Cyfleusterau ôl-raddedig
Yn ychwanegol i’r cyfleusterau a ddarperir gan Ysgolion Academaidd unigol, rydym yn cynnig cyfleusterau cymdeithasol ac astudio, wedi’i lleoli yn ganolog, i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Cymdeithasu
Digwyddiadau
Mae Undeb y Myfyrwyr trwy’r Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig a’r Gymdeithas Ôl-raddedigion yn cynnig rhaglen ymroddedig o ddigwyddiadau i ddod a’r gymuned ôl-raddedig ynghyd yn ystod wythnos croesawu'r Hydref ac yn ystod y flwyddyn.
Cyfleusterau astudio
Parthau astudio ôl-raddedig
Mae lleoedd unigryw ar gyfer ôl-raddedigion ar gael ar draws Champws Parc y Mynydd Bychan. Mae mynediad cyfyngedig ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn unig drwy ddefnyddio cerdyn adnabod y Brifysgol.
Ym Mharc y Mynydd Bychan, mae’r Parth Astudio Ôl-raddedig ar yr ail lawr o’r prid adeilad yr Ysbyty ac mae’r adeilad ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Yn ychwanegol i’r ardal astudio, mae yna ofod anffurfiol gyda soffas, Teledu Freeview, microdon a chyfleusterau gwneud diodydd poeth.
Byddwch yn rhan o gymuned ôl-raddedig sy'n ffynnu, mewn Prifysgol a adnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymchwil ac addysg.