Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r llu o resi o dai teras ar strydoedd Port Talbot yn olygfa adnabyddus, sy’n cael eu hailadrodd mewn cymunedau ledled Cymru a sawl rhan arall o’r DU. Wedi’u hadeiladu yn y ganrif ddiwethaf, gall eu deiliaid presennol weithiau gael trafferth gyda chostau eu gwresogi.

Yn 2018, cafodd tua 12% o gartrefi yng Nghymru eu hystyried mewn tlodi tanwydd – pan nad yw aelwyd yn gallu cynhesu ei gartref yn ddigonol oherwydd incwm isel, costau ynni uchel, ac effeithlonrwydd ynni gwael. Gall tlodi tanwydd arwain at lefelau uchel o salwch, biliau tanwydd costus a chael effaith negyddol ar newid hinsawdd.

Mae angen cymorth ariannol wedi’i dargedu ar gyfer pobl sy’n byw yn y cartrefi hynny – ond ar gyllidebau cyfyngedig, sut mae modd dod o hyd i’r rhai mwyaf mewn angen?

Wrth wynebu’r her, datblygodd tîm o Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) y Brifysgol dan arweiniad Dr Simon Lannon, Dr Jo Patterson a’r Athro Phil Jones system fapio unigryw i sefydlu, am y tro cyntaf, lle byddai mesurau arbed ynni wedi'u targedu, megis ôl-ffitio inswleiddio, yn sicrhau’r uchafswm posibl o ran lleihau’r defnydd o ynni gwastraff.

‘Y strydoedd yw ein labordy’

Rhan o’r broblem oedd nodi’r ardaloedd tai y mae angen cymorth arnynt fwyaf i sicrhau bod adnoddau a mesurau a gynlluniwyd i wella inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni yn cael yr effaith fwyaf.

“Mae hwn yn faes ymchwil sydd wedi fy niddori ers amser maith,” meddai Dr Lannon, y bu ei arbenigedd mewn mapio yn allweddol i ddatblygiad yr offeryn.

“Mae fy nghydweithwyr a minnau wedi bod yn edrych ar gynaliadwyedd tai ers y 1990au gyda dull cyfannol, dinesig a rhanbarthol. Mae adnabod aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd am gymorth yn heriol erioed, ac mae angen gwybodaeth leol ac arolygon ffisegol costus. Dim ond hyn a hyn y gall cyllidebau ei wneud. Roedd angen dull i ddatrys y broblem hon.”

Ychwanegodd Dr Lannon: “Mae’r strydoedd i bob pwrpas wedi bod yn labordy fy ngyrfa academaidd i gyd. Roedd bod allan yn y gymuned, siarad â phobl am effaith tlodi tanwydd, cerdded i fyny ac i lawr strydoedd i ddeall maint y broblem, yn tanlinellu pa mor frys oedd yr angen i fynd i’r afael â’r amddifadedd a oedd yn bodoli yn fy labordy – Cymoedd De Cymru.”

Y dull cychwynnol

Er mwyn asesu effaith gwella perfformiad ynni’r stoc dai bresennol, datblygodd y tîm offeryn Rhagfynegi Ynni a’r Amgylchedd (EEP).

Mae’r offeryn hwn yn rhagweld ac yn gwerthuso perfformiad ynni tai presennol i dargedu aneffeithlonrwydd ynni a nodi mesurau arbed ynni. Mae’r offeryn yn seiliedig ar system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) sy’n cynnwys gwybodaeth am holl dai awdurdodau lleol.

Defnyddiwyd y dull cyntaf yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot drwy gyfuno mapiau’r Arolwg Ordnans ag arolygon gyrru heibio a oedd yn canfod ffactorau ffisegol 55,000 o gartrefi.

Yna defnyddiwyd mapiau OS hanesyddol i bennu oedran bras y preswylfeydd hyn. Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad, er bod y dull yn effeithiol o ran adnabod llawer o nodweddion aelwydydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, roedd y broses gasglu data dwys oedd ei hangen er mwyn asesu’n weledol y stoc adeiladau yn ffactor oedd yn cyfyngu ar gyflwyno’r peth yn ehangach, gan ysgogi arloesedd ymhellach i wella prosesau casglu data.

Dyna pam pan gafodd y dull gweithredu ei gyflwyno yng Nghaerdydd, mireiniodd y tîm ei ddull drwy ddefnyddio data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Cynhyrchodd hyn set ddata fwy manwl a oedd yn caniatáu cyfrifo canlyniadau ar gyfer cymdogaethau unigol sy'n cynnwys tua 120 o aelwydydd.

Drwy ddefnyddio’r dull gwell hwn i werthuso cartrefi, sylweddolodd y tîm eu bod yn dod o hyd i dlodi tanwydd a oedd wedi cael ei anwybyddu o’r blaen.

Roedd y model lefel cymdogaeth yn goresgyn yr hyn y mae’r tîm yn cyfeirio ato fel ‘cyfyngiadau agregu’ lle mae aelwydydd bregus ger aelwydydd mwy cefnog yn cael eu cuddio.

“Nid oedd llawer o aelwydydd a nodwyd gennym wedi cael eu cysylltu o’r blaen,” meddai Dr Lannon. “Drwy fireinio ein teclyn, roeddem yn gallu nodi tai na fyddent yn cael cymorth yn draddodiadol.

“Roedd pobl yn synnu eu bod yn cael eu cysylltu. Roedd y dull unigryw yn ein galluogi i fapio effeithlonrwydd ynni, neu ddiffyg ynni. Mewn ardaloedd cyfoethog a ganfyddir yn draddodiadol, mae ardaloedd clir o dlodi tanwydd yn cael eu cuddio.”

Drwy asesu ardaloedd mawr, fel awdurdodau lleol fel system gyfan, gellid defnyddio’r setiau data i gysylltu rhwng data tai a data iechyd, gan wella’r gallu i nodi rhanbarthau sy’n profi tlodi tanwydd ymhellach.

Arbed arian a gwaredu tlodi tanwydd

Mae’r tîm wedi gallu dangos a chyflawni arbedion costau mawr.

Mae Cymru Gynnes yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sy’n darparu mesurau effeithlonrwydd ynni i gymunedau bregus ac yn gweithredu ledled Cymru ac (fel Gorllewin Cynnes) yn Ne-orllewin Lloegr.

Gan ddefnyddio’r offeryn, helpodd y tîm Cymru Gynnes i ddatblygu FRESH – system fapio newydd ar gyfer adnabod cartrefi sydd mewn perygl o dlodi tanwydd, gan ddefnyddio'r gronynnedd uchel a’r dulliau casglu data effeithlon a wnaed yn sgil ymchwil y Brifysgol.

Roedd FRESH yn cynnig ‘sylw’ ar y cymunedau sydd fwyaf tebygol o fod yn dioddef o dlodi tanwydd a salwch sy’n gysylltiedig ag oerfel, gan alluogi blaenoriaethu adnoddau a gwybodaeth feintiol ddibynadwy am effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn.

Dangosodd peilot yn 2014 y gall FRESH dynnu sylw at grwpiau sydd â risg uchel o dlodi tanwydd nad oedd wedi eu hadnabod o’r blaen gan ddulliau presennol, ac felly gallai helpu awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector i wneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael.

O ganlyniad, yn 2015, cefnogodd Wales and West Utilities Cymru Gynnes i gynhyrchu mapiau FRESH ar gyfer chwe awdurdod lleol: Caerdydd, Ceredigion, Cernyw, Sir y Fflint, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf.

Drwy nodi’r rhai sydd fwyaf angen cymorth, llwyddodd Cymru Gynnes i sicrhau arbediad uniongyrchol cyfartalog o £668 y flwyddyn ar gyfer pob cartref a gefnogir.

Ym mis Awst 2021, defnyddiwyd FRESH i dargedu a chynorthwyo tua 3,000 o gartrefi bregus ledled Gogledd Cymru, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Chernyw, ac mae wedi arbed £3.0m i bobl a oedd yn ei chael hi’n anodd talu biliau ynni o’r blaen

Dywedodd Dr Lannon, “Wrth gyfrifo’r buddsoddiad a ddychwelwyd, canfu Wales and West Utilities fod budd ariannol a chymdeithasol o £12 am bob £1 a wariwyd.

“Gyda llwyddiant FRESH, cadarnhaodd Wales and West Utilities eu bod yn bwriadu buddsoddi i barhau â’r prosiect, gan ragweld manteision ariannol a chymdeithasol sylweddol.”

Y dyfodol

Er bod llwyddiant yr offeryn yn amlwg, dywed Dr Lannon fod “mwy o waith i’w wneud o hyd” gan fynnu, “y cam nesaf i ni yw cymryd golwg ehangach ar beth yw cartref mewn gwirionedd” a chymhwyso'r dull hwn ymhellach i’r sector rhentu preifat.

“Mae angen newid gwirioneddol yn y dull polisi. Wrth gwrs, y prif ffocws yw datgarboneiddio, ond dylai hefyd ymwneud â sut rydym yn ystyried cartrefi.

“Nid yw’n golygu bod gan bob tŷ dapiau aur – mae'n ymwneud â hygyrchedd a chreu tai y gellir eu defnyddio sy'n ymateb i anghenion cymhleth pobl wrth i fywyd newid.

“Mae angen i hyn gyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a bod yn rhan ohonynt,” ychwanegodd.

Mae Dr Lannon yn gwybod o’i brofiad o gerdded o amgylch ei labordy – strydoedd De Cymru – fod pobl yn amddiffyn yr holl gartrefi sy’n ffurfio eu cymunedau.

Dywed, “Nid dim ond gwneud cartrefi newydd sy’n effeithlon o ran ynni ar gyfer targedau cynaliadwyedd yn y blynyddoedd i ddod yn unig yw hyn, mae hefyd yn golygu sicrhau bod y tai hŷn, mewn cymunedau lle mae pobl wedi rhoi gwreiddiau cryf i lawr, yn cael eu gwella ac yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau allweddol

Cyhoeddiadau