Ewch i’r prif gynnwys

Offer a chyfleusterau

Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn denu academyddion blaenllaw o bob cwr o’r byd, ac yn eu galluogi i gyflawni eu huchelgais ym maes ymchwil.

Rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn ein hystad bob blwyddyn i ddarparu cyfleusterau modern sydd ag adnoddau gwerth chweil. Mae ein rhaglen datblygu campws yn cynnwys gwaith yng nghampws newydd Parc Maendy. Mae Parc Maendy yn cael ei ddatblygu yn benodol i fod yn gartref i’n Canolfannau a’n Sefydliadau Ymchwil, a bydd yn cynnig adnoddau rhagorol ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Adeilad Hadyn Ellis
Adeilad Hadyn Ellis

Cafodd yr adeilad cyntaf ar y campws newydd, sef adeilad Hadyn Ellis a oedd werth £30m, ei gwblhau yn 2013. Mae'n cynnig cyfleusterau datblygedig iawn ar gyfer ein timau ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys yr Adeilad Cochrane newydd ar gampws Parc y Mynydd Bychan, a fydd yn cynnig gwell cyfleusterau ar gyfer y pum Ysgol Gofal Iechyd, ac estyniad gwerth £4m i’r Ysgol Biowyddorau.

Rhannu adnoddau

Fel rhan o bartneriaeth GW4, rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerwysg i sicrhau bod ein hoffer ymchwil yn fwy gweladwy ac yn haws ei rannu.

Mae gwefan offer GW4 yn galluogi staff academaidd a thechnegol i chwilio am ddarnau mwy o offer ymchwil sy’n eiddo i brifysgolion GW4.

Yn ogystal â hynny, mae gennym ein cronfa ddata ein hunain o offer ymchwil yr holl Brifysgol ar gyfer offer llai.

Offer a chyfleusterau anhygoel

Dadansoddiad Sbectrosgopeg Ffoto-electron Pelydr-x (XPS)

Mae ein sbectromedr yn cyfuno technolegau’r genhedlaeth nesaf i gynhyrchu delweddau meintiol, paralel mewn amser real gyda thechnegau sbectrosgopeg manwl iawn ym mhob maes dadansoddi.

Sganwyr ymennydd

Mae ein technoleg yn cynnwys delweddu cyseinedd magnetig (MRI) gweithredol a strwythurol, technegau magneto-enceffalograffi ac electro-enceffalograffi, a dulliau symbylu magnetig trawsgreuanol.

Labordy goleuadau

Mae gennym rai o'r cyfleusterau gorau yn y byd ar gyfer profion ac ymchwil ym maes golau, ynghyd â thîm o staff hynod brofiadol.

Profion tyrbin nwy

Mae gennym rai o'r unig gyfleusterau profi tyrbinau nwy yn y byd, gyda nodweddion sy’n eu gwneud yn unigryw

Cyfleuster Genomeg Parc Geneteg Cymru

Defnyddio geneteg i hybu ymchwil, gofal iechyd, addysg ac arloesi.

Campws Arloesedd

Trawsnewid ein hamgylchedd adeiledig i gefnogi newid yn ein gweithgareddau ymchwil ac arloesedd