Ewch i’r prif gynnwys

Cyn rhoi genedigaeth i'w merch, Ella, nid oedd Sally Wilson erioed wedi clywed am gyflwr a fyddai'n newid ei bywyd maes o law.

Doedd Sally ddim yn synnu bod y broses esgor yn boenus ond, wrth i amser fynd heibio, fe ddaeth yn ddryslyd nes iddi golli ei gafael ar amser yn llwyr. Dechreuodd deimlo’n orbryderus a phrin oedd hi'n cysgu. Dechreuodd weld rhithweledigaethau.

Roedd Sally yn dioddef o seicosis ôl-enedigol (PP), anhwylder seiciatrig difrifol sy'n effeithio ar dros 1,400 o fenywod yn y DU bob blwyddyn. Yn nodweddiadol, mae’n dechrau’n sydyn, ac mae’r symptomau megis gweld rhithdybiau (deulsions), dryswch a newidiadau cyson ac eithafol mewn hwyliau, yn gwaethygu’n gyflym. Gall yr anhwylder hwn arwain at salwch difrifol ac mewn achosion prin ond trasig, hunanladdiad.

Ond er gwaethaf ei ddifrifoldeb, hyd at yn ddiweddar, bu diffyg dealltwriaeth am yr hyn sy’n ei achosi a sut y gellid cefnogi menywod yn well. Mae'r Athro Ian Jones a'i dîm wedi bod yn gweithio i newid hynny.

Nawr bod Sally wedi gwella, mae'n gydlynydd hyfforddi ac ymchwil ar gyfer Action on Postpartum Psychosis (APP).

Wrth siarad â'r Athro Jones, mae hi'n dweud: “Pan oeddwn i'n sâl, y diffyg gwybodaeth oedd y broblem fawr. Yn ystod cyfnodau acíwt, byddai cael gwybodaeth am y salwch a'r dystiolaeth am driniaeth a gwella wedi bod o gymorth i mi fel claf, ac i’m teulu.”

Mae Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yr Athro Ian Jones yn cytuno: “Roedd hi'n amlwg bod bwlch enfawr yn yr ymchwil, felly fe aethon ni ati i ymchwilio.”

Symptomau'n dechrau’n gyflym

Ar ôl ymchwil cychwynnol, roedd maint y broblem yn glir. Yn ôl yr Athro Jones: ”Roedden ni'n gwybod bod hunanladdiad yn un o brif achosion marwolaethau ymhlith mamau yn y DU, a hynny’n aml yn gysylltiedig â salwch seicotig difrifol yn dechrau o fewn dyddiau ar ôl rhoi genedigaeth.

“Yn destun pryder, mae’r lefel risg o ran llawer o'r menywod sy'n marw, yn uchel, ond nid ydynt yn cael eu hasesu’n fanwl o ran risg, nac yn derbyn cynllun rheoli ffurfiol nag o dan oruchwyliaeth agos yn y dyddiau a'r wythnosau ar ôl yr enedigaeth.”

Gan ddisgrifio'r symptomau, dywed yr Athro Jones: Maent yn amrywio'n fawr o fenyw i fenyw, nid oes patrwm nodweddiadol. I lawer o fenywod, efallai y byddant yn dechrau cael trafferth cysgu. Mae symptomau’n gysylltiedig â hwyliau yn gyffredin, gall y rhain amrywio rhwng hwyliau isel a hwyliau arbennig o dda neu deimlo’n flin. Mae symptomau eraill yn cynnwys mwy o egni a symptomau seicotig megis gweld rhithweledigaethau a rhithdybiau.

“Mae'n arferol iawn i’r arwyddion cyntaf o unrhyw broblem ddod i’r wyneb yn gyflym iawn ar ôl i'r babi gael ei eni. Pan wnaethon ni ofyn i fenywod yn ystod ein hymchwil, dywedodd tua 85% fod y salwch wedi dechrau yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth. O'r rheiny, roedd y mwyafrif helaeth o fewn y tridiau cyntaf. Rydym yn delio â salwch sy’n dechrau’n gyflym ac felly mae angen ymyriadau’r un mor gyflym.”

Y cysylltiad â’r anhwylder deubegwn

Er bod clinigwyr yn cydnabod bod menywod sy’n dioddef o’r anhwylder deubegwn yn fwy tebygol o ddatblygu seicosis ôl-enedigol na gweddill y boblogaeth, roedd diffyg tystiolaeth am ba mor gyffredin yw seicosis ôl-enedigol mewn menywod sy’n dioddef o’r anhwylder deubegwn, a'r ffactorau sy'n effeithio ar risg unigol, yn golygu nad oeddent yn gallu rhoi gofal unigol, wedi'i dargedu.

Yn ogystal, roedd gwasanaethau arbenigol i gefnogi menywod sy’n dioddef o’r anhwylder deubegwn cyn beichiogi, yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni plant, yn brin ledled y DU, ac roedd galw gwirioneddol am hyn ar frys.

Wrth gynnal yr astudiaeth fwyaf o seicosis ôl-enedigol mewn menywod oedd eisoes wedi derbyn diagnosis o anhwylderau hwyliau, canfu'r tîm fod y risg ar gyfer menywod sy’n dioddef o’r anhwylder deubegwn math I, o ran datblygu seicosis ôl-enedigol, yn sylweddol uwch - un o bob pum genedigaeth o’i gymharu ag un o bob 1000 yn y boblogaeth gyffredinol - gyda symptomau'n digwydd yn gynharach yn y cyfnod ôl-enedigol o'i gymharu â menywod â mathau eraill o anhwylder deubegwn.

Canfu astudiaeth bellach fod lefel y risg i fenywod yn arbennig o uchel o ran seicosis ôl-enedigol yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl rhoi genedigaeth.

“Mae ein hymchwil wedi tynnu sylw at lawer o'r ffactorau sy'n gwneud menywod yn fwy tebygol o ddatblygu’r cyflwr difrifol hwn,” meddai'r Athro Jones.

“Mae’n dystiolaeth hollbwysig sy’n dangos pam bod angen y gefnogaeth yma mor ddybryd.”

Ffactorau cymhleth

Mewn astudiaethau ychwanegol, ymchwiliodd ymchwilwyr i gyfraniad hanes meddygol y cyfnod amenedigol (perinatal) blaenorol, o ran y risg o ddatblygu seicosis ôl-enedigol dilynol. Gwelsant fod risg o 43% y byddai menywod â math I o’r anhwylder deubegwn a brofodd seicosis ôl-enedigol yn sgîl eu beichiogrwydd cyntaf, yn dioddef o seicosis ôl-enedigol yn sgîl eu hail feichiogrwydd hefyd.

Roedd y risg i fenywod oedd yn dioddef o fathau eraill o’r anhwylder debegynol neu a brofodd gyfnodau llai difrifol o anhwylder hwyliau amenedigol, er enghraifft iselder heb seicosis, neu na aeth yn sâl yn dilyn beichiogrwydd blaenorol, yn llawer is o ran datblygu seicosis ôl-enedigol. Roedd lefel y risg ar gyfer menywod sy’n dioddef o anhwylder deubegwn II, er enghraifft, nad oedd wedi profi cyfnod o newid hwyliau yn ystod y cyfnod amenedigol blaenorol, yn isel iawn o ran datblygu seicosis ôl-enedigol (2%).

Canfu'r ymchwil hefyd fod cyfnodau hwy o anhwylderau ôl-enedigol, a bwlch hirach rhwng beichiogrwydd, yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddioddef o ail episôd o seicosis ôl-enedigol.

Mae'r gwaith hwn yn dechrau diwallu’r angen am ddata angenrheidiol er mwyn i fenywod a chlinigwyr fynd i’r afael â’r risg posibl o seicosis ôl-enedigol, ar lefel unigol, a'u helpu i wneud y penderfyniadau anodd y maent yn eu hwynebu am feichiogrwydd yn y dyfodol.

Mae nifer o astudiaethau pellach gan y tîm wedi tynnu sylw at effaith ffactorau genetig ar y tebygolrwydd o ddatblygu seicosis ôl-enedigol o ran menywod sy’n dioddef o anhwylder deubegwn, gan bwysleisio'r cysylltiad â hanes teuluol person.

Canllawiau clinigol newydd

Yn ddiweddarach, bu i’r canfyddiadau ymchwil hyn ddylanwadu ar Ganllawiau Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) 2014: ‘Antenatal and postnatal mental health: clinical management and service guidance’.

Roedd yr Athro Jones yn rhan o grŵp datblygu canllawiau NICE 2014, gan helpu i gyflwyno’r arferion gorau ar gyfer iechyd, iechyd y cyhoedd ac ymarferwyr gofal cymdeithasol yn y DU.

Yn ôl yr Athro Jones: “Nawr, mae'r canllaw yn argymell os bu i fenyw ddioddef o unrhyw salwch meddwl difrifol yn y gorffennol neu os ydyn nhw’n dioddef yn y presennol, yn enwedig o anhwylder deubegwn, neu os oes hanes yn y teulu agos o salwch meddwl amenedigol difrifol, dylai clinigwyr fod yn effro i sylwi ar unrhyw symptomau posibl o ran seicosis ôl-enedigol yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl genedigaeth.

“Mae'n golygu bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn canolbwyntio mwy ar yr angen i adnabod y symptomau a rhoi mesurau priodol ar waith i helpu menywod yn gyflym ac effeithiol.”

Gwasanaethau amenedigol arbenigol newydd yn Lloegr

Er mwyn sicrhau gwasanaethau cymorth gwell i famau, mae ymchwilwyr hefyd wedi gweithio'n agos gyda chlymblaid o 100 o sefydliadau elusennol iechyd meddwl mamau, gan gynnwys Bipolar UK, Family Action, MIND, NSPCC a'r Samariaid, o dan ymbarél Cynghrair Iechyd Meddwl Mamau (MMHA).

Dechreuodd y MMHA ymgyrch fawr o'r enw 'Busnes Pawb', a oedd yn canolbwyntio ar yr angen dybryd am dimau iechyd meddwl amenedigol arbenigol newydd ledled Lloegr. Dangosodd ymarfer mapio MMHA, yn 2015, fod llai na 25% o'r DU dan ofal tîm iechyd meddwl amenedigol arbenigol.

Mae'r Athro Jones yn un o ymddiriedolwyr y MMHA ac mae wedi gweithio i sicrhau bod yr ymgyrch yn adeiladu ar sail y dystiolaeth a ddarperir gan ganfyddiadau'r ymchwil.

Mewn ymateb i'r ymgyrch, yn 2016, cyhoeddodd GIG Lloegr £365m, swm digynsail, ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Amenedigol.

Mae hyn yn golygu bod mwy nag 80% o grwpiau Comisiynu Gofal yn Lloegr wedi gallu cynnig gwasanaethau sy’n cwrdd â chanllawiau NICE rhwng 2016-2021, gyda 30,000 o fenywod yn Lloegr yn gallu derbyn gofal amenedigol iechyd meddwl arbenigol nad oedd ar gael o'r blaen.

Hyfforddiant arbenigol

Mae ymchwil y brifysgol wedi bod yn rhan annatod o arfogi gweithwyr proffesiynol gyda'r offer i gefnogi cleifion.

Mae cannoedd o seiciatryddion wedi derbyn hyfforddiant gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, yn seiliedig ar ymchwil prifysgolion, gan ganolbwyntio'n benodol ar wneud asesiadau risg unigol ar gyfer menywod sy’n dioddef o anhwylder deubegwn o ran datblygu seicosis ôl-enedigol.

Mae Action on Postpartum Psychosis hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r tîm ymchwil i ddatblygu pecyn hyfforddi ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ers mis Awst 2017, mae 20 o gyrsiau hyfforddi'r gweithlu wedi cael eu cyflwyno i 370 o weithwyr proffesiynol yn y DU, gan gynnwys seiciatryddion, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu, obstetregwyr, timau iechyd meddwl, seicolegwyr, parafeddygon, fferyllwyr a gweithwyr cymdeithasol.

Dywed Yr Athro Jones: “Mae'n bwysig cael ymchwil gadarn er mwyn deall yr heriau o ran gwneud diagnosis o'r cyflwr hwn – ond mae hefyd yn bwysig sicrhau bod y dystiolaeth hon yn cael ei chyfathrebu'n effeithiol i glinigwyr – o’u hyfforddiant cychwynnol i bob cam dilynol o'u gyrfaoedd.”

Codi ymwybyddiaeth

Mae ymchwilwyr hefyd wedi gweithio gyda sgriptwyr ar gyfer opera sebon y BBC, Eastenders ar stori sy'n cwmpasu seicosis ôl-enedigol. Gwyliwyd un bennod gan 7 miliwn o wylwyr gan arwain at gynnydd o 400% mewn menywod yn cysylltu ag Action on Postpartum Psychosis (APP).

Dywed Sally, sy'n defnyddio ei phrofiad o'r cyflwr i gefnogi eraill, trwy ei gwaith ar gyfer APP, ei bod hi'n aml yn siarad â menywod sydd eisiau deall y rhesymau pam iddyn nhw ddatblygu'r cyflwr.

Roedd rhoi genedigaeth, yn fy achos i’n drawmatig a hir ond cyn hynny roeddwn i'n iach. Doedd gen i ddim hanes mawr o anhwylderau seiciatrig ac roeddwn i'n iach drwy gydol fy meichiogrwydd. Yn yr un ffordd â roeddwn i’n holi cwestiynau pan roeddwn i’n mynd drwy hyn fy hun, mae pobl yn gofyn cwestiynau i mi nawr yn fy rôl bresennol, fel, 'ai oherwydd genedigaeth drawmatig oedd e?' neu 'oedd 'na rywbeth yn fy ngorffennol wnaeth arwain ata' i fynd sâl?'”

Mae'r Athro Jones yn cytuno ei fod wedi wynebu cwestiynau tebyg yn ei glinigau. Ond ychwanega: “Dyma salwch sy'n effeithio ar fenywod o bob cefndir. Mae'n gyffredin i bobl sydd wedi dioddef o’r cyflwr ofnadwy hwn geisio dod o hyd i resymau dros yr hyn wnaeth ei achosi.

“Ond fel arfer does dim achosion y gall pobl eu canfod. Nid rhywbeth sydd wedi digwydd yn ystod plentyndod sy’n ei achosi, nid rhywbeth maen nhw neu eu partneriaid wedi'i wneud, dim dewisiadau anghywir.

“Gallaf ddeall pam fod y rhain yn gwestiynau sy'n codi a dyna pam mae sylfaen ein tystiolaeth a'n hymdrechion i godi ymwybyddiaeth mor hanfodol.”

Ychwanega Sally: Roedd gen i gefnogaeth fy nghyfoedion, roedd gallu siarad â menywod a oedd wedi bod drwy’r profiad o’r blaen yn cynnig gobaith y byddwn yn gwella. Gallwn weld menywod eraill yn dod drwyddi ac mae hynny’n gwneud i chi deimlo'n llai ynysig am wn i. Roedd hynny’n cynnig cymorth a oedd yn rhan fawr o'm hadferiad.

Mae'r Athro Jones yn cytuno: “Mae mor bwysig cael cymorth menywod gyda phrofiadau byw o ran gosod yr agenda a'n harwain wrth osod cwestiynau ymchwil. Rydym hefyd angen cymorth rhagor o fenywod sydd wedi profi seicosis ôl-enedigol. Heb eu help nhw fydden ni ddim yn gallu gwneud y gwaith pwysig hwn.”

Sally a'i ffrind Ruth, a gyflawnodd y Big Welsh Swim 2017 i godi arian ar gyfer APP.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau pwysig

Cyhoeddiadau

Partneriaid