Athroniaeth
Rydyn ni’n cyfannu y dulliau dadansoddol, cyfandirol ac empirig sy’n ymdrin ag Athroniaeth.
Yn bennaf, mae ein hymchwil yn cwmpasu’r meddwl a gwerth, a chryfderau ein hymchwil yw athroniaeth seicoleg, athroniaeth ffeministaidd, seicoleg foesol, ymwybyddiaeth, rhesymoledd, cred, rhinwedd epistemig, a gwerth esthetig.
Cyhoeddiadau a sgyrsiau yw cyfryngau athroniaeth. Rydyn ni’n cynnal seminar ymchwil gyda siaradwyr gwadd a seminar gwaith ar y gweill ar gyfer staff a myfyrwyr doethurol. Rydyn ni hefyd yn gartref i gangen o’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol, sy’n cynnal digwyddiadau cyhoeddus a rheolaidd ym maes athroniaeth yn ogystal â Darlith Flynyddol Caerdydd sy’n ddigwyddiad nodedig.
Rydyn ni’n credu mewn ymchwil ryngddisgyblaethol ac yng ngwerth cyhoeddus athroniaeth, gan gydweithio â chydweithwyr ym maes Ieithyddiaeth a Seicoleg. Rydyn ni’n cyfrannu'n rheolaidd at flogiau, cylchgronau, podlediadau a digwyddiadau cyhoeddus. Rydyn ni'n cynnal y blog Open for Debate.
Yr Athro Nicholas Shackel yw derbynnydd Uwch-gymrodoriaeth Ymchwil Mind ar gyfer 2021-2022 am ei brosiect ar Baradocs Bertrand ac Egwyddor Difaterwch.
Join our thriving postgraduate community and experience our distinctive approach to research.