Uniondeb a moeseg ymchwil
Rydym ni'n cynorthwyo ymchwilwyr i gyflawni'r safonau uchaf o onestrwydd ymchwil ym mhob gweithgarwch ymchwil.
Mae gonestrwydd ymchwil yn hanfodol i ffyniant ymchwil academaidd yn y dyfodol. Dim ond drwy gadw at y safonau uchaf o onestrwydd ymchwil y gallwn ni mewn gwirionedd gyflawni rhagoriaeth ymchwil mewn marchnad sy'n gynyddol gystadleuol a rhyngwladol.
Rydym yn gwbl ymrwymedig i gynnal egwyddorion y Concordat i Gefnogi Gonestrwydd Ymchwil Prifysgolion y DU. Mae gennym systemau cadarn ar waith i alluogi ymchwilwyr i gynnal ymchwil o ansawdd i'r safonau cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol uchaf.
Mae ein Cod Gonestrwydd Gwaith Ymchwil a'i Lywodraethu yn cynnig fframwaith ar gyfer ymddygiad ymchwil da ac yn helpu ymchwilwyr i fodloni gofynion moesegol, ac atal camymddygiad.