Ewch i’r prif gynnwys

Byw yn llety'r brifysgol

Drwy fyw mewn neuaddau neu dai i fyfyrwyr, bydd gennych fynediad i'n rhwydwaith cymorth cyfoedion i fyfyrwyr, yn ogystal â chyfle i gwrdd â phobl newydd wrth ddechrau eich bywyd myfyriwr.

Mae'n amgylchedd prysur a bywiog lle byddwch yn cwrdd â llawer o bobl newydd o gefndiroedd gwahanol. Os yw'n well gennych ychydig yn llai bywiog, rydym hefyd yn cynnig ystod o opsiynau llety byw'n dawel.

Cwrdd â phobl newydd

Ar gyfer y mwyafrif o fyfyrwyr, bydd mynd i'r brifysgol yn golygu byw oddi cartref am y tro cyntaf. Bydd gwneud ffrindiau newydd a setlo'n gyflym yn gamau pwysig cyntaf o fywyd Prifysgol.

Mae byw mewn llety myfyrwyr, boed hynny mewn tŷ myfyrwyr neu neuadd breswyl, yn rhoi cyfle gwych i chi gwrdd â phobl sy'n astudio ystod eang o bynciau.

Un o'r manteision mwyaf yw bod pawb yn yr un sefyllfa. Mae dysgu a gwneud pethau am y tro cyntaf, boed hynny'n goginio, smwddio, golchi dillad, ac ati, yn beth gwych gan y bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn profi hynny hefyd.

Ellie, BA Newyddiaduraeth a Chyfathrebu, 2020

Mae ein Tîm Bywyd Preswyl yma i helpu i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr amser gorau posibl yn ystod eich cyfnod yn aros yn ein llety. Byddant yn gwneud eu gorau glas i gynnig croeso cynnes a'ch helpu i ymgartrefu mewn modd diffwdan ym mywyd y brifysgol.

Gwyliwch fideo am sut gall y Tîm Bywyd Preswyl eich helpu i setlo yn y brifysgol.

Maent hefyd yn cynnig cefnogaeth rhwng cymheiriaid, a'ch cyfeirio at y gwasanaethau cefnogi a lles myfyrwyr pan fo angen. Maent hefyd yn helpu i feithrin ymdeimlad cryf o gymuned drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau diwylliannol yn ogystal â chefnogaeth ymarferol.

Gallwch ddilyn y Tîm Bywyd Preswyl ar Instagram.

Lleoliad

Mae'r rhan fwyaf o'n neuaddau a thai wedi'u lleoli yng nghanol y ddinas, nid yn unig yn agos i gampws y brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a'r adeiladau academaidd, ond hefyd i siopau, parciau a bywyd nos y ddinas.

Mae'n hawdd iawn teithio o amgylch Caerdydd gan ddefnyddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

Diogelwch

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod gennych le cyfforddus, glân a diogel i fyw.

Ac, os bydd angen, mae ein Tîm Diogelwch ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.

Llety sicr

Os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd wedi cael cynnig cadarn, byddwn yn gwarantu lle deiliadaeth sengl i chi yn llety'r gyda myfyrwyr blwyddyn gyntaf eraill ar yr amod eich bod yn bodloni terfynau amser eraill. Hefyd rydym yn gwarantu llety i ôl-raddedigion tramor sy’n cyrraedd ym mis Medi cyn belled â bod terfynau amser penodol yn cael eu bodloni.

Caerdydd yw un o’r dinasoedd gorau yn y DU ar gyfer Oedolion ifanc gan fod costaubyw yn isel ac mae cyfleoedd i gael swyddi ac ennill cyflogau da.

The Complete University Guide 2017

Rydym hefyd yn un o'r prifysgolion prin hynny sy'n cynnig ystafell sengl yn un o neuaddau'r i fyfyrwyr tramor, sy'n gwneud cais drwy'r cylch derbyn arferol, yn ystod y tymor a'r gwyliau ar gyfer eu rhaglen gradd gyfan, os yw'r cwrs yn unol â'r cyfnodau contract, ac os yw'r cais yn cael ei wneud drwy'r broses myfyrwyr sy'n dychwelyd.

Pris

Mae Caerdydd yn aml yn cael ei rhestru'n un o ddinasoedd prifysgol mwyaf fforddiadwy'r DU ym Mynegai Natwest am Gostau Byw i Fyfyrwyr. Gall ein cyfrifiannell costau byw eich helpu i gael syniad o faint fydd byw yng Nghaerdydd yn ei gostio i chi.

  • Mae gan 70% o'r ystafelloedd gwely yn llety'r brifysgol eu hystafelloedd ymolchi en-suite eu hunain.

Mae llawer o siopau coffi a bwytai ar draws y campws ac yn Undeb y Myfyrwyr lle mae prydau'n cael eu gweini am bris resymol.

Yn ein llety, byddwch yn cael Wi-Fi am ddim a mynediad i bwyntiau cysylltu â rhwydwaith cyfrifiadurol y brifysgol.

Cysylltwch

Swyddfa Llety