Ewch i’r prif gynnwys

Bythefnos cyn i COVID-19 roi Ffrainc dan gyfnod clo, roedd arddangosfa fawr yn cael ei lansio ym Mharis, ac roedd yn derbyn cryn ganmoliaeth gan feirniad.

Pwnc yr arddangosfa oedd Yr Ecsodus o Baris. Prin iawn oedd sylw a roddwyd i’r cyfnod hwn yn hanes yr Ail Ryfel Byd, cyn hyn. Mae ymchwil yr Athro Hanna Diamond wedi helpu i newid hynny.

Ym mis Mehefin 1940, bu i ddwy filiwn o ddynion, menywod a phlant, ofnus, ffoi o Baris dros ychydig ddyddiau, wedi i'r gair fynd ar led bod yr Almaenwyr yn agosáu at brifddinas Ffrainc. Fe ymunon nhw â chwe miliwn o ffoaduriaid eraill oedd ar ffo. Ni welwyd y fath niferoedd o bobl yn gadael i dde a gorllewin y wlad, erioed o’r blaen.

Ond er y byddai’r digwyddiad wedi’i serio yn atgofion y rhai a'i profodd, fe’i claddwyd yn ymwybyddiaeth Ffrainc; bu i’r Almaen feddiannu’r wlad gan ddileu’r hyn a ddigwyddodd o’r cyfryngau ac o’r llyfrau hanes.

“Mae'n anodd dychmygu'r hyn y bu i bobl Paris ei brofi yn ystod y cyfnod hwnnw,” meddai'r Athro Diamond. “Fe wnaeth pobl gasglu unrhyw beth y gallent, a gadael. Os nad oedd ganddynt geir, cerdded oedd yr unig ddewis, heb wybod ble y byddent yn ei gyrraedd yn y pen draw.

“Penderfynodd rhieni ofnus roi eu plant blinedig i deithwyr mewn cerbydau a oedd yn pasio, gan gredu y byddent yn gallu eu cwrdd drachefn yn y dref nesaf. Ond yn yr anhrefn a ddilynodd, cafodd 90,000 o blant eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Cymerodd fisoedd i ddod â phawb yn ôl at ei gilydd.

“Doedd y Ffrancwyr ddim am ymchwilio i'r cyfnod anodd hwn - cyfnod oedd yn dynodi cwymp llwyr cymdeithas. Ond roedd effaith y digwyddiad hwn ar unigolion yn enfawr. Roedd y trawma hwnnw'n eu gwneud yn fwy parod i dderbyn y gyfundrefn Vichy gyda'r gobaith y gallent ddychwelyd i ryw normalrwydd. Dyma eiliad dyngedfennol.

“Wyth deg mlynedd yn ddiweddarach, roeddwn i'n teimlo'n hynod freintiedig o gael helpu i rannu a chyfleu'r straeon unigol hynny.”

Roedd yr arddangosfa yn Amgueddfa Adennill Rhyddid i Baris – Amgueddfa’r Cadfridog Leclerc – Amgueddfa Jean Moulin, oedd yn edrych yn benodol ar brofiadau unigolion oedd wedi byw drwy’r digwyddiad, yn un o uchafbwyntiau ymchwil helaeth yr Athro Diamond i'r Ail Ryfel Byd.

Deall y gorffennol mewn ffyrdd newydd

Cwblhaodd yr Athro Diamond ei hastudiaethau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Sussex. O'r fan honno, enillodd ysgoloriaeth ESRC-CNRS, y mae cryn gystadlu amdani, i ymgymryd â'i hymchwil DPhil yn Ffrainc. Ym 1992, dyfarnwyd DPhil Hanes iddi ar “Fenywod a'r Ail Ryfel Byd yn rhanbarth Toulouse”.

Wedi sawl blwyddyn yn gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch ym Mharis (Uniandité de Paris III: La Sorbonne Nouvelle, Ecole Normale Supérieure de Fontenay-aux-Roses, Université de Paris X: Nanterre), fe'i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerfaddon ym 1993. Derbyniodd Gadair ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi 2014.

“Mae'r ffordd mae hanes yn cael ei astudio wedi newid gryn dipyn ers i mi ddechrau arni,” meddai. “Rhywbeth oedd yn ymwneud â ffeithiau a dyddiadau oedd hanes i lawer yr adeg honno. Ond mae wedi symud oddi wrth ffeithiau, at bobl, a threiddio’n ddyfnach i’w hanesion.

“Roeddwn i'n astudio fel roedd y newidiadau hynny’n dechrau dod i’r amlwg - pan oedd academyddion yn dechrau canolbwyntio ar brofiad unigol fel ffordd o ddeall yr adegau mawr mewn hanes. Pan fyddwch chi'n astudio atgofion pobl o ddigwyddiadau – dydyn nhw ddim, bob amser yn canolbwyntio ar y ffeithiau ac maen nhw’n cam-anghofio pethau. Ond dyna yw eu gwirionedd eu hunain o'u bywydau, o hyd.”

Mae Ffrainc a hanes yn ddau bwnc sydd wedi bod o ddiddordeb i'r Athro Diamond ers iddi fod yn blentyn.

“Cefais fy magu yn Llundain, ac roedd fy mam yn tynnu sylw at dirnodau yn aml, gan ddangos sut roedd hanes o'n cwmpas ym mhobman. Mae hanes wedi bod yn rhan o fy mywyd ers erioed.

“Roedd fy rhieni yn Ffrainc-garwyr ac fe wnes innau ddod i garu Ffrainc hefyd. Cefais fy mhrofiad cyntaf o fynd ar gyfnewidfa i Ffrainc yn 14 oed. Treuliais amser yn Toulouse yn fyfyriwr Erasmus, lle byddwn i, yn ddiweddarach yn ymgymryd â’m hymchwil DPhil. Dw i wedi dysgu Ffrangeg ar hyd y daith. Rwy'n caru'r diwylliant ac yn teimlo cysylltiad cryf â'r bobl yno. Mae ffrindiau Ffrengig wedi dweud mai fi yw'r person Prydeinig mwyaf Ffrengig y maen nhw'n ei adnabod.”

Roedd ymchwil ôl-raddedig yr Athro Diamond a oedd yn canolbwyntio ar Toulouse yn cynnwys cynnal cyfweliadau â menywod a oedd wedi byw drwy'r Ail Ryfel Byd, yn ogystal ag archwilio archifau lleol a chenedlaethol.

“Roedd haneswyr wedi tybio bod dynion a menywod wedi profi'r Ail Ryfel Byd yn yr un ffordd – ond dyw hynny ddim yn wir, ac roeddwn i eisiau dangos sut roedd hynny'n dod i’r amlwg ym mywydau pob dydd pobl,” meddai.

“Er mwyn gwneud hyn, roeddwn i'n teimlo y byddai’n llawer gwell pe bawn yn gwneud yr ymchwil ar ffurf astudiaeth leol, lle gallwn fynd i fanylder a thrwytho fy hunan yn y wybodaeth. Bûm yn byw yn Toulouse am ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe ddes i deimlo’n rhan o'r gymuned a'r ffordd o fyw yno.

“Mae ymdrin â hanes llafar a deall sut mae pobl yn siarad am eu bywydau wastad wedi bod yn ddiddorol i mi. Ar gyfer y math hwn o ymchwil, mae'n rhaid i chi fod yn gyfathrebwr da, gan fod â’r gallu i wneud i bobl deimlo’n gartrefol.

“Pan oeddwn i'n fyfyriwr byddai pobl yn tynnu fy nghoes gan ddweud, ‘Mae Hanna wrth ei bodd yn siarad â neiniau a theidiau pobl’. Roedd gen i ddiddordeb brwd ym mhrofiadau'r cenedlaethau hŷn a'r hyn yr oeddent wedi byw drwyddo, a byddwn yn canfod fy hun yn dechrau sgyrsiau â hwy o hyd.”

Yn ddiweddarach, yn academydd sefydledig, ehangodd yr Athro Diamond ar ei hymchwil gyda'i llyfr llwyddiannus, Fleeing Hitler. Roedd y gyfrol yn manylu ar brofiadau pobl Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae 10,000 o gopïau wedi’u gwerthu.

Bu i’r wefan ategol ganiatáu i'r Athro Diamond gofnodi hyd yn oed rhagor o straeon a chynnal dadansoddiadau pellach o'r cyfnod hwnnw.

“Bu i bobl oedd wedi darllen fy nghyfrol ysgrifennu ataf gan ddweud, ‘Mae gen i stori deuluol, oes gennych chi ddiddordeb ynddi?’ Roedd myrdd a myrdd o straeon yn dod i’r fei o ganlyniad i'r gyfrol. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud â'r holl straeon teuluol hyn. Dyna pam y dechreuais y wefan. Ar ôl dal gafael ar y profiadau trawmatig hyn gyhyd, roedd yn amlwg bod pobl yn teimlo bod angen i'w straeon gael eu cofnodi a'u cydnabod.”

Safbwyntiau ffres ar gyfer ymwelwyr ag amgueddfeydd

Ym mis Mai 2015, penodwyd yr Athro Diamond i'r Conseil Scientifique o'r Musée de la Libération de Paris.

Bu’n gweithio gyda phrif guradur a chyfarwyddwr yr amgueddfa Sylvie Zaidman, gan fod yn gynghorydd arbenigol ynghylch ail-lunio arddangosfa barhaol yr amgueddfa, prosiect a ddaeth â thair amgueddfa ar wahân at ei gilydd i un safle newydd uwchben hen gadarnle cadlywyddion ar Place Denfert Rochereau.

Yn dilyn argymhelliad yr Athro Diamond, mae gan Amgueddfa Adennill Rhyddid i Baris – Amgueddfa General Leclerc – Amgueddfa Jean Moulin, sydd newydd gael ei sefydlu, ystafell bwrpasol i goffáu profiadau’r bobl o oresgyniad trawmatig mis Mai-Mehefin 1940, gan gynnwys ecsodus torfol tri chwarter poblogaeth Paris.

Cadarnhaodd Sylvia Zaidman, “Arweiniodd cyfraniad yr Athro Diamond ni i roi mwy o amlygrwydd i'r Ecsodus. Prin yw’r sylw a roddwyd i’r Ecsodus, tra bo’r Meddiannu, Cydweithio a Gwrthsefyll yn cael llawer ohono.”

Dywed Yr Athro Diamond: “Rwyf bob amser wedi mwynhau gweithio ar y cyd ag eraill. Rwy'n ffodus fy mod wedi gallu dod yn rhan o gymuned gref o bobl ym Mharis sydd yn rhannu’r un diddordebau ymchwil â mi. Rwyf wrth fy modd yn cynnwys pobl sydd â gwahanol arbenigedd, yn fy ngwaith; mae’n creu cyfleoedd i archwilio ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phethau.”

Arweiniodd y gwaith hwn yn ddiweddarach at benderfyniad yr amgueddfa i dalu sylw yn ei harddangosfa dros dro gyntaf i ‘1940: Pobl Paris yn yr Ecsodus’, a guradai Diamond a Zaidman, ac a lansion nhw ym mis Chwefror 2020.

Getty pic Paris Exodus permission to use for three years
Effeithiodd Yr Ecsodus o Baris ar filiynau o bobl ond prin fu’r sylw a roddwyd i’r cyfnod hwn mewn hanes, yn y naratif swyddogol.

Canfod cynulleidfaoedd newydd ar ôl COVID-19

“Roedd yn siom aruthrol pan gaeodd yr arddangosfa 10 diwrnod yn ddiweddarach oherwydd COVID-19,” meddai'r Athro Diamond. “Roedd yn anodd iawn oherwydd roedden ni wedi rhoi cymaint o waith i mewn iddi. Ond wrth edrych yn ôl, rydw i nawr yn teimlo'n lwcus ein bod wedi gallu ei hagor o gwbl.

“Ychydig cyn y cyfnod clo, wrth i'r pryder am COVID-19 gynyddu, gadawodd llawer o bobl Paris gan efelychu rhai o'r golygfeydd o’r Ecsodus a welwyd yn 1940. Roedd yn sicr yn peri i’r arddangosfa fod yn amserol – a sylwodd y cyfryngau ar y tebygrwydd hynny.”

Serch hynny, mae'r arddangosfa'n parhau i gael effaith, gyda ffilm yn cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n caniatáu i wylwyr ailymweld â’i huchafbwyntiau.

“Dywedodd nifer o bobl o Ffrainc, y bu’n bosib iddynt ymweld â’r amgueddfa, fod yr arddangosfa wedi wirioneddol daro tant gyda nhw,” meddai'r Athro Diamond.

“Roeddwn i'n rhyw amau bod y profiadau hyn wedi cael eu hadrodd mewn pytiau, gan fodoli yn y cefndir ar ffurf atgofion teuluoedd unigol oedd wedi'u trosglwyddo drwy’r cenedlaethau. Dim ond tynnu'r straeon hynny at ei gilydd gan ddweud, ‘dyma ran o hanes Ffrainc sydd wedi cael ei hanwybyddu' wnaethon ni’.”

“Mae pobl sy'n arbenigo mewn trawma yn dweud bod peidio siarad am ddigwyddiad yn ymateb cyffredin, pan nad yw’r digwyddiad hwnnw ar gofnod hanesyddol - ac eto roedd yn ddigwyddiad enfawr a effeithiodd ar filiynau o bobl.”

alt text
Derbyniodd yr Athro Diamond gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i wneud ffilm am yr arddangosfa. Y gobaith yw y bydd cynulleidfa eang yn gallu gweld y ffilm.

Beth nesaf

Mae gwaith yr Athro Diamond yn parhau, gyda llyfr newydd am y diddanwr rhyfel Josephine Baker ar y gweill. Mae hi hefyd wedi dal sawl rôl ymgynghori gyda chwmnïau cynhyrchu teledu sydd wedi ymweld â'r cyfnod hwn – o gynorthwyo gyda sgriptio ar gyfer cartŵn plant Curious George i ymddangos mewn rhaglen ddogfen o'r enw Witness to War ar gyfer Discovery Channel.

“Mae gan bobl wir ddiddordeb mewn archwilio'r amser anhygoel hwn mewn hanes,” meddai. “Wrth i'r genhedlaeth hŷn fu’n byw drwy’r profiad, ein gadael, rwy'n teimlo cyfrifoldeb mawr i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau nad yw'r digwyddiadau hyn yn cael eu hanghofio.”

Pobl

Yr Athro Hanna Diamond

Yr Athro Hanna Diamond

Professor of French History

Email
diamondh@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9591

Newyddion cysylltiedig

Lansio Amgueddfa Newydd yr Ail Ryfel Byd ym Mharis

Dylanwadodd ymchwil yr Athro Diamond ar sut y cafodd stori Ffrainc yn ystod y rhyfel, ei hadrodd i ymwelwyr.

Museum of the Liberation of Paris – General Leclerc Museum – Jean Moulin Museum

Arddangosfa ar Yr Ecsodus o Baris yn agor ac yn derbyn canmoliaeth y beirniaid

Roedd straeon personol y foment arwyddocaol hon yn hanes Ffrainc yn ganolog i arddangosfa gyntaf yr amgueddfa.

Josephine Baker (Credit: Studio Harcourt, Public domain, via Wikimedia Commons)

Datguddio hanes cudd Josephine Baker yn ystod y rhyfel

Enillodd yr Athro Diamond gymrodoriaeth ymchwil Leverhulme i ysgrifennu llyfr newydd ar brofiadau'r diddanwr yn ystod y rhyfel.

Cyhoeddiadau

Rhagor o wybodaeth

Gwaith ymgynghori, sylw yn y cyfryngau ac erthyglau

2021

Erthygl ar stori y seren Josephine Baker - stori sydd heb ei hadrodd.

Adolygiad o ffilm Chabrol ‘Une affaire de femmes

2020

Geiriau newyddiadurwr y Guardian Jon Henley ynghylch arddangosfa Ecsodus o Baris.

Sgwrs ar-lein ar gyfer Llysgenhadaeth Ffrainc a'r sefydliad Français i nodi 80fed pen-blwydd apêl De Gaulle.

2017

Gwaith ymgynghori ar gyfer Wall to Wall ar gyfres BBC2 Secret Agent Selection: WW2 a ddarlledwyd yn haf 2018.

Ymgynghori a chyfweliadau ar y sgrîn ar gyfer rhaglen ddogfen Like a Shot ar gyfer Discovery Channel, ‘Witness to War’.

2016

Rôl yn ymgynghori’r Cyfarwyddydd Ema Ryan Zamazaki a chyfweliad ar y sgrin ar gyfer ei rhaglen ddogfen ‘Monkey business: The Adventures of Curious George's Creators

2015

Erthygl wedi'i chomisiynu ar gyfer lansio The Conversation.fr o’r Adennill Rhyddid i Ffrainc

Ymgynghori a chyfweliad ar BBC1/Wall to Wall Productions ‘Who Do You Think You Are’ gyda Jane Seymour a ddarlledwyd ym mis Awst 2015 (Amcangyfrifir bod y ffigurau gwylio dros 4 miliwn)

Cyfweliad byw ar newyddion 8pm sianel France 24 English 8pm ar y Gwrthsafwyr yn cael eu rhoi i orffwys yn adeilad y Pantheon

Ymgynghori a chyfweliad ar BBCR4 Last Word am ymladdwr ymwrthedd Gwlad Belg Lady Villiers

Photo credits

LAPI/Roger-Viollet

Amgueddfa Adennill Rhyddid i Baris - Amgueddfa’r Cadfridog Leclerc - Amgueddfa Jean Moulin

Getty

Partneriaid