Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid diwylliant ymchwil

Rydym yn gwneud ein prifysgol yn lle mwy cefnogol, creadigol, cynhwysol ac agored i wneud ymchwil.

Nod ein cynllun ‘Trawsnewid Diwylliant Ymchwil’ yw sicrhau bod diwylliant ymchwil cadarnhaol yn rhan annatod o'n portffolio ymchwil ac arloesedd. Bydd yn dwyn ynghyd unigolion sy'n gweithio i wella diwylliant ymchwil y brifysgol ac yn sicrhau bod newidiadau'n cael eu gwneud mewn ffyrdd mwy amlwg ac effeithiol.

Rydym yn cynnig canolbwyntio’n fwy ar fynd i'r afael â materion systemig a strwythurol sy'n cael effaith ar ein hymchwilwyr, cefnogi gwaith asesu ymchwil mewn ffordd gyfrifol, cefnogi ymchwil agored a chydnabod cyfraniad pawb sy'n ymwneud ag ymchwil yn well.

Mae’r cynnig yn seiliedig ar ymgynghori’n helaeth â chydweithwyr sy’n ymwneud ag ymchwil ar draws y brifysgol. Mae’n dilyn ein hymwneud â menter ‘Ailddychmygu Ymchwil’ Ymddiriedolaeth Wellcome, gan gynnwys y gwaith o gynnal un o’i Chyfarfodydd Cyffredinol, a’n hystyriaeth o ganfyddiadau ei harolwg o farn ymchwilwyr ledled y DU am y diwylliant yn eu gweithle.

Ein nodau

Ein cynllun Trawsnewid Diwylliant Ymchwil:

  • yn cydnabod mai proses barhaus yw sicrhau  diwylliant cadarnhaol sy'n gofyn i uwch arweinwyr ac unigolion ar draws y Brifysgol ymroi iddi’n llawn
  • yn cydnabod y bydd yn fwy heriol ac yn cymryd amser i fynd i’r afael â rhai materion
  • yn dwyn gwahanol ymrwymiadau, cynlluniau gweithredu a strategaethau ynghyd i ffurfio un strategaeth gyffredinol ar gyfer ein diwylliant ymchwil
  • yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan ymchwil/ymchwilwyr
  • yn ddynamig ac yn ystwyth ac yn perthyn i'r gymuned ymchwil gyfan
  • yn rhoi pwyslais ar werthoedd ac ymddygiad cadarnhaol yn lle cydymffurfiaeth
  • yn gweithio’n unol â gwerthoedd ac ymddygiad craidd sy’n sicrhau mai ystyr diwylliant ymchwil yw popeth y mae ymchwilydd yn ei wneud i gefnogi ymchwil

Sut y byddwn yn cyflawni hyn

Mae 'Trawsnewid Diwylliannau Ymchwil' yn cyd-fynd â phedair blaenoriaeth strategol a’r gweithgareddau cysylltiedig. Nid yw'r rhestr isod yn cynnwys popeth.

Strategaeth a llywodraethu

  • Byddwn yn creu cynllun gweithredu ar gyfer ein diwylliant ymchwil ac yn ymrwymo i gyhoeddi gwybodaeth am ein cynnydd.
  • Byddwn yn parhau i sicrhau mewnbwn gan ymchwilwyr a’r rhai sy’n cefnogi ymchwil ar draws y Brifysgol.
  • Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd i'r Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter.

Polisïau a gweithdrefnau

  • Byddwn yn cyflwyno ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i gôd ymddygiad gorfodol a hawdd ei ddeall ar gyfer pob tîm ac uned ymchwil.
  • Byddwn yn adolygu prosesau a gweithdrefnau sy’n helpu unigolion i ddatblygu eu gyrfa, ymarfer mewn ffordd gynhwysol a gwneud ymchwil agored a gonest.

Hyfforddiant a chefnogaeth

  • Byddwn yn adolygu ein rhaglenni hyfforddiant a chefnogaeth i wneud yn siŵr eu bod yn addas at y diben ac yn hyrwyddo arfer cadarnhaol.

Amlygrwydd, cydnabyddiaeth a gwobrwyo

  • Byddwn yn ystyried, yn datblygu ac yn ymgorffori proses o wobrwyo a chydnabod pobl am arfer cadarnhaol.
  • Byddwn yn datblygu ymhellach ein gwaith ar asesu ymchwil mewn ffordd gyfrifol.
  • Byddwn yn sicrhau bod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa’n cael eu cynnwys yn fwy yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch ymchwil.
  • Byddwn yn hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi llwybrau gyrfa a chyfleoedd i bobl nad ydynt yn gweithio ym maes addysgu ac ymchwil ond sy'n chwarae rhan hynod o bwysig mewn 'ymchwil tîm'.

Bydd ein Gweithgor Diwylliant Ymchwil, sy’n cael ei gadeirio gan yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil, yn gyfrifol am roi’r cynllun gweithredu ar gyfer ein diwylliant ymchwil ar waith.

Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen

Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen

Director of Research Development and Environment

Email
wahl-jorgensenk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 79414