Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth grant a chyllid

Mae'r gallu i sicrhau cyllid yn hanfodol ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd. Rydym yn helpu ein hymchwilwyr i wneud yn fawr o gyfleoedd cyllid.

Mae ein hymchwilwyr yn elwa o gael cymorth canolog a phenodol ar gyfer dyfarniadau a cheisiadau cyllid. Rydym yn eu helpu bob cam o’r ffordd, gan gynnig cymorth gyda’r canlynol er enghraifft:

  • dod o hyd i gyfleoedd cyllid
  • ceisiadau
  • trafod telerau contract
  • cefnogaeth barhaus.
Dr Paola Borri
Cafodd Dr Paola Borri wobr o £1.1m am ei gwaith ymchwil a oedd yn defnyddio nanosgopeg optegol ar gelloedd.

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd cyllid sydd ar gael, ac yn sicrhau y gall ymchwilwyr ddefnyddio cronfa ddata o gyfleoedd cyllid. Mae ein buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesi cyfnod cynnar yn cefnogi ymchwilwyr gydag offer prynu, ymchwil 'prawf o gysyniad', trosglwyddo i geisiadau annibyniaeth, canlyniadau effaith a masnachol, cydweithio rhyngwladol newydd, a chenhadaeth ddinesig a gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd.

Gall ymchwilwyr hefyd gael cymorth pwrpasol i’w helpu i gynyddu eu siawns o lwyddo drwy gyflwyno cynigion o ansawdd uchel.

Rydym yn rhoi cymorth a chyngor cyfreithiol i ymchwilwyr wrth iddynt drafod contractau, gan gynnwys drafftio contractau, ac yn rhoi help ac arweiniad ariannol i ymchwilwyr drwy gydol oes prosiect.

Mae gennym storfa ddigidol prifysgol, sy’n golygu y gall gwaith ymchwil yr ymchwilwyr fod ar gael yn hwylus dros y rhyngrwyd. Mae hyn yn bodloni gofynion mynediad agored cyrff cyllido, ac yn helpu i sicrhau bod y gwaith ymchwil yn cael cymaint o effaith â phosib.