Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

One of our researchers

Rydym yn enwog am ansawdd ein hymchwil ac am ei effaith ar draws diwydiant, cymdeithas a'r economi.

Mae ein grwpiau ymchwil ar y blaen ym maes ymchwil, p’un a ydynt yn ymdrin â thonnau disgyrchol, technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd neu ddelweddu’r ymennydd.

Rydym yn gweithio gyda’r canlynol:

  • grŵp ymchwil byd-eang ar Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LlGO), a ddaeth o hyd i donnau disgyrchol am y tro cyntaf yn 2016
  • canolfan newydd £44 miliwn Prifysgol Caerdydd ar gyfer Delweddu’r Ymennydd (CUBRIC) sy’n cyfuno arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes mapio'r ymennydd â'r gwaith diweddaraf o ran delweddu ac ysgogi’r ymennydd
  • Sefydliad y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd sy’n rhan o gampws ymchwil ac arloesedd newydd £300 miliwn y Brifysgol.

Gwelsom gyllid ymchwil sylweddol a buddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys ystafell microsgopeg electron ynni isel a chyfleusterau i dyfu a nodweddu diemwnt, gan gynnwys nano-diemwnt, yn ogystal â’r buddsoddiad diweddar yng nghyfleusterau technoleg newydd lled-ddargludyddion cyfansawdd.