Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil

Rydym wedi ymrwymo i rymuso ymchwilwyr a’u helpu i wneud ymchwil o’r radd flaenaf, gan gynnwys adeiladu a chynnal eu gyrfa.

Mae rhagoriaeth mewn ymchwil yn rhan allweddol o'n cynllun strategol, Y Ffordd Ymlaen 2018-2023.

Yn 2010, ni oedd un o'r prifysgolion cyntaf yn y DU i wneud cais am y Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil a’i chael. Rydym wedi bod â’r wobr ers hynny, yn dilyn adolygiad bob dwy flynedd.

Ymrwymiad i gefnogi datblygiad gyrfa

Mae'r fframwaith ar gyfer sut y dylid rheoli a chefnogi gyrfaoedd ym maes ymchwil yn y DU i’w weld yng Nghoncordat 2019 i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, y mae Prifysgol Caerdydd yn un o’i lofnodwyr. Mae'n adeiladu ar y gwelliannau eang a wnaed ar draws y sector ers Concordat 2008 ac yn seiliedig ar yr egwyddor bod yn rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i greu diwylliant ymchwil cefnogol ac iach sy’n galluogi ein hymchwilwyr i ffynnu.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried bod gweithredu'r Concordat yn dystiolaeth o ymrwymiad sefydliad i'r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ymchwilwyr a'r Côd Ymddygiad ar gyfer Recriwtio Ymchwilwyr. Yn y cyfnod rhwng 2010 a 2020, cafodd ein gwaith yn y maes hwn ei lywio gan Goncordat 2008, ac ers 2020, mae ein cynnydd wedi'i fonitro yn erbyn Concordat 2019.

Cynnydd

Dros y 12 mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu’n barhaus sut rydym yn cefnogi ac yn datblygu ein staff ymchwil.

Mae trosolwg o gynnydd y Brifysgol i’w weld yn y dogfennau canlynol:

Cynllun Gweithredu Concordat Datblygu Ymchwilwyr 2022-25

Ein cynllun gweithredu ar gyfer 2022-25.

Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil Adolygiad deuddeg mlynedd Prifysgol Caerdydd

Adolygiad o'n gwaith tuag at y Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil.

Adolygiad o gynnydd Cynllun Gweithredu Concordat Datblygu Ymchwilwyr 2020-22 Prifysgol Caerdydd

Adolygiad o'n gwaith tuag at y Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil.