Ewch i’r prif gynnwys

Cydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol ar gyfer Oes Oedolion (CAAP) (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.


Ymgeisiwch

Bydd angen i chi wneud cais i'r cwrs hwn trwy un o'n partneriaid.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

location

Gweithle clinigol blwyddyn o hyd

Cyfle o fewn bwrdd iechyd penodol y GIG, i ddatblygu cymwyseddau clinigol sy'n gysylltiedig â rôl y Seicolegydd Cyswllt.

certificate

Goruchwyliaeth broffesiynol

Goruchwylio gan Therapyddion Seicolegol, Seicolegwyr Ymarferwyr ac arbenigwyr academaidd cymhwysol.

notepad

Amrywiaeth eang o dechnegau addysgu

Mae'r rhain yn cynnwys dysgu ymarferol yn y gwaith, tiwtorialau seiliedig ar theori, achosion ffug a hyfforddiant grwpiau bach.

rosette

Y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig

Rydym yn y 10 uchaf ar gyfer seicoleg yn y DU yn y Complete University Guide (7fed) a Times Higher Education World University Rankings ar gyfer 2022 (8fed).

Mae Clinigwyr Cyswllt mewn Seicoleg Gymhwysol (CCSG) yn rolau newydd o fewn gwasanaethau seicolegol y GIG sy'n llenwi bwlch sgiliau a nodwyd rhwng seicolegydd cynorthwyol a seicolegydd clinigol cymwys.

Pwrpas y rhaglen hon yw rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi weithio fel CCSG i gynnig ymyriadau seicolegol o ansawdd uchel ar sail tystiolaeth i oedolion sy'n profi problemau iechyd meddwl. Byddwch yn dysgu am werthuso seicolegol, asesu, llunio ac ymyriadau sy'n deillio o ymchwil ac ymarfer seicolegol trylwyr. 

Fel CCSG cymwys, byddwch yn gallu ymarfer yn annibynnol gyda chefnogaeth briodol, gan weithio o fewn eich cwmpas ymarfer, o dan oruchwyliaeth Seicolegydd sy’n Ymarferydd.

Mae gan y rhaglen weithle clinigol blwyddyn o hyd yn y GIG. Ochr yn ochr, byddwch yn cwblhau modiwlau academaidd ar y theori y tu ôl i ymarfer clinigol, megis ymchwil glinigol; asesiadau a fformwleiddiadau; ac ymyriadau clinigol. Bydd rhai o'r modiwlau academaidd yn cael eu cynnal ar y campws a rhai drwy gyflwyno ar-lein.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Seicoleg

Dewch i astudio mewn amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, wedi'i lywio gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4007
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Meini prawf derbyn

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Strwythur y cwrs

Byddwch yn cwblhau lleoliad gwaith yn y GIG dan oruchwyliaeth Seicolegydd Ymarferydd.Ochr yn ochr, byddwch yn cwblhau modiwlau academaidd ar y theori y tu ôl i ymarfer clinigol, megis ymchwil glinigol; asesiadau a fformwleiddiadau; ac ymyriadau clinigol.

Byddwch yn gweithio yn y GIG am oddeutu tri diwrnod yr wythnos a bydd y ddau ddiwrnod sy'n weddill yn cael eu treulio yn cwblhau eich gwaith academaidd. Mae rhai o'r modiwlau academaidd yn cael eu haddysgu ar y campws ac eraill trwy gyflwyno ar-lein. Mae hyn yn golygu y gallai teithio helaeth fod yn gysylltiedig, yn dibynnu ar leoliad lleoliad.

Mae'r rhaglen yn para blwyddyn. Bydd sgiliau ymarferol yn cael eu cynnwys yn y gweithle yn y GIG ac o fewn modiwlau academaidd. Bydd y theori sy'n sail i'r sgiliau hyn yn cael ei haddysgu yn y ddau leoliad gyda ffocws ar hyn sy'n digwydd o fewn addysgu a gweithdai'r Brifysgol, a gyflwynir ar-lein neu ar y campws.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae’r rhaglen am un flwyddyn. Bydd sgiliau ymarferol yn cael eu cwmpasu ar leoliad yn y GIG ac o fewn modiwlau academaidd.  Bydd y ddamcaniaeth sy'n sail i'r sgiliau hyn yn cael ei dysgu yn y ddau leoliad, ond bydd y ffocws ar hyn yn digwydd yn ystod yr addysgu a’r gweithdai yn y Brifysgol, a gyflwynir ar-lein neu ar y campws.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ymarfer proffesiynol a moesegolPST80120 credydau
Asesu, ymgysylltu a llunioPST80240 credydau
Ymyrraeth a ChanlyniadauPST80340 credydau
Dulliau ymchwil a gwerthusoPST80420 credydau
Ymarfer clinigolPST80560 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Addysgir y rhaglen hon gan arbenigwyr sy'n ymarfer sy'n gallu darparu'r cydbwysedd cywir rhwng y damcaniaethol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i fod yn Gydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol (CAAP). Byddwch yn derbyn cymysgedd o hyfforddiant ymarferol yn y gwaith o dan oruchwyliaeth arbenigwyr a damcaniaethau'r GIG a ddarperir gan arbenigwyr yn y brifysgol. Bydd ystod eang o dechnegau addysgu sy'n addas ar gyfer yr ystod o sgiliau y byddwch yn eu dysgu, gan gynnwys achosion clinigol ffug a hyfforddiant grŵp bach. Bydd rhai o'r gweithdai yn cael eu cyflwyno ar-lein a rhai ar y campws.

Saesneg fydd cyfrwng y cyfarwyddyd.  Ond byddwch yn cael y dewis o gael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg ac o gyflwyno asesiadau ysgrifenedig yn y Gymraeg.  Byddwn yn ceisio dod o hyd i oruchwyliwr clinigol Cymraeg ei iaith ond bydd hyn yn dibynnu ar argaeledd un yn eich ardal ymarfer.   

Sut y caf fy asesu?

Bydd rhan helaeth o'r rhaglen yn cael ei hasesu drwy ddangos cymwyseddau clinigol sy'n seiliedig ar sgiliau.  Bydd tystiolaeth o'r rhain mewn portffolio clinigol.  Ar eich lleoliad bydd disgwyl i chi fodloni ystod o gymwyseddau clinigol gyda manylion wedi'u cofnodi yn eich portffolio.  Byddwch hefyd yn cael eich asesu gan ddefnyddio adroddiad sy'n seiliedig ar ymarfer, arsylwadau clinigol, ac asesiadau academaidd safonol megis traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau.  Byddwch yn cael aseiniadau ffurfiannol a chefnogaeth trwy gydol y rhaglen i'ch paratoi ar gyfer yr aseiniadau crynhoi. 

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ym Mhrifysgol Caerdydd a fydd yn eich cefnogi gyda phryderon bugeiliol. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, dylai eich tiwtor personol fod yn bwynt cyswllt cyntaf i chi bob amser; Byddant yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â'r ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol i fyfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr fel y bo'n briodol.Mae'n ofynnol i chi gwrdd â'ch tiwtor personol ar sawl pwynt yn ystod y flwyddyn ond fe'ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch.

Am wybodaeth o ddydd i ddydd, mae staff cymorth Academaidd Proffesiynol ein Hyb i Fyfyrwyr Ôl-raddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu drwy e-bost, o 8am i 6pm bob dydd yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Yn ogystal, fel gweithiwr i'r GIG byddwch yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth y GIG a gwasanaethau iechyd galwedigaethol.  Bydd tîm y rhaglen a'ch goruchwyliwr yn y gweithle yn gallu eich cyfeirio at y cymorth hwn a bydd gwybodaeth ar gael o fewn eich tudalennau staff yn y GIG ac ar dudalennau gwe'r Bwrdd Iechyd.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu y Rhaglen hon yn disgrifio yr hyn y byddwch yn ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall beth sy'n ddisgwyliedig ohonoch. 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Wedi cwblhau eich Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

GD 1    Dangos dealltwriaeth systematig a beirniadol o'r arfer proffesiynol a moesegol o fod yn Glinigwr Cyswllt mewn Seicoleg Gymhwysol (CCSG).

GD 2    Dangos gwybodaeth feirniadol a dealltwriaeth seicolegol o gyflwyniadau clinigol cyffredin sy'n berthnasol i'r boblogaeth darged.

GD 3    Dangos dealltwriaeth uwch o rôl CCSGwyr a chwmpas eu hymarfer, a'u perthynas â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a chyd-destun ehangach darpariaeth glinigol.

GD 4    Dangos dealltwriaeth feirniadol o asesu, fformiwleiddio ac ymyrraeth mewn theori ac ymarfer clinigol.

GD 5    Dangos dealltwriaeth feirniadol o'r ymchwil glinigol bresennol a'r sgiliau sydd eu hangen i gynnal ymchwil o dan oruchwyliaeth.

Sgiliau Deallusol:

Wedi cwblhau eich Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:  

SD 1    Integreiddio theori seicolegol ac ymchwil yn feirniadol i ymarfer clinigol ac ystyried cysyniadau a dulliau newydd. 

SD 2    Dangos gallu i ddatrys problemau uwch, hyblygrwydd a sgiliau myfyriol mewn cyd-destunau clinigol cymhleth.

SD 3    Integreiddio a chyfuno gwybodaeth gymhleth wrth weithio gydag unigolion, systemau a thimau.

SD 4    Dadansoddi a beirniadu ymyriadau clinigol lle mae tystiolaeth gymhleth, anghyflawn neu anghyson efallai'n bresennol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Wedi cwblhau eich Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:  

SY 1    Gwneud penderfyniadau moesegol, myfyriol, cydweithredol ac effeithiol o dan oruchwyliaeth, wrth ddarparu ystod o asesiad, fformwleiddiad, ymyrraeth a gwerthusiad seicolegol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

SY 2    Dangos y gallu i weithio fel ymarferydd myfyriol, gan gynnwys y gallu i fonitro eich addasrwydd ei hun i ymarfer a’ch lles.

SY 3    Dangos cyfathrebu effeithiol o wybodaeth o safbwynt seicolegol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol.

SY 4    Dangos arferion addasadwy a phroffesiynol, trin pobl ag urddas, parch, cofleidio amrywiaeth a chynhwysiant, a gweithio o fewn cwmpas y rôl CCSG.

SY 5    Dangos gallu i asesu a fformiwleiddio problemau sy'n effeithio ar les ac yna llunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau priodol ar sail tystiolaeth.

Sgiliau Allweddol/Trosglwyddadwy   

Wedi cwblhau eich Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

SA 1    Cyfathrebu gwybodaeth ddamcaniaethol a chlinigol gymhleth i gleientiaid, aelodau o'r teulu a gofalwyr, ac aelodau o dîm amlddisgyblaethol ehangach. 

SA 2    Cydweithio’n effeithiol ag eraill i hyrwyddo ymarfer rhyng-broffesiynol wedi’i lywio gan seicoleg yn effeithiol.

SA 3    Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ymchwil seicolegol 

SA 4    Dangos y gallu i ddatblygu perthynas weithio bositif gyda chleientiaid a chydweithwyr o fewn cyd-destun darpariaeth y gwasanaeth iechyd meddwl.                       

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Ariennir y rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr presennol GIG Cymru. Dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn ariannu eu hunain gysylltu â’r Ysgol yn uniongyrchol drwy’r tiwtor derbyn.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Mae gweithio i'r GIG yn rhan ofynnol o'r cwrs hwn. Felly, nid yw'r cwrs hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Cefnogir y rhaglen hon gan ddarparwyr gwasanaethau seicolegol y GIG.  Caiff y rhaglen ei chomisiynu a'i chefnogi gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac yn y pen draw gan Lywodraeth Cymru.  Mae disgwyl parhau â chyflogaeth ar ôl cymhwyso  o fewn y Bwrdd Iechyd sy’n penodi.

Lleoliadau

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau angenrheidiol i chi ddod yn Glinigwr Cyswllt mewn Seicoleg Gymhwysol (CCSG) i oedolion. Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol yn ystod eich lleoliad clinigol a'r theori sy'n sail i'ch modiwlau academaidd.

Mae'r rhaglen yn y broses o wneud cais am achrediad BPS ac ar ôl cwblhau'r CAAP hwn bydd yn gymwys i gofrestru ar 'Gofrestr Gweithlu Seicolegol Ehangach' y BPS.

Efallai y bydd cymhwyster pellach i rôl sylweddol wahanol a ariennir gan y GIG (e.e. Hyfforddiant Seicoleg Glinigol) fod yn bosibl yn ystod eich gyrfa ar ôl cymhwyso. Fodd bynnag, ni fydd comisiynwyr y GIG yn cefnogi hyn tan ddwy flynedd ar ôl i chi gwblhau'r MSc CCSG yn llwyddiannus. Ni fyddai hyn yn atal gofyn am gyllid mewnol gan y GIG i gefnogi hyfforddiant ôl-gymhwyso mewn rôl (CCSG).

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Sut i ymgeisio

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i'r cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Seicoleg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.