Ewch i’r prif gynnwys

Roedd edrych i lawr ar helynt ciwio mewn ysbyty ym Mwmbai yng nghanol yr 1990au yn ddigon i ddechrau un mathemategydd o Brifysgol Caerdydd ar daith unigryw.

Heb system giwio neu drefn effeithiol, nag unrhyw ddata i lywio'r penderfyniadau, roedd cleifion oedd angen gofal iechyd brys yn gorfod aros mewn poen, gan arwain at y gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn teimlo'n rhwystredig ac yn gweithio gormod.

Ychydig a wyddai’r Athro Paul Harper y byddai’r profiad hwn yn ei arwain ef a’i dîm ymchwil ar genhadaeth i gymhwyso modelu mathemategol i helpu i drwsio a gwella gwasanaethau hanfodol y GIG yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r DU.

“Mynd i Mwmbai yn ystod haf 1996 ar gyfer fy mhrosiect MSc oedd y tro cyntaf i mi sylweddoli ar botensial modelu mathemategol o ran darparu gwell gwasanaethau iechyd,” meddai'r Athro Harper.

“Pan fyddwch chi'n dod allan o ystafell ddosbarth am y tro cyntaf ac yn dechrau yn y bywyd go iawn, yn fy achos i, i helpu i gefnogi'r ymateb i'r argyfwng HIV, ry'ch chi'n gweld sut gallwch chi gymhwyso'ch gwybodaeth academaidd a rhoi newid ar waith.”

25 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r Athro Harper a'i dîm wedi gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau gwella gofal iechyd, gan gynnwys trawsnewid gwasanaethau canser yng Nghymru, gwella effeithiolrwydd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain, a helpu i ddylunio gwasanaeth 111 GIG Cymru.

Gwella deilliannau canser

Fel daeth i'r amlwg o'r profiad ym Mwmbai, mae angen rhagweld y galw'n gywir ar ofal iechyd brys er mwyn sicrhau bod adnoddau meddygol yn cael eu defnyddio'n effeithiol, a bod cleifion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth cywir.

Yn nes at adref, gyda dyfodiad datganoli, roedd llunwyr polisïau yng Nghymru yn gwybod fod problem fawr o ran deilliannau goroesi canser. Yn draddodiadol, roedd y cyfraddau goroesi canser pum mlynedd yng Nghymru'n wael iawn o gymharu â gwledydd datblygedig eraill.

Hanfod y broblem oedd creu dwy lwybr diagnosis a thrin sefydledig ar gyfer canser.

Pan roedd meddyg teulu claf yn gweld symptomau amlwg o ganser, roedd y claf yn dechrau ar y llwybr 'brys' ar unwaith, ac roedd angen i driniaeth ddechrau o fewn 62 diwrnod. Pan roedd symptomau'n bresennol a allai fod yn arwydd o ganser neu gyflwr arall, roedd cleifion yn dechrau ar y llwybr 'nad oedd yn frys'. Roedd hyn yn golygu bod terfyn amser triniaeth yn cael ei osod pan roedd y canser wedi'i gadarnhau drwy brofion diagnostig.

Roedd hyn yn cymhlethu'r ystadegau canser, ac yn cofnodi'r amser aros i gleifion ar y llwybr nad oedd yn frys yn anghywir. Gallent fod yn aros am fisoedd nes cael cadarnhad o ganser a therfyn amser ar gyfer triniaeth.

Fodd bynnag, er bod rheolwyr y GIG yn ymwybodol o'r broblem, nid oedd ganddynt syniad o ran ei datrys. Felly, gwnaethant geisio cyngor yr Athro Harper a'i dîm.

“Dwi'n cofio'r dull yn eithaf clir. Roedd hi'n fis Rhagfyr, a chefais alwad gan Rwydwaith Canser Cymru i gwrdd yn y Brifysgol,” cofia'r Athro Harper. “Ro'n ni eisoes wedi bod yn gweithio ar ganser, ac roedd yr ymchwil yr oeddem wedi'i gwneud yn dangos y gallai modelu llwybrau cleifion helpu i ddatrys oedi sylweddol mewn darpariaeth gofal.”

Ar ôl y cyfarfod, dechreuodd y tîm ar daith i bennu pa lefel o adnoddau fyddai ei hangen i weithredu Un Llwybr Canser (SCP) yng Nghymru.

'Powlen o sbageti'

Ym marn yr Athro Harper, roedd y system bresennol fel “powlen o sbageti” gyda chleifion yn dod i mewn ar lwybrau amrywiol gyda phrofion diagnostig amrywiol, ac nid o reidrwydd yn cael y diagnosteg oedd ei angen yn y drefn fwyaf effeithlon er mwyn osgoi oedi. Y datrysiad i ddatgloi'r sbageti a sicrhau bod cleifion yn cael y cadarnhad cyflymaf posibl o ganser oedd lleihau nifer y llwybrau amrywiol, a phennu'r adnoddau gofynnol oedd eu hangen.

Dyma lle bu ymchwil ac arbenigedd yr Athro Harper yn hanfodol. Roedd ei grŵp yn gallu modelu’r adnoddau oedd eu hangen i fodloni'r amseroedd aros SCP targed arfaethedig ac i bennu’r llwybrau diagnostig gorau posibl.

I ddechrau, roedd hyn yn cynnwys dadansoddi mwy na 6,000 o atgyfeiriadau canser, ar draws 10 math gwahanol o ganser, ar gyfer 30 categori diffiniedig o brofion diagnostig. Nododd yr adroddiad fod angen cynnydd o 20% mewn adnoddau diagnosteg i fodloni terfynau amser triniaeth arfaethedig, ac y byddai cyflwyno “canolfannau diagnosteg cyflym” yn helpu i fwrw targedau'r prosiect.

Defnyddiwyd y canfyddiadau i roi cyngor i Vaughan Gething, oedd yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar y pryd, wnaeth ryddhau £3m o gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer darparu'r gefnogaeth weithredol a diagnosteg oedd ei hangen i drosglwyddo i Un Llwybr Canser yn unol â modelu'r Athro Harper.

“O ganlyniad i’n cyfraniad ymchwil, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno un amser aros targed ar gyfer cleifion canser. Newidiodd yr SCP y llwybr diagnosis a thriniaeth ar gyfer tua 60% o gleifion canser yng Nghymru a fyddai wedi cael eu rhoi yn flaenorol ar y llwybr canser ‘nad yw’n frys’ ar gyfer amheuaeth o ganser.

“Yn y pen draw roedd yn ymwneud â chael y claf a’r adnoddau cywir yn y lle iawn, ar yr amser iawn,” ychwanega’r Athro Harper.

Gwasanaeth Ambiwlans Llundain

Roedd gan wasanaeth Ambiwlans Llundain broblemau tebyg i broblemau GIG Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Ambiwlans Llundain yn gyfrifol am ymateb i sefyllfaoedd meddygol brys ac argyfwng yng ngwasanaeth ambiwlans prysuraf y DU.

Mae'n derbyn 1.9m o alwadau 999 ac yn ymateb i fwy na 1.2m o achosion bob blwyddyn. Mae dyrannu staff cefnogi a staff rheng flaen yn effeithlon yn hanfodol i osgoi baich diangen ar adrannau brys.

Y gwir amdani oedd nad oedd mor effeithlon ag y gallai fod nes i'r tîm ymchwil weithio'n agos gyda'r tîm Rhagolygon a Chynllunio Gwasanaeth Ambiwlans Llundain.

“Astudiodd pennaeth y tîm Dadansoddeg ei PhD gyda ni, a dyna wnaeth arwain at ddatblygu'r berthynas hon,” meddai'r Athro Harper. “Mae gwasanaethau ambiwlans yn rheolaidd yn casglu data manwl ar bob galwad 999, gan gynnwys amser a lleoliadau'r digwyddiadau. Gan ddefnyddio data fel hyn, gallwn greu rhagolygon geo-ofodol cywir o'r galw mwyaf i'r Gwasanaeth Ambiwlans.”

Eglura'r Athro Harper ymhellach: “Yn y bôn, rydym yn defnyddio dulliau dadansoddol ar y symiau mawr o ddata i geisio gwneud synnwyr ohono a rhoi gwell dealltwriaeth i'r gwasanaeth ambiwlans o'r mathau o alwadau sy'n dod i mewn, o ble maen nhw'n dod, a phryd y gellid eu disgwyl.

“Gyda dealltwriaeth fanwl fel hyn, mae modd trefnu'r rota neu'r shifftiau'n fwy call er mwyn adleoli'n weithredol staff a cherbydau ambiwlans yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn ogystal â gwneud penderfyniadau strategol gwell ar gapasiti a'r dull delfrydol o ddyrannu staff a cherbydau i safleoedd ambiwlans er mwyn lleihau amseroedd aros am ambiwlans i gleifion, a gwella deilliannau i gleifion a chyfraddau goroesi.”

Drwy fodelu, roedd y tîm yn gallu defnyddio'r data i helpu gwasanaeth Ambiwlans Llundain ddatblygu swyddfa ragolygon, sy'n rhagweld gofynion adnoddau mor bell ag 14 diwrnod ymlaen llaw. Roedd hyn yn galluogi penderfyniadau call a rhagweithiol o ran staffio.

Yn ariannol, roedd y tîm yn gallu helpu i arbed adnoddau hanfodol. Yn flaenorol, roedd trafodaethau contract blynyddol ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Llundain, yn costio oddeutu £370m, yn seiliedig ar amcangyfrifon heb eu cadarnhau a chyfartaleddau galw blaenorol.

Drwy weithio gyda ni, llwyddodd tîm Cyllid a Chynllunio Gwasanaeth Ambiwlans Llundain i wella rhagolygon y flwyddyn ariannol. Roedd yn caniatáu i gynllunio gweithredol ddigwydd yn llawer pellach ymlaen llaw, gan argymell hyblygrwydd ar gyfer gofynion tymhorol. Roedd hefyd yn caniatáu i'r Gwasanaeth gytuno ar gontractau nad oeddent yn bwyta i mewn i gyllidebau yn ddiangen.

Elfen hollbwysig ym marn yr Athro Harper oedd “gwneud defnydd mwy effeithiol o wariant asiantaeth”. Bu i ragor o sicrwydd o ran galw a pherfformiad alluogi defnydd mwy effeithiol o oddeutu £10m o oramser staff y flwyddyn.

Roedd hyn yn cynnwys arbedion cyllidebol mewn cyfnodau gyda llai o alw a fyddai'n gallu cael ei ddefnyddio mewn cyfnodau mwy prysur. Yn y pen draw, roedd yn golygu darpariaeth gwasanaeth mwy teg a diogel i gleifion.

Dylunio a lansio Gwasanaeth 111 y GIG

Yn 2015, comisiynodd GIG Cymru grŵp yr Athro Harper unwaith eto, oedd bellach ag enw da am ddarparu datrysiadau i rai o hen broblemau'r GIG. Y tro hwn, gofynnwyd i'r tîm ddadansoddi data Galw Iechyd Cymru a data y tu allan o oriau, er mwyn modelu gwasanaeth 111 arfaethedig ledled Cymru.

Nod y gwasanaeth oedd cyfuno swyddogaethau'r canolfannau galw Galw Iechyd Cymru a'r gwasanaeth ffôn meddygon teulu y tu allan i oriau, a bod yn wahanol i wasanaethau 111 cenedlaethol eraill drwy gyflogi cyfran uwch o staff clinigol.

Gwerthusodd tîm y Brifysgol wahanol ffyrdd o ddarparu'r gwasanaeth newydd cymhleth a rhagfynegwyd y maint staffio delfrydol a'r sgiliau angenrheidiol i'w gefnogi.

“Unwaith eto, roedd y dasg hon yn ymwneud â deall galw a chapasiti yn well, ac optimeiddio dyluniad gwasanaethau”, meddai'r Athro Harper.

Bu i ddadansoddiad y tîm ganfod bod angen rhagor o staff nyrsio a swyddogion galwadau ar wasanaeth cyfunol effeithiol, ond bod modd defnyddio llai o feddygon teulu yn y gwasanaeth. Darparodd y dadansoddiad wybodaeth hefyd am ddyrannu adnoddau ac amcangyfrif o effaith y prosiect 111 ar ddarpariaeth gwasanaeth.

Cafodd eu hargymhellion eu gweithredu drwy lansiad peilot yn 2016 yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Phowys.

O fewn chwe mis, derbyniodd y gwasanaeth 71,853 o alwadau ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg: 404 o alwadau y dydd ar y penwythnos ac 802 o alwadau y dydd ar wyliau banc gan arwain at 1,343 yn llai o ymweliadau brys ag ysbytai a 1,291 (29%) yn llai o alwadau ambiwlans.

Trwy osgoi teithiau brys diangen, cafwyd arbedion o £642,120 dros y cyfnod monitro chwe mis. Yn seiliedig ar lwyddiant y cynlluniau peilot, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2018 y byddai’r gwasanaeth yn cael ei ehangu i holl boblogaeth Cymru.

Clustffonau yn gorffwys ar liniadur mewn canolfan alwadau
Canfu dadansoddiad y tîm fod angen mwy o staffio nyrsys a phobl sy'n trin galwadau ar wasanaeth cyfunol effeithiol ond datgelodd y gellid defnyddio llai o feddygon teulu yn y gwasanaeth.

Llywio penderfyniadau'r dyfodol

Bellach, mae'r grŵp wedi hen ennill ei blwyf o ran ei allu i helpu i wella deilliannau ac achub bywydau.

Wrth i’r Athro Harper fyfyrio ar lwyddiannau ei dîm, daw’n amlwg mai dim ond megis dechrau y mae’r daith gyda’r pandemig byd-eang parhaus yn golygu bod eu gwaith hyd yn oed yn fwy hanfodol o ran datrys problemau byw.

Er enghraifft, mae'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau wedi wynebu llawer o broblemau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yng nghyd-destun prifysgol, roedd effaith myfyrwyr yn symud o'u neuaddau preswyl prifysgol i'w cyfeiriadau cartref parhaol yn ystod pandemig COVID-19 yn broblem fawr.

Gan ddefnyddio data o wasanaeth profi COVID-19 asymptomatig y brifysgol, modelodd y tîm niferoedd heintiau eilaidd pe bai myfyrwyr yn dychwelyd adref a chreu ap ar-lein newydd i amcangyfrif heintiau eilaidd ar gyfer rhanbarth penodol, gan ystyried niferoedd lleol ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd a chyffredinolrwydd COVID-19 .

“Roedd tystiolaeth y byddai annog myfyrwyr i ddychwelyd i’w cyfeiriad cartref parhaol o breswylfeydd y brifysgol yn ystod cyfnod atal byr Cymru yn hydref 2020 yn creu mwy o risgiau nag annog myfyrwyr i aros yn agos at eu prifysgol astudio,” eglura’r Athro Harper.

“Roedd yna hefyd risgiau rhagweledig ar gyfer 1 miliwn o fyfyrwyr prifysgol o’r DU yn dychwelyd adref ar gyfer gwyliau Nadolig 2020 – i bob pwrpas yn lledaenu’r feirws i bob rhan o'r wlad eto. Roedd yn risg iechyd cyhoeddus go iawn.”

Yn y pen draw, helpodd hyn i lunio negeseuon Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr beidio â dychwelyd adref yn ystod y cyfnod atal byr a hefyd helpodd i lywio penderfyniadau yn y misoedd dilynol.

Er gwaethaf y llu o lwyddiannau a'r camau cadarnhaol a wnaed, mae'r Athro Harper yn poeni y gall fod amharodrwydd ymysg sefydliadau i wneud penderfyniadau ar sail data a modelu.

“Bellach mae gennym lu o ddata - ond nid yw'n cael ei ddefnyddio'n ddeallus bob amser fel bod modd taflu golau ar bethau nad ydynt yn gweithio mor dda ag y gallent yn y gwasanaeth iechyd. Mae defnyddio data a modelu yn hanfodol i addasu gwasanaethau'n effeithiol a rhoi'r newidiadau angenrheidiol ar waith i ddarparu gofal rhagorol i gleifion.

“Yr allwedd yw parodrwydd i addasu a newid. Rwy’n obeithiol, wrth i fwy o rannau o’r GIG weld y canlyniadau diriaethol sy'n deillio o fodelu, y mwyaf y byddwn yn gweld newid i’r dull hwn.”

Pobl

Yr Athro Paul Harper

Yr Athro Paul Harper

Deputy Head of School, Professor of Operational Research

Email
harper@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6841