Diogelwch a chysylltiadau brys
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi roi gwybod i ni am fater diogelwch.
Diogelwch y Brifysgol
Ar gyfer materion argfywng a materion nad ydynt yn rhai brys, cysylltwch â’r Ystafell Reoli, ar agor am 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos.
Ystafell Rheoli Diogelwch
Pryderon am les myfyrwyr
Os oes gennych chi bryder am fyfyriwr, lawrlwythwch y ffurflen hysbysu am bryder a’i ebostio i concernedaboutastudent@caerdydd.ac.uk.. Byddwn yn ateb eich ymholiad, lle bo modd, o fewn 1 diwrnod gwaith rhwng 10.00 a 16.00, ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) yn ystod y tymor yn unig. Y tu allan i'r oriau hynny, cysylltwch â'r Tîm Diogelwch ar +44 (0)29 2087 4444.
- Os byddwch yn ebostio â mater o bryder ar ôl 16:00, sylwer na fydd hwn yn cael sylw tan y diwrnod canlynol
- Os ydych chi’n credu bod y myfyriwr dan sylw mewn perygl ar unwaith neu’n berygl i eraill, ffoniwch 999
- Os yw'n byw mewn un o neuaddau preswyl y Brifysgol, ffoniwch y Tîm Diogelwch ar +44 (0)29 2087 4444
- Os yw'n byw mewn tŷ preifat, cysylltwch â'r Rheolwr Preswylfeydd.
Lawrlwythwch y ffurflen adrodd pryder:
Concerned about a student report form (Welsh)
Ffurflen i'w gwblhau os ydych yn dymuno adrodd pryder am fyfyriwr.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Heddlu
Gallwch ffonio’r heddlu lleol mewn dwy ffordd:
- Ar gyfer galwadau brys, ffoniwch 999.
- Ar gyfer galwadau nad ydynt yn argyfwng, ffoniwch 101.
Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw ac angen ffonion Heddlu De Cymru mewn argyfwng, gallwch ffonio system minicom y lluoedd neu defnyddiwch wasanaeth neges destun argyfwng.
Rhif y minicom yw 01656 656980.