus i’r sector preifat, rydym yn hwyluso gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd. Mae ein graddedigion yn defnyddio eu sgiliau newydd ar draws sbectrwm eang o swyddi, yn arbennig yn y cyfryngau ac economïau creadigol, addysg a’r sectorau iechyd.
Roedd 86% o raddedigion yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (DLHE 2016/17).
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.