Ewch i’r prif gynnwys

Llety hygyrch

Os oes gennych anabledd neu os oes gennych ofynion meddygol, falle rhoddir blaenoriaeth i chi yn ystod y broses ddyrannu.

Mae llety wedi'i addasu'n arbennig ar gael, yn enwedig ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a myfyrwyr â nam ar eu clyw.

Gallwn gynnig llety i fyfyrwyr gyda chŵn cymorth cofrestredig yn rhai o breswylfeydd y brifysgol. Ni chaniateir anifeiliaid eraill yn llety'r Brifysgol gan gynnwys anifeiliaid cymorth emosiynol/therapi.

Os ydych yn cael llety prifysgol wedi'i addasu'n benodol, nad yw'n cael ei gynnig yn y sector preifat e.e. teclyn codi, gallwch wneud cais i ddychwelyd i'ch llety prifysgol ar gyfer y flwyddyn astudio ganlynol. Mae'r ceisiadau hyn yn cael eu hystyried ar sail unigol yn dibynnu ar argaeledd.

Pryd i roi gwybod i ni am eich anghenion

Rhowch wybod ar eich cais ar-lein os oes gennych anabledd neu ofynion sy'n ymwneud â chyflwr meddygol sydd angen eu hystyried, neu y dylai eich Rheolwr Preswylfeydd fod yn ymwybodol ohonynt.

Dylech roi gwybod am y gofynion hynny ar eich cais, waeth pa lety rydych yn gwneud cais ar ei gyfer, neu hyd yn oed os ydych eisoes wedi cysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr ynghylch gofynion penodol.

Dim ond gwybodaeth a roesoch wrth wneud y cais fydd yn cael ei hystyried wrth ddyrannu ystafelloedd, ac mae'n bosibl y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol. Caiff pob gwybodaeth ynghylch anabledd neu wybodaeth feddygol ei thrin yn gyfrinachol a'i defnyddio at y dibenion a nodir uchod yn unig.

Addasiadau yn ystod eich amser yn y llety

Rydym yn gwneud addasiadau unigol rhesymol ar gyfer myfyrwyr anabl lle bo gofyn, er enghraifft, gosod canllaw mewn ystafell ymolchi. Gallwch wneud cais i gael addasiadau unrhyw bryd yn ystod eich amser yn y llety drwy siarad â'ch Rheolwr Preswylfeydd.

Fodd bynnag, os ydych yn ymwybodol o unrhyw addasiadau cyn i chi gyrraedd, cysylltwch â'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr i'w trafod, a byddwn yn ceisio eu gwneud erbyn i chi gyrraedd.

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr