Ewch i’r prif gynnwys

Ffiseg Tonnau Disgyrchol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae rhaglen MSc Ffiseg Tonnau Disgyrchol yn cynnig hyfforddiant eang a chynhwysfawr o ran theori ac arbrofi ym maes ffiseg a seryddiaeth tonnau ddisgyrchol (GW).

Mae maes ffiseg ddisgyrchol wedi datblygu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn y canfyddiad uniongyrchol cyntaf o donnau disgyrchol yn 2015, gan mlynedd ers iddyn nhw gael eu rhagweld am y tro cyntaf gan ddamcaniaeth perthnasedd gyffredinol Einstein. Ar ôl canfod tonnau disgyrchol am y tro cyntaf, ar ôl i ddau dwll du wrthdaro â’i gilydd, yn 2017, cafwyd yr arsylwad electromagnetig a thonnau disgyrchol cyntaf ar y cyd o uno sêr niwtron a hyrddiau pelydrau gama yn dilyn hynny. Yna, yn 2017, enillwyd Gwobr Nobel mewn Ffiseg. Mae arsylwadau tonnau disgyrchol bellach yn trawsnewid ein dealltwriaeth o’r bydysawd, a bydd y maes yn parhau i dyfu dros y degawdau nesaf gyda gwelliannau, naill ar ôl y llall, o ran sensitifrwydd synwyryddion presennol, dylunio a chomisiynu’r genhedlaeth nesaf o synwyryddion ar y ddaear a’r synhwyrydd yn y gofod, LISA.

Mae’r MSc mewn Ffiseg Tonnau Disgyrchol yn darparu hyfforddiant eang a chynhwysfawr mewn theori ac arbrofion seryddiaeth a ffiseg tonnau disgyrchol: technegau ymyriadureg laser er mwyn canfod tonnau disgyrchol, perthnasedd cyffredinol, astroffiseg, modelu ffynonellau tonnau disgyrchol a dadansoddi data ar gyfer canfod tonnau disgyrchol a dehongli ffynonellau. Mae'r rhaglen yn cynnig tair ffrwd, sy'n eich galluogi i arbenigo ym maes arsylwadau tonnau disgyrchol, dadansoddi data a modelu ffynonellau, neu i gael profiad eang ar draws y pynciau hyn. Mae staff Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad mewn ymchwil o safon fyd-eang ym mhob un o'r meysydd hyn, sy'n cynnwys y pynciau craidd sydd wrth wraidd y maes, sy’n gwneud hon yn rhaglen radd unigryw.

Yn rhan o'r rhaglen byddwch yn cwblhau prosiect haf tri mis o hyd ar un o'r meysydd ymchwil hyn. Yn rhan o'ch ymchwil, cewch y cyfle i ymuno â'r Prosiect Gwyddonol Cydweithredol LIGO (LSC) a chyfrannu at brif brosiectau sy'n ymwneud ag arbrofi â thonnau disgyrchol, modelu ffynonellau, chwilio am signalau, a dehongli astroffisegol.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd gennych yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa ymchwil ym maes ffiseg tonnau disgyrchol, a bod yn ymgeisydd cystadleuol ar gyfer swyddi yn y diwydiant.

Nodweddion unigryw

  • You will receive solid core skills training through carefully designed modules that provide practical and theoretical projects that run in parallel with up-to-date lectures, seminars and laboratory sessions.
  • You will learn how to plan and propose research projects, conduct literature reviews and critiques, code in a variety of experimental- and theoretical-physics related programming environments, and the mathematical and conceptual background of gravitational-wave sources, astrophysics, and data analysis.
  • You will be able to tailor the course to your requirements by choosing from a range of elective modules to suit your interests and ambitions. Whether you’re fascinated by state-of-the-art precision physical measurements, or want to specialise in numerical relativity, the astrophysics of compact binaries, or measurement of gravitational-wave sources, we have modules to suit you.
  • Central to the design of this programme is the opportunity for you to take ownership of real theoretical or practical projects
  • You will have acquired a full year’s worth of practical research experience by the time you complete your MSc, greatly enhancing your CV and prospects for employment or further study.
  • Cardiff University’s position at the forefront of gravitational wave physics and astronomy means that the knowledge, theory and skills that you acquire will be at the cutting-edge of the field.
  • You may well have the opportunity of carrying out your research project with one of the exciting international research teams working in this field in the US, Germany or the UK.
  • You will join a supportive student community and, as an MSc student, have sole access to a dedicated MSc Teaching Facility which includes teaching laboratories, a meeting and seminar room, close to the offices of the MSc Co-ordinators and Director of Postgraduate Taught Studies.
My masters year was challenging and, thanks to the support I received, extremely rewarding. The quality of the courses and the cycles of formative feedback offered by the MSc tutors is outstanding. I was surprised at the level of inclusiveness, collaboration and welcome in the gravitational wave group that created a really positive workplace environment. My supervisor not only offered sound scientific guidance but also knew how to encourage the best work from me, and the project resulted in a publication.
Cameron Mills, MSc student, Physics and Astronomy

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Mae ein rhaglenni gradd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg yn cynnwys meysydd arbenigol sy’n adlewyrchu ein diddordebau ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 208 74458
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.


Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis seryddiaeth, astroffiseg, cyfrifiadureg, peirianneg, mathemateg, ffiseg, neu wyddoniaeth ffisegol gysylltiedig, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)

Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n defnyddio unrhyw fath o visa gael cliriad ATAS i astudio'r cwrs hwn.

Strwythur y cwrs

Mae’r MSc mewn Ffiseg Tonnau Disgyrchol yn rhaglen dau gam a gyflwynir dros dri thymor.

Tymor yr hydref (60 credyd, a addysgir)

Byddwch yn ymgymryd â thri modiwl gofynnol (cyfanswm o 40 credyd) sy'n cwmpasu sgiliau craidd a dau fodiwl dewisol, gwerth 10 credyd yr un, sy’n cwmpasu sgiliau arbenigol.

Tymor y gwanwyn (60 credyd, a addysgir)

Byddwch yn ymgymryd â thri modiwl gofynnol (cyfanswm o 40 credyd) sy'n cwmpasu sgiliau craidd a dau fodiwl dewisol, 10 credyd yr un, sy’n cwmpasu sgiliau arbenigol.

Yn y modiwlau dewisol, mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddilyn un o dair ffrwd bosibl, yn dibynnu ar y ffocws penodol ar ffiseg tonnau disgyrchol maen nhw am ei dilyn. Y tair ffrwd yw: (1) Seryddiaeth tonnau disgyrchol arsylwadol, gan baru PXT903 a PXT125; (2) Ffynonellau tonnau disgyrchol, gan baru PXT904 a PXT112; (3) Seryddiaeth tonnau disgyrchol cynhwysfawr, ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno canolbwyntio'n gyfan gwbl ar ffiseg tonnau disgyrchol, gan baru PXT903 a PXT904. Bydd myfyrwyr yn cael eu harwain wrth ddewis modiwlau.

Rhaid i chi gwblhau 120 credyd cydran a addysgir y cwrs yn llwyddiannus cyn y caniateir i chi symud ymlaen i gydran y prosiect ymchwil.

Tymor yr haf (60 credyd, prosiect ymchwil)

Mae tymor yr haf yn cynnwys un modiwl prosiect ymchwil 60 credyd 3 mis o hyd. Bydd gofyn i chi ysgrifennu traethawd ymchwil hir a chyflwyno eich ymchwil i'r Ysgol er mwyn cwblhau'r modiwl hwn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Bydd gennych bythefnos ar ddechrau tymor yr hydref i fynd i unrhyw fodiwlau dewisol sydd o ddiddordeb i chi fel y gallwch gwblhau eich dewis ar gyfer y tymor hwnnw.  Bydd angen i chi wneud eich dewisiadau terfynol ar gyfer tymor y gwanwyn cyn gwyliau’r Nadolig.  Byddwch yn cael eich cefnogi i gynhyrchu a thrafod cynnig prosiect ymchwil yn ystod tymor y gwanwyn er mwyn paratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil dros yr haf.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a sesiynau ymarferol yn y labordy.

Gall darlithoedd fod ar amrywiaeth o ffurfiau yn dibynnu ar ddeunydd y pwnc sy'n cael ei addysgu. Yn gyffredinol, defnyddir darlithoedd i gyfleu cysyniadau, i roi cyd-destun i weithgareddau ymchwil yn yr Ysgol ac i ddangos dulliau damcaniaethol, cysyniadol a mathemategol allweddol.

Mewn sesiynau tiwtorial a seminarau cewch gyfle i drafod a myfyrio ar gysyniadau ffisegol, mathemategol, codio / ymarferol neu arbenigol penodol, i atgyfnerthu a chael adborth ar eich dysgu unigol ac i ddatblygu sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi a gwerthuso erthygl ymchwil ddiweddar i'r grŵp.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu sgiliau gwerthuso, myfyrio, dadansoddi a chyflwyno drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol fel cyfarfodydd grwpiau ymchwil, trafodaethau seminar ysgol ac mewn trafodaethau grŵp agored. Byddwch bob amser yn cael eich annog i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu a sut gellir cyfuno hyn â thechnegau a chysyniadau eraill i fynd i'r afael â phroblemau newydd.

Yn y sesiynau labordy ymarferol byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau eang, boed hynny drwy ddefnyddio'ch sgiliau codio i awtomeiddio arbrawf labordy, dylunio cydrannau ar gyfer darn mawr o offer neu ddatrys problemau caledwedd ymchwil. Mae pwyslais yr MSc Ffiseg Tonnau Disgyrchol yn llwyr ar gaffael ac arddangos sgiliau ymarferol a fydd yn ddefnyddiol mewn amgylchedd ymchwil ac felly bydd galw mawr amdanyn nhw ymhlith cyflogwyr.

Sut y caf fy asesu?

Mae nifer o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio er mwyn gwella dysgu ac adlewyrchu eich perfformiad yn gywir ar y cwrs. Yn y modiwlau gofynnol, defnyddir cymysgedd o ddysgu seiliedig ar broblemau, prosiectau ymarferol byr, aseiniadau ysgrifenedig, ymarferion codio, arholiadau ysgrifenedig a llafar a gwaith grŵp.

Yn rhai o'r modiwlau gofynnol ceir aseiniadau wythnosol. Mae'r adborth ar gyfer y rhain yn eich galluogi i wella bob yn dipyn wrth i chi ddatblygu eich set o sgiliau craidd, gan roi digon o gyfle i chi roi awgrymiadau ein staff arbenigol ar waith.

Mae'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer y modiwlau dewisol yn amrywio yn dibynnu ar y dull asesu mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl. Ond fel arfer, maen nhw’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig a/neu ymarferol ynghyd ag arholiad ysgrifenedig a/neu lafar.

Mae pob asesiad yn defnyddio adborth, y gellir ei rannu'n adborth ffurfiannol ac adborth crynodol.

Adborth Ffurfiannol

Mae adborth ffurfiannol yn adborth nad yw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Canfod eich cryfderau a’ch gwendidau a thargedu meysydd y mae angen gweithio arnyn nhw;
  • Helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd, gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Adborth Crynodol

Adborth crynodol yw adborth sy'n cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw dangos i ba raddau rydych chi wedi llwyddo i fodloni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl neu Raglen a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn gwella. Dylai'r holl adborth gysylltu'n uniongyrchol â meini prawf graddio / asesu'r Modiwl.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd Cydlynwyr ein MSc yn diwtoriaid personol i chi. Bydd y tiwtoriaid personol yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ac yn rhoi cyngor i chi ar dechnegau ymchwil ac astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Eich tiwtoriaid personol fydd y pwnt cyswllt cyntaf i chi os byddwch chi’n cael unrhyw anawsterau hefyd. Gan fod swyddfa Cydlynwyr yr MSc o fewn Cyfleusterau Addysgu’r MSc, mae modd delio ag unrhyw broblemau yn gyflym iawn.

Gwahoddir myfyrwyr MSc i bob digwyddiad ôl-raddedig gan gynnwys y Gyfres o Ddarlithoedd Ôl-raddedig a'r Gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig. Yn y digwyddiadau hyn gallwch gyfarfod a siarad â myfyrwyr PhD, ymchwilwyr a mynychu darlithoedd allweddol sy'n cwmpasu gweithgareddau ymchwil, arfer gorau a diogelwch yr Ysgol.

Mae gan yr Ysgol Weinyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr penodedig ar gyfer Astudiaethau Ôl-raddedig a Chyswllt Anableddau. Dylech gysylltu â'r aelod hwn o staff yn gyntaf i drafod unrhyw faterion sy’n ymwneud ag Anabledd neu Amgylchiadau Eithriadol. Bydd pob ymholiad yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol ac yn brydlon.

Hefyd, mae gan yr Ysgol Swyddog Cymorth Addysg penodedig a fydd yn gallu delio â phob math o faterion gan gynnwys amserlennu, gweinyddu'r Brifysgol, dewis modiwlau ac archebu ystafelloedd y Brifysgol ar gyfer digwyddiadau / sesiynau astudio dan arweiniad myfyrwyr.

Mae ein modiwlau i gyd yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, yn helaeth. Yma gallwch gael mynediad at fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd (os ydyn nhw ar gael), dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig, sleidiau darlithoedd, sgriptiau asesu, atebion enghreifftiol ac enghreifftiau o waith myfyrwyr o flynyddoedd blaenorol.

Pan fyddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil yr haf byddwch yn cael prif oruchwyliwr academaidd ac ail oruchwyliwr academaidd a fydd yn gyfrifol am roi cyngor a chefnogaeth briodol i chi drwy gydol eich prosiect ymchwil. Nhw fydd eich pwynt cyswllt cyntaf yn ystod y prosiect ymchwil ac fel arfer, eich prif oruchwyliwr yw'r ymchwilydd arweiniol yn y grŵp / is-grŵp rydych yn ymuno ag ef.

Os byddwch yn ymgymryd â'ch prosiect ymchwil gydag un o'n partneriaid diwydiannol yna bydd eich prif oruchwyliwr ac fel arfer eich ail oruchwyliwr yn wyddonwyr ymchwil diwydiannol. Os yw eich prif oruchwyliwr a’ch ail oruchwyliwr yn wyddonwyr diwydiannol, yna byddwch hefyd yn cael academydd o Brifysgol Caerdydd fel trydydd goruchwyliwr academaidd diduedd er mwyn cynnal eich cysylltiad â'r Brifysgol yn ystod y cyfnod hwn.

Mae myfyrwyr prosiect ymchwil yn cael mentor prosiect ymchwil, a fydd fel arfer yn un o Gydgysylltwyr yr MSc. Byddwch yn cyfarfod o leiaf ddwywaith â'ch mentor prosiect ymchwil, a fydd yn gwbl ddiduedd ac yn gallu rhoi cyngor ac (os oes angen) gweithredu unrhyw newidiadau brys neu ddatrys problemau y gallech fod yn eu profi. At ei gilydd, bydd gennych o leiaf dri aelod o staff yn eich cefnogi drwy gydol eich prosiect ymchwil.

Yn olaf, mae'r MSc mewn Ffiseg Tonnau Disgyrchol wedi'i gynllunio i feithrin ysbryd cymunedol cryf o fewn y garfan MSc. Byddwch yn gweithio gyda'ch gilydd mewn parau, mewn grwpiau ac fel carfan. Cynhelir cyfarfodydd grŵp MSc wythnosol lle byddwch yn adrodd am gynnydd, yn trafod problemau ac yn awgrymu atebion. Mae'r gefnogaeth gref hon gan gymheiriaid a dysgu/addysgu gan gymheiriaid wedi profi'n hynod bwerus, gyda myfyrwyr ac Arholwyr Allanol fel ei gilydd yn nodi'r effaith gadarnhaol gref y mae'n ei chael o ran gwella dysgu myfyrwyr MSc.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn arddangos:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth soffistigedig o’r datblygiadau cyfredol newydd ym maes ffiseg tonnau disgyrchol a seryddiaeth;
  • Lefel soffistigedig o'r wybodaeth graidd sy'n berthnasol i ymarfer ffiseg tonnau disgyrchol, gan gynnwys gwybodaeth gyfredol am lenyddiaeth academaidd, ein dealltwriaeth o alluoedd mesur, ffynonellau tonnau disgyrchol ac astroffiseg, a thechnegau mesur, a chyd-destun ehangach datblygiadau parhaus yn y maes;
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r pecynnau meddalwedd mwyaf effeithiol, yr ieithoedd rhaglennu a’r technegau mathemategol sy'n ganolog i fynd i'r afael â phroblemau cyfredol ym maes ffiseg tonnau disgyrchol.

Sgiliau Deallusol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn arddangos:

  • Set o sgiliau soffistigedig, arbrofol, damcaniaethol, cyfrifiadurol, mathemategol a dadansoddi data, a'r gallu i addasu'r sgiliau hyn i gymwysiadau ffiseg tonnau disgyrchol;
  • Set o sgiliau arbenigol soffistigedig sy'n deillio o'r modiwlau dewisol a'r gallu i addasu'r sgiliau hyn i gymwysiadau newydd;
  • Y gallu i ddadansoddi, gwerthuso, curadu a chyfosod llenyddiaeth academaidd o'r radd flaenaf a'r technegau diweddaraf

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn arddangos:

  • Integreiddio'n effeithlon ac yn effeithiol i amgylchedd grŵp ymchwil, gan gynnwys adrodd yn gryno ar gynnydd, trafod gweithgareddau ac amserlenni, cefnogi cydweithwyr a gweithio mewn tîm;
  • Cynllunio, cynnig a gweithredu prosiect ymchwil soffistigedig gyda nodau realistig, pethau y gellir eu cyflawni a chynlluniau wrth gefn;
  • Dangos gwybodaeth gadarn ar lefel gradd ymchwil ar draws elfennau craidd ffiseg tonnau disgyrchol a seryddiaeth.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn arddangos:

  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol, gan gynnwys adolygiadau llenyddiaeth, gwerthusiadau llenyddiaeth, ysgrifennu erthyglau academaidd, ysgrifennu adroddiadau hir a chyflwyniadau gwyddonol ffurfiol - rhai hir (mwy na 20 munud) a byr (llai na 20 munud);
  • Sgiliau gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon mewn grwpiau a thîm, gan gynnwys negodi, cyfaddawdu, cynllunio wrth gefn, rheoli amser a chadw cofnodion;
  • Ymgysylltu, cysylltu a chydweithio â gwyddonwyr ymchwil arbenigol academaidd a diwydiannol a'r gallu i drosglwyddo cysyniadau, methodolegau a dulliau cyflwyno rhwng y ddau amgylchedd.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Efallai y bydd cyfleoedd i gael mynd ar daith maes bob blwyddyn i arsyllfa tonnau disgyrchol a safleoedd ffiseg a seryddiaeth eraill. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y gost i fyfyrwyr mor isel â phosibl. Bydd faint o arian sydd ar gael i dalu'n llawn am unrhyw daith maes yn amrywio o un flwyddyn i’r llall.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

  • Bydd y Brifysgol yn darparu popeth sydd ei angen i ymgymryd â'r cynllun gradd, ond argymhellir yn gryf eich bod yn dod â gliniadur cymharol fodern er mwyn gallu ymgymryd â'r gweithgareddau codio, adolygu llenyddol a'r traethawd hir pan fyddwch i ffwrdd o gyfleusterau'r Brifysgol.

Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:

  • Cyfleuster Addysgu MSc pwrpasol gyda digon o gyfrifiaduron, offer labordy a gwerslyfrau craidd ar gyfer gweithgareddau'r garfan gyfan yn ystod y modiwlau gofynnol;
  • Mynediad at gyfleusterau ystafell lanhau o safon ymchwil y Brifysgol ar gyfer cyfarwyddyd ymarferol yn yr elfen o'r cwrs a addysgir a nifer o brosiectau ymchwil yr haf;
  • Mynediad at lyfrgelloedd Trevithick a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, lle gellir cael gwerslyfrau a deunydd darllen a argymhellir ar gyfer y modiwlau gofynnol a dewisol.

Trwydded myfyriwr LabVIEW blwyddyn o hyd ar gyfer cyfrifiaduron myfyrwyr, sy'n rhoi mynediad at System Ddatblygu lawn LabVIEW trwy gydol cyfnod y rhaglen radd.  Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd ag arholiad Datblygwr Cyswllt LabVIEW Ardystiedig yn rhad ac am ddim ar ôl cwblhau PXT101 "Technegau Arbrofol Uwch mewn Ffiseg" yn llwyddiannus.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Bydd gradd MSc Ffiseg Tonnau Disgyrchol yn cynnig cyfleoedd yn y meysydd canlynol:

  • Ymchwil ddoethurol ddamcaniaethol, arbrofol a chyfrifiadurol mewn ffiseg tonnau disgyrchol a seryddiaeth;
  • Swyddi rhifol, technegol, ymchwil, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig;
  • Addysg gwyddoniaeth gyffredinol, ffiseg a mathemateg

Lleoliadau

Gall fod cyfleoedd bob blwyddyn i fyfyrwyr gyflawni eu modiwl prosiect ymchwil haf yn un o arsyllfeydd LIGO yn yr Unol Daleithiau neu yn y synhwyrydd GEO600 yn yr Almaen. Bydd nifer a natur y prosiectau hyn yn amrywio o un flwyddyn i’r llall a byddant yn cael eu neilltuo yn seiliedig ar deilyngdod a ddangoswyd yn ystod tymhorau’r hydref a’r gwanwyn.

The MSc was the perfect course to prepare me to start a PhD, it allowed me to convert from Mathematics to Physics and to focus on my specific interest in General Relativity as the course progressed. There are a wide variety of taught modules which cater for a huge range of interests and with the support given at this stage, provide an excellent foundation for the summer project. The summer project provided me with the opportunity to carry out interesting and legitimate research alongside genuine experts in a very current and exciting field.
Rhys Green, MSc Physics

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Ffiseg a seryddiaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.