Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliant ein hymchwil

Aerial view of uni
An aerial view of Cathays campus, set in Cardiff's beautiful Civic Centre

Mae cymuned ymchwil gref a chyfleusterau sy’n eich helpu i gyflawni eich uchelgeisiau ymchwil yn cefnogi ein diwylliant o arloesedd, cyfnewid gwybodaeth, effaith ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Rydyn ni wedi ymrwymo i hwyluso diwylliant ymchwil sy’n gadarnhaol ac yn gynhwysol sydd hefyd ei gwneud yn bosibl sicrhau rhagoriaeth mewn ymchwil mewn ffordd onest a thryloyw.

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 canfuwyd bod 90% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn golygu ein bod ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am safon gyffredinol ein hymchwil. Roedd y cyflwyniad yn adlewyrchu’r ffordd gynhwysol rydym yn cefnogi rhagoriaeth ymchwil ar draws pob disgyblaeth a chyflawnwyd hyn trwy gynorthwyo ymchwilwyr Caerdydd i gyflawni ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth. Mae’r ffaith inni gyflwyno 100% o’n hymchwil, yn ogystal â’r twf sylweddol yn ein cymuned ymchwil yn ystod cyfnod REF 2021, yn brawf o hyn.

Eich helpu i ddatblygu eich gyrfa

Rydyn ni eisiau eich cefnogi i feithrin a chynnal eich gyrfa, ac mae ein hymrwymiad i hyn wedi cael ei gydnabod yn sgîl y Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil. A ninnau’n un o lofnodwyr cyntaf Ymrwymiad y Technegwyr, rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein technegwyr yn cael eu cydnabod a’u parchu a bod eu gyrfaoedd yn cael eu datblygu a’u cynnal.

Byddwch chi’n manteisio ar wasanaethau hyfforddi a datblygu gyrfaol sydd wedi'u teilwra i'ch cyfnod gyrfaol a'ch llwybr. Byddwn ni hefyd yn cefnogi eich potensial i arwain, ac yn eich helpu i gyfathrebu ac arloesi yn sgîl eich ymchwil. Cewch y cyfle i lunio dyfodol ein diwylliant ymchwil drwy gymryd rhan yn ein Cymdeithas Staff Ymchwil fywiog.

Drwy lofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod canlyniadau ymchwil yn cael eu hasesu ar sail teilyngdod. Mae hyn yn adlewyrchu'r pwys a roddwn ar ymchwil gynhwysol a gwyddoniaeth mewn tîm, fel y gallwn ni gefnogi a gwella cyfleoedd gyrfa pob aelod o’n staff ar hyd pob cam yn eu gyrfa.

Byddwch chi’n elwa ar fod yn rhan o gymuned o ymchwilwyr blaenllaw, lle mae staff a myfyrwyr ymchwil yn gweithio ar ffiniau gwybodaeth yn eu disgyblaethau.

Ein sefydliadau a'n mentrau ymchwil

Rydyn ni’n cynnal nifer o fentrau a rhaglenni sy'n ymroddedig i annog arloesedd, effaith ac ymgysylltu â'r cyhoedd, ac i hyrwyddo ein cenhadaeth sifig. Gallwn ni eich helpu i gysylltu â phartneriaid allanol, yn ogystal â thrin a thrafod sut y gall eich ymchwil newid y byd.

Aethon ni ati i greu ein sefydliadau  i fynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf y byd ac i gefnogi meysydd cryf o ran ymchwil ac arloesedd. Mae'r sefydliadau'n cydweithio'n helaeth, gan gynnwys prosiectau rhyngddisgyblaethol, incwm grant ar y cyd a thechnolegau ac offer cyffredin.

Ein strategaeth

Nod ein Strategaeth Ymchwil ac Arloesedd yw sbarduno rhagor o arloesedd ac effaith ranbarthol. Ein nod yw hwyluso uchelgais ein pobl a’n partneriaid allanol, gan feithrin diwylliant ymchwil ar yr un pryd sy’n gefnogol, yn greadigol, yn gynhwysol ac yn onest.

Er mwyn annog hyn, ein hamcanion strategol ar gyfer ymchwil ac arloesedd fydd:

  • Meithrin a hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymchwil mewn ffordd onest a chynhwysol
  • Cyfoethogi ein diwylliant ymchwil a hyrwyddo llwyddiant ar draws pob un o’n cymunedau ymchwil amrywiol
  • Hybu twf clystyrau ymchwil ac arloesedd o bwys yn y rhanbarth
  • Meithrin a hyrwyddo academyddion a myfyrwyr creadigol, arloesol ac entrepreneuraidd
  • Hyfforddi gweithlu medrus sy'n gallu sicrhau economi'r dyfodol yn gyflymach

Ein tîm arweinyddiaeth

Dyma ein tîm arweinyddiaeth sy'n gytbwys o ran y rhywiau ac sy’n goruchwylio ein diwylliant ymchwil. Mae’n cynnwys:

  • Y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter
  • Y Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil
  • Deoniaid y Coleg ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd, Astudiaethau Ôl-raddedig, a Myfyrwyr Rhyngwladol