Ewch i’r prif gynnwys

Cynorthwyo ymchwilwyr

Mae ein hymchwilwyr yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o raglenni datblygu, y cyfleusterau diweddaraf, adnoddau llyfrgell eang a chyngor arbenigol.

O raglenni datblygu a chyfleusterau arloesol i ddiwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn cefnogi ein hymchwilwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Mae pob aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn hyrwyddo nodwedd warchodedig, a ni oedd y brifysgol gyntaf yn y DU a enwyd yn Hyrwyddwr Cyflog Byw, yn 2015. Daethom yn 10fed ar restr Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall o'r 100 Cyflogwr Gorau, sy'n golygu mai ni yw prifysgol uchaf y DU ar gyfer cydraddoldeb LHDT+ yn y gweithle.

Ymchwilwyr gyrfa cynnar

Ymchwilwyr gyrfa cynnar

Rydym yn darparu cyngor hyfforddiant a gyrfaoedd ar gyfer ymchwilwyr drwy gydol eu gyrfa.

Cefnogi ymchwilwyr

Cefnogi ymchwilwyr

Mae ein hymrwymiad i gefnogi datblygiad gyrfaol ein hymchwilwyr wedi ei gydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Llyfrgelloedd ac adnoddau

Llyfrgelloedd ac adnoddau

Mae ein cyfleusterau uwch a llyfrgelloedd arbenigol yn galluogi ein hymchwilwyr i fod ar falen y gad o’u disgyblaethau.

Offer a chyfleusterau

Offer a chyfleusterau

Mae ein cyfleusterau rhagorol yn denu ac yn cefnogi academyddion blaenllaw o bob cwr o'r byd ac yn eu galluogi i wireddu eu huchelgeisiau ymchwil.

Ymrwymiad i Dechnegwyr

Arweinir yr Ymrwymiad i Dechnegwyr gan y Cyngor Gwyddoniaeth i sicrhau gwelededd, cydnabyddiaeth, datblygiad gyrfa a chynaliadwyedd i dechnegwyr sy’n gweithio ym maes addysg uwch ac ymchwil.

Cymorth grant a chyllid

Cymorth grant a chyllid

Mae ein hymchwilwyr yn elwa o gael cymorth canolog a phenodol ar gyfer dyfarniadau a cheisiadau cyllid.

Menywod ym maes Gwyddoniaeth

Menywod ym maes Gwyddoniaeth

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein staff benywaidd mewn meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil

Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil

Mae ein gwaith yn grymuso a chefnogi ymchwilwyr wedi cael ei gydnabod a'i achredu gyda'r wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil.

Trawsnewid diwylliant ymchwil

Trawsnewid diwylliant ymchwil

Rydym yn gwneud ein prifysgol yn lle mwy creadigol, cynhwysol, gonest ac agored ar gyfer cynnal ymchwil.