Ewch i’r prif gynnwys

Gan weithio gyda Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, bu’r Athro Rob Honey a Dr Sabrina Cohen-Hatton o’n Hysgol Seicoleg yn astudio penderfyniadau y mae diffoddwyr tân yn eu gwneud ar eu pennau eu hunain, ac mewn grŵp mewn sefyllfaoedd brys.

Fe wnaeth eu hymchwil gynnig dealltwriaeth unigryw a arweiniodd at newidiadau cenedlaethol mewn canllawiau, polisi, hyfforddiant a gwerthuso.

Deall sut y gwneir penderfyniadau

Mae swyddogion digwyddiadau gyda’r gwasanaeth tân ac achub yn gweithio o dan bwysau aruthrol i gydlynu’r hyn sy’n digwydd yn y fan a’r lle mewn achosion brys.

Mae’r rhan fwyaf o anafiadau y mae diffoddwyr tân yn eu cael yn digwydd o ganlyniad i wallau dynol, yn ôl fframwaith iechyd, diogelwch a lles awdurdodau tân ac achub 2013 yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gyfer yr amgylchedd gweithredol.

Er mwyn deall sut y mae swyddogion digwyddiadau yn gwneud penderfyniadau, fe wnaethom osod camerâu ar eu helmedau pan oeddent yn mynd allan – y tro cyntaf i hyn gael ei wneud yn unrhyw le yn y byd. Roeddem yn gallu gweld diffoddwyr tân a swyddogion digwyddiadau mewn amser real.

Drwy’r profiad hwn ar lawr gwlad, canfuom fod diffoddwyr tân yn dibynnu ar eu greddf a’u profiad o sefyllfaoedd tebyg wrth ymateb i ddigwyddiadau gweithredol. Nid oedd hynny’n adlewyrchu’r model penderfynu cenedlaethol sefydledig a ddefnyddiwyd ar gyfer swyddogion digwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig.

Profi rheolaethau penderfynu

Gan ddefnyddio data a gasglwyd o’r camerâu helmed, datblygwyd techneg newydd gennym: y broses rheoli penderfyniadau.

Mae ‘rheolaethau penderfynu’ yn rhestr wirio feddyliol gyflym o nodau, canlyniadau a ragwelir, a risgiau yn erbyn buddion. Mae’r rhestr wirio yn galluogi swyddogion digwyddiadau i gydbwyso eu gwybodaeth flaenorol â gwerthusiad o’r digwyddiad presennol.

Ar ôl hyfforddi diffoddwyr tân ar ein proses rheoli penderfyniadau, cynhaliwyd arbrofion i weld sut y mae’r rhai a hyfforddwyd mewn rheolaethau penderfyniadau yn cymharu â’r rhai sy’n defnyddio’r dull mwy traddodiadol.

Er mwyn gwneud hynny’n iawn, fe wnaethom efelychu digwyddiadau – creu tân mewn tŷ gan ddefnyddio rhith-realiti trochi, llosgi adeiladau oedd yn mynd i gael eu dymchwel, ac ail-greu meysydd tân yng Ngholeg y Gwasanaeth Tân yn Moreton-in-Marsh.

Cadarnhaodd yr ymchwil hon fod swyddogion digwyddiadau a oedd yn cael hyfforddiant traddodiadol yn dueddol o wneud penderfyniadau greddfol.

Fodd bynnag, pan oedd swyddogion yn cymhwyso ein hyfforddiant rheoli penderfyniadau, roedd ganddynt well ymwybyddiaeth sefyllfaol, yn dibynnu llai ar wneud penderfyniadau greddfol, yn cynllunio’n fwy penodol, ac yn fwy tueddol o rannu eu hamcanion gyda’u cydweithwyr.

Yn ôl yr Athro Honey: “Mae’r ymchwil arloesol hon wedi arwain at wneud newidiadau mawr yn y ffordd y mae swyddogion yn delio â digwyddiadau brys mawr.

“Dangosodd y canfyddiadau fod cyfnod cymharol fyr o hyfforddiant yn seiliedig ar amcanion wedi cael effaith fawr ar natur y broses o wneud penderfyniadau.”

Trawsnewid canllawiau a hyfforddiant cenedlaethol

Fe wnaeth ein canfyddiadau drawsnewid y Canllawiau Gweithredol Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Digwyddiadau, sy’n sail i ymateb a hyfforddiant personél ar y rheng flaen ar draws gwasanaethau tân ac achub y DU. Mae’r canllawiau’n cynnwys disgrifiad manwl a gynlluniwyd i gefnogi mabwysiadu ein proses rheoli penderfyniadau yn ystod digwyddiadau brys.

Un o ganlyniadau ychwanegol ein hymchwil yw bod defnyddio camerâu fideo ar helmed bellach yn cael ei argymell fel ffordd o gefnogi hyfforddiant a datblygiad ar draws gwasanaethau tân ac achub y DU.

Gan adeiladu ar y newidiadau i’r Canllawiau Gweithredol Cenedlaethol, mae ein hymchwil hefyd wedi dylanwadu ar werthusiad ffurfiol o sgiliau rheoli digwyddiadau.

Gwnaethom ddatblygu a gweithredu’r system gyntaf a gymeradwywyd yn genedlaethol i werthuso sgiliau rheoli, gan gynnwys gwneud penderfyniadau greddfol a dadansoddol: Y system Sgiliau Rheoli Digwyddiadau (THINCS).

Cafodd THINCS ei gyflwyno ar draws gwasanaethau tân ac achub y DU yn 2019, gyda chanllawiau, pecynnau hyfforddi ac ap ar gyfer dyfeisiau tabled i’w defnyddio mewn hyfforddiant neu mewn digwyddiadau gweithredol. Cafodd THINCS hefyd ei argymell yn rhifyn 2019 o’r Canllawiau Gweithredol Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Digwyddiadau.

Rhoddwyd trwyddedau THINCS hefyd i Goleg y Gwasanaeth Tân, sefydliad hyfforddi masnachol ar gyfer personél y gwasanaethau brys o’r DU a ledled y byd.

A firefighter carries a hose during a training exercise.
Diffoddwr tân yn cario pibell yn ystod tasg hyfforddi.
alt text
Dr Sabrina Cohen-Hatton a’r Athro Rob Honey yn trafod eu hymchwil i wneud penderfyniadau yn ystod digwyddiadau.

Gwneud penderfyniadau grŵp mewn argyfyngau ar raddfa fawr a chymhleth

Os oes angen adnoddau cyfunol gan nifer o wasanaethau brys ar raddfa fawr ar unrhyw argyfwng fe'i gelwir yn “ddigwyddiad cymhleth a mawr”. Yn aml, mae digwyddiadau mawr yn effeithio ar lawer o bobl ar unwaith, fel trychinebau naturiol.

Mae’r ymateb i ddigwyddiadau mawr yn y DU yn cael ei reoli gan grwpiau cydlynu strategol. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys uwch gynrychiolwyr gwasanaethau brys lleol, llywodraeth leol, elusennau, byrddau iechyd, a llywodraeth y DU.

Gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd gennym o sut mae swyddogion unigol yn gwneud penderfyniadau, roeddem am ddeall sut mae’r grwpiau cydgysylltu strategol hyn yn gweithio gyda’i gilydd mewn sefyllfaoedd pwysedd uchel.

Er mwyn asesu hyn, fe wnaethom ddadansoddi lluniau o’u hymatebion i ddigwyddiadau mawr efelychiadol mewn ymarferion hyfforddi ledled Cymru yn 2015 a 2016, yn ogystal ag ymarfer ar raddfa fawr yn Llundain a ariannwyd gan yr UE (€1.8M) ac a arweiniwyd gan Frigâd Dân Llundain.

Mae ystyried gwahanol opsiynau a chynlluniau wrth gefn yn rhan allweddol o’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol.

Daeth ein hymchwil i’r casgliad nad oedd grwpiau yn defnyddio’r dull hwn rhyw lawer, a bod rhagfarn, yn groes i ganllawiau cenedlaethol, yn bodoli yn y prosesau gwneud penderfyniadau ar draws grwpiau a oedd yn wynebu’r un digwyddiadau efelychiadol. Fe wnaethom recordio asesiadau o’r hyn sydd ar y gorwel neu nodi camau gweithredu amgen.

O ganlyniad i’n hymchwil, mae ein proses rheoli penderfyniadau bellach wedi’i hymgorffori yn Rhaglen Rhyngweithredu’r Cydwasanaethau Brys (JESIP), a ddefnyddir gan yr holl wasanaethau brys i ddelio â digwyddiadau cymhleth a mawr.

Mae JESIP yn cael ei oruchwylio a’i gefnogi gan Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, a Swyddfa’r Cabinet. Mae’n cael cefnogaeth lawn Cymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlansys, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a Chymdeithas y Prif Swyddogion Tân.

Cafodd ein rheolaethau penderfynu eu cynnwys yn ail argraffiad Athrawiaeth ar y Cyd JESIP: Fframwaith Rhyngweithredu ym mis Gorffennaf 2016, ac mae hefyd wedi’i ychwanegu at yr Aide Memoire diwygiedig ar gyfer Swyddogion.

Drwy JESIP, mae ein proses rheoli penderfyniadau wedi’i mabwysiadu’n ehangach ar draws gwasanaethau brys y DU, gan gynnwys:

  • bod Fframwaith Paratoi, Cydnerthedd ac Ymateb Brys GIG Lloegr yn argymell bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn defnyddio model penderfynu ar y cyd JESIP i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau dan bwysau mawr
  • crynodebau o’n hymchwil sydd wedi llywio cwrs hyfforddi Aur III Cymru ar gyfer yr holl asiantaethau sy’n ymateb i argyfwng mewn Grwpiau Cydgysylltu Strategol.

Mae defnyddio ein proses rheoli penderfyniadau yn newid sut mae gwasanaethau tân ac achub unigol, a grwpiau penderfynu brys ehangach ledled y Deyrnas Unedig, yn ymateb i sefyllfaoedd brys, drwy eu cefnogi i wneud penderfyniadau mwy effeithiol pan fydd bywydau yn y fantol.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau pwysig