Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr gyrfa cynnar

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn Brifysgol sy'n gwella ac yn hwyluso dyheadau ein hymchwilwyr gyrfa cynnar.

Mae ein hymrwymiad i ddatblygu gyrfa a hyfforddiant, ochr yn ochr â chefnogaeth bwrpasol i hybu llwyddiant ariannu allanol, wedi'i ddylunio i helpu datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil fydd yn gallu newid cymdeithas. Mae twf mewn academyddion ac ymchwilwyr gyrfa gynnar yn rhan allweddol o'n hamcanion strategol ar gyfer ymchwil, arloesi ac effaith.

Mae ein Sefydliadau Ymchwil, er enghraifft, yn hwyluso hyfforddiant rhyngddisgyblaethol gan weithio ar amrywiaeth o heriau ym meysydd iechyd, amgylcheddau cynaliadwy, arloesedd data, trosedd a diogelwch.

Mae gennym ymchwilwyr gyrfa gynnar ar gontractau ymchwil yn unig a chontractau addysgu ac ymchwil a gynrychiolir ar fyrddau Ysgolion, yn ogystal ag ar bwyllgorau ymchwil y Brifysgol a'r Ysgol.

Datblygiad gyrfa a hyfforddiant

Mae'r rhaglen hon yn seiliedig ar y Fframwaith Datblygu Ymchwil Vitae ein rhaglen hyfforddiant a datblygu sy'n darparu mynediad i amrywiaeth eang o weithdai ymarferol, modiwlau ar-lein ac hyfforddiant un i un. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy hyn yn sicrhau bod ein hymchwilwyr gyrfa gynnar yn datblygu'r arbenigedd i ddilyn ei llwybr academaidd neu ddiddordebau nad ydynt yn rhai academaidd.

Mae rhaglenni arweinyddiaeth cysylltiedig fel Dyfodol Caerdydd a Crwsibl Cymru, yn darparu fframwaith i ryngweithio gydag uwch arweinwyr y Brifysgol, darparu prosiectau cydweithredol a rhwydweithiau gyda chymheiriaid.

Cefnogi eich taith i annibyniaeth academaidd

I'ch helpu chi i ddeall cyfleoedd ariannu ar gyfer disgyblaethau penodol a datblygu eich sgiliau ymgeisio am grantiau, rydym yn cynnal digwyddiadau grantiau ymchwil a chynllunio, sy'n benodol ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar. Mae'r rhain yn cynnwys llwybr cyflym i raglenni cymrodoriaethau yn darparu gweithdai hyfforddi ysgrifennu ceisiadau grantiau a sesiynau gydag ymgynghorwyr hyfforddi.

Cefnogi symud i yrfa nad yw'n academaidd

Rydym yn darparu gwasanaeth cyngor gyrfaoedd a chyfarwyddyd penodol ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n ystyried gyrfaoedd academaidd a llwybrau ehangach y tu allan i’r Brifysgol yn ogystal. Mae’r Rhaglen Ymchwilwyr Caerdydd yn rhedeg gweithdai adfywio gyrfaoedd ac yn cynnig mynediad i raglen a rennir gyda Choleg Graddedigion y Brifysgol o ddigwyddiadau cysylltu â chyflogwyr a modelau rôl.

Cymdeithas Staff Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CURSA)

Mae CURSA yn gweithio gydag uwch-arweinwyr er mwyn cynnig amgylchedd colegol, cyfartal a chefnogol i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y Brifysgol.  Ei nod yw:

  • ymgysylltu ag ymchwilwyr, staff gwasanaethau proffesiynol a rheolwyr ar bob lefel er mwyn sicrhau bod swyddi gwerth chweil i ymchwilwyr a hyrwyddo amgylchedd ymchwil cadarnhaol
  • cynrychioli staff sydd ar gontractau ymchwil yn unig drwy gyfrannu at ddatblygu polisïau a mentrau
  • trefnu symposiwm i drafod materion ymchwilwyr gyda staff
  • rhoi cefnogaeth i ymchwilwyr, er enghraifft drwy hyrwyddo hyfforddiant a digwyddiadau rhwydweithio
  • hwyluso trafodaethau rhwng ymchwilwyr drwy Yammer - platfform rhwydweithio ar-lein y Brifysgol.

Mae cynrychiolaeth CURSA yn ein Hysgolion Academaidd yn helpu i ymgorffori’r gweithgareddau hyn ar draws y Brifysgol.