Ewch i’r prif gynnwys

Llety sy'n addas i bawb

Mae gennym amrywiaeth o lety sy'n addas i’r hyn sydd orau gennych a’ch cyllideb.

Mae hyn yn cynnwys llety ar gyfer:

Byw'n dawel

Mae lletyau'r Brifysgol yn fannau bywiog a phrysur, yn enwedig lle mae nifer fawr o fyfyrwyr yn byw gyda'i gilydd. Fodd bynnag, rydym yn cynnig dewisiadau llety ar gyfer yr israddedigion hynny y byddai'n well ganddynt fyw mewn lleoliad tawelach.

Wrth wneud cais, gallwch ofyn am ystafell mewn fflat/tŷ i'w rannu gyda myfyrwyr eraill sydd wedi mynegi diddordeb mewn amgylchedd byw tawel.

Os ydych yn cael ystafell mewn llety tawelach, y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn cadw'r sain yn isel ar y teledu a chyfarpar sain, a bod yn arbennig o ystyrlon yn hwyr y nos ac yn ystod cyfnod arholiadau. Yn anffodus, allwn ni ddim rheoli lefel y sŵn y tu allan, na synau amgylcheddol.

LGBT+

Rydym yn un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ac yn y 10fed safle o blith 100 o gyflogwyr ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2020. Rydym hefyd yn cael ein cydnabod gan Stonewall yn Gyflogwr Gwych ar gyfer Pobl Draws.

Rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn cael croeso yn ein holl breswylfeydd ac yn cael cynnig cymorth i’w helpu i ymgartrefu oddi cartref. Mae ein tîm Bywyd Preswyl yn ymroi i greu cymuned gynhwysol a dod â myfyrwyr ynghyd trwy ystod o weithgareddau. Mae detholiad o wasanaethau cefnogi a lles myfyrwyr ar gael ar eich cyfer yn ogystal â chymdeithasau a grwpiau sy’n mynd ati’n bwrpasol i gefnogi myfyrwyr LGBT+.

Opsiynau LGBT+

Ein nod yw gwella'n gwasanaethau'n barhaus ac rydym wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr LGBT+ ar syniadau i wella eu profiad yn y Brifysgol.

Yn dilyn adborth gan fyfyrwyr, mae rhai fflatiau yng Ngogledd Tal-y-bont a De Tal-y-bont wedi'u neilltuo ar gyfer myfyrwyr LGBT+. Cynigir y llety hwn fel opsiwn ar gyfer y myfyrwyr hynny a fyddai’n well ganddynt fyw gyda phobl eraill o’r un gymuned neu a fyddai’n cael mwy o gefnogaeth drwy fyw gyda myfyrwyr LGBT+.

Os ydych yn ystyried eich hun yn LGBT+ ac os hoffech gyflwyno cais am y llety hwn, dewiswch yr opsiwn hwn yn eich cais ar-lein.

Siaradwyr a dysgwyr Cymraeg

Cedwir rhai fflatiau yn Llys Senghennydd a Gogledd Tal-y-bont ar gyfer myfyrwyr israddedig sy'n siaradwyr neu'n ddysgwyr Cymraeg.

Os hoffech gyflwyno cais i aros yn y llety hwn, dewiswch yr opsiwn hwn yn eich cais ar-lein.

Cyplau a theuluoedd

Rydym yn cynnig opsiynau llety ar gyfer cyplautheuluoedd. Mae gan gyplau y dewis i aros mewn fflat stiwdio neu fflat un ystafell wely, tra bod teuluoedd yn gallu dewis fflatiau â dwy neu dair o ystafelloedd gwely.

Mae'r niferoedd yn brin ac o ganlyniad, ni allwn warantu'r math hwn o lety yn anffodus a rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr tramor ar gyfer blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau.

Bydd angen i bob myfyriwr sy'n byw mewn llety ar gyfer cyplau neu deuluoedd ddod o hyd i lety arall ar ôl y flwyddyn gyntaf.

At hynny, rydym yn cynnig Wi-Fi ar gyfer partneriaid, priod ac aelodau o'r teulu. Fodd bynnag, dim ond myfyrwyr cofrestredig all ddefnyddio'r pwynt cysylltu â'r rhwydwaith.