Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd mewn llety myfyrwyr

Mae ein neuaddau preswyl a'n tai yn cynnig cymuned gefnogol a chyfeillgar ac mae'r tîm Bywyd Preswyl yn cynnal digwyddiadau cyffrous i'ch helpu i deimlo'n gartrefol.

Gwyliwch ganllaw fideo myfyrwyr am fyw yng Nghaerdydd - y llety, y ddinas a bywyd yn un o Brifysgolion gorau'r DU.

Rhesymau dros fyw yn llety'r brifysgol

Mae'r rhan fwyaf o'n llety yng nghanol y ddinas ac o fewn pellter cerdded byr i'r brifysgol. Bydd ein rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid myfyrwyr yn eich helpu i ymgartrefu'n gyflym a chwrdd â phobl newydd.

Llety sy'n addas i bawb

Mae gennym ystod o lety i ddiwallu dewisiadau a chyllidebau unigol; gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr LGBT+, siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, teuluoedd a chyplau, a dewisiadau byw'n dawel.

Llety hygyrch

Mae llety wedi'i addasu'n arbennig ar gael, yn enwedig ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a myfyrwyr â nam ar eu clyw. Gallwn hefyd wneud addasiadau rhesymol i ystafell i gefnogi myfyrwyr ag anabledd.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch aros yn ein llety, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych.

Swyddfa Llety