Ewch i’r prif gynnwys

“Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld sut mae barn pobl ifanc wedi trawsnewid canllawiau ar gyfer polisïau ac ymarfer. Dyna sy'n fy annog i barhau i wneud yr hyn rwy'n ei wneud.”

Mae ymchwil Dr Sophie Hallett am gamfanteisio'n rhywiol ar blant wedi newid y ffordd y mae gweithwyr cymdeithasol a llunwyr polisïau yn ystyried y math cymhleth hwn o gam-drin ac yn mynd i'r afael ag ef.

Dim ond yn 2009 y cafodd y term camfanteisio'n rhywiol ar blant, neu CSE, ei gyflwyno'n ffurfiol ym maes polisïau diogelu'r DU. Mae’n derm cymharol newydd o hyd, ond roedd diffyg ymwybyddiaeth o’i ystyr, beth ellir ei wneud i amddiffyn plant rhag niwed, a pha gymorth y dylid ei gynnig i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

Fe wnaeth ymchwil Dr Sophie Hallett lenwi’r bwlch hwn mewn gwybodaeth hwn drwy edrych ar beth yw camfanteisio’n rhywiol ar blant, a'r ffordd orau o ymyrryd a'i atal.

Dechreuodd ei hymchwil arloesol yn rhan o draethawd hir ei gradd Meistr.

“Roedd y term 'cam-fanteisio'n rhywiol ar blant' yn un oedd newydd gael ei gyflwyno ym maes polisïau bryd hynny. Puteindra plant oedd y term ar ei gyfer o hyd,” meddai Dr Hallett. “Ar y dechrau, cafodd ei esbonio imi fel oedolion oedd yn ddieithriaid yn meithrin perthynas amhriodol â phlant, ond dechreuais ddarllen rhagor amdano a sylweddolais bod bwlch gwirioneddol mewn gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch sut mae pobl ifanc yn cael eu cam-drin fel hyn. Roedd hefyd yn gwbl amlwg nad oedd llais y bobl ifanc i’w glywed yn unrhyw beth a ddarllenais.”

PhD Dr Hallett a’r ymchwil a ddilynodd a ysgogodd y trafodaethau o bwys ynghylch i ba raddau y mae’r rhai sy’n gyfrifol am ofalu am bobl ifanc yn mynd i'r afael yn effeithiol ag achosion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant. Yn hanfodol, roedd yn un o'r astudiaethau ymchwil academaidd cyntaf o'i fath i geisio barn pobl ifanc sy'n profi achosion o’r fath, yn ogystal ag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

“Mae hawliau plant yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi,” meddai. “Ac mae gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael eu cynrychioli ym meysydd polisïau ac ymarfer, yn ogystal â’u gofal, yn rhan o hynny. Fe wnes i sylweddoli nad oedd y rhai oedd wedi cael eu cam-drin yn rhan o bolisïau, ac nad oedden nhw’n rhan o'r drafodaeth. Roeddwn eisiau newid hynny.”

Gweithio gyda phobl ifanc

Ar gyfer ei PhD, fe dreuliodd Dr Hallett 18 mis yn gweithio’n agos gyda gwasanaeth arbenigol ym maes camfanteisio’n rhywiol ar blant, un diwrnod yr wythnos.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfweliadau ag ystod o weithwyr proffesiynol o feysydd polisïau, gwaith ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol a chyfiawnder ieuenctid. Yn bwysig iawn, cafwyd cyfweliadau hefyd â phobl ifanc oedd wedi cael profiadau o gamfanteisio rhywiol.

Mae Dr Hallett yn rhannu’r ystyriaethau sylweddol a roddwyd i’r foeseg oedd yn gysylltiedig ag ymgymryd â'r ymchwil hon.

“Heb os, mae hwn yn bwnc y mae pobl yn ei chael yn anodd siarad amdano, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan gamfanteisio rhywiol,” meddai. “Cyn i mi wneud yr ymchwil, roedd rhai academyddion a rhai o'r sector gofal wedi bod yn dadlau bod cyfweld â phobl ifanc at ddibenion ymchwil, ynddo’i hun yn cynnwys elfen o gamfanteisio.

“Ond fy nadl i erioed oedd, beth ydyn ni'n ei ddweud wrth bobl ifanc am eu profiadau os ydyn ni'n anfodlon clywed beth sydd ganddyn nhw i'w ddweud? Beth ydym ni'n ei ddweud am bobl ifanc os nad ydym yn credu bod eu safbwyntiau yn hanfodol i bolisïau sy'n llunio eu bywydau nhw a phobl eraill? Roeddwn i am gael barn ystod o bobl sy'n gysylltiedig â gofalu am bobl ifanc — doeddwn i ddim yn credu ei bod yn iawn eithrio pobl ifanc o'r sgyrsiau hyn.

“Fe wnes i feddwl gryn dipyn am sut y gallwn lunio'r astudiaeth a chasglu eu barn mewn ffordd oedd yn gwneud yn siŵr mai nhw oedd yn rheoli'r hyn roedden nhw'n ei rannu ac nad oedden nhw’n cael unrhyw niwed. Dyna pam roedd hi'n bwysig iawn treulio llawer o amser yn y gwasanaeth, fel bod y bobl ifanc yn gallu gweld pwy oeddwn i a mod i ar gael i ateb unrhyw gwestiynau oedd ganddyn nhw. Yn hytrach na rhoi pwysau arnyn nhw, dwi'n gadael iddyn nhw ddod ata i a chael gwybod am fy ngwaith.

“Ar ôl llawer o drafodaethau cychwynnol, ac ar yr amod bod y bobl ifanc yn hapus i gymryd rhan yn fy ymchwil, byddem yn bwrw ymlaen. Ond roedd ganddyn nhw rwydd hynt i roi’r gorau i gymryd rhan yn eu cyfweliad ar unrhyw adeg.”

Casglu barn i helpu eraill

Defnyddiodd Dr Hallett ystod o ddulliau creadigol i geisio barn y bobl ifanc. Gan ddefnyddio straeon a chardiau geiriau, fe'u gwahoddwyd i roi eu barn ar yr hyn yr oeddent yn meddwl oedd yn bwysig neu'n digwydd, a pham.

“Roeddwn yn glir iawn wrth esbonio pwrpas yr ymchwil, pa gwestiynau y byddwn i'n eu gofyn iddyn nhw - yn ogystal â beth fyddwn i ddim yn ei ofyn iddyn nhw. Doeddwn i ddim yno i’w hannog i drafod profiadau trawmatig - oni bai eu bod nhw eisiau rhannu hynny wrth fynegi eu barn. Roeddwn yn gofyn am eu barn ynghylch pam mae plant yn cael eu cam-drin a’u safbwyntiau ynghylch y system ofal — beth sydd angen i ni ei wybod a beth sy'n bwysig am yr hyn a allai helpu.”

“Roeddwn hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig mynd yn ôl atyn nhw wedyn i ddangos sut roedd eu cyfweliadau wedi cael eu defnyddio. Roedd yn bwysig eu bod yn teimlo ei fod yn brofiad cadarnhaol.”

Fe wnaeth hi gyfaddef: “Roedd yn anodd gwrando ar rai o straeon y bobl ifanc. Dywedodd un wrtha i, ‘does neb erioed wedi gwneud unrhyw beth i fy helpu.’

“Un o'r bobl gyntaf i mi ei gyfweld oedd mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc, ac roedd hi wedi cael ei chamfanteisio'n rhywiol ers iddi fod yn 12 oed. Rwy'n cofio hi'n edrych arna i yn dweud, ‘ydy hyn yn mynd i helpu pobl ifanc eraill?’. Rwy’n teimlo cyfrifoldeb i anrhydeddu'r cais hwnnw. Mae'r bobl ifanc hyn wedi dweud pethau wrtha i am eu bod nhw eisiau helpu i atal yr achosion hyn o gam-drin rhag digwydd.”

Datgelu cymhlethdodau newydd

Mae Dr Hallett yn cyfaddef ei bod yn bryderus am ei chanfyddiadau cychwynnol ar ôl iddi ddadansoddi'r themâu cyffredin a ddaeth i’r amlwg yn y cyfweliadau.

“Yr hyn wnaeth ddod i’r amlwg i mi yn gyflym iawn oedd bod profiadau'r bobl ifanc o gamfanteisio rhywiol yn wahanol iawn i'r ffordd yr oedd yn cael ei gyflwyno mewn adroddiadau,” meddai.

Daeth ymchwil Dr Hallett i'r casgliad bod camfanteisio’n rhywiol ar blant yn broblem llawer ehangach a mwy cymhleth na'r hyn a dybiwyd yn wreiddiol. Dangosodd hefyd ei fod yn wahanol i fathau eraill o gam-drin plant yn rhywiol am ei fod yn cynnwys elfen o gyfnewid, gan gynnwys pan fydd plentyn yn cyfnewid rhyw am rywbeth diriaethol, fel arian neu le diogel i aros. Gall hefyd gynnwys diwallu anghenion emosiynol plentyn mewn rhyw ffordd.

“Nid oedd yr elfen gyfnewid yn cael ei chydnabod o gwbl - y ffaith bod y rhai sy'n manteisio ar bobl ifanc yn diwallu angen sydd heb ei ddiwallu. Buan iawn y daeth i’r amlwg bod pobl ifanc yn fwy agored i rywun gamfanteisio arnyn nhw os nad oedd eu lles yn cael ei ystyried. Cyfeiriodd yr holl bobl ifanc at y rhai oedd wedi’u cam-drin fel pobl oedd yn 'manteisio' ar eu hangen neu eu hamgylchiadau. Yr hyn oedd yn peri pryder oedd y ffordd yr oedden nhw’n siarad am y bobl oedd fod i'w cefnogi a gofalu amdanyn nhw mewn ffyrdd tebyg i'r rhai oedd yn eu cam-drin.

“Mi fydd un dyfyniad gan berson ifanc yn aros yn y cof ac yn cynrychioli’r hyn oedd yr holl bobl ifanc yn ei ddweud. Dywedon nhw nad yw camfanteisio’n rhywiol ar blant yn rhywbeth sy’n digwydd ar hap a damwain. Mae'n digwydd am nad yw pobl ifanc yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw'. Nid oes ganddyn nhw unrhyw gefnogaeth, neu maen nhw’n teimlo'n anweledig i ofalwyr, teulu a phobl eraill o'u cwmpas.

“Fe ddangosodd fy ngwaith hefyd fod y math hwn o gam-drin wedi dod yn gyfystyr â ‘meithrin perthynas amhriodol’, sy'n disgrifio plant a phobl ifanc fel dioddefwyr goddefol oedolion rheibus.

“Ond mae’r ddealltwriaeth hon yn peri goblygiadau difrifol o ran sut mae awdurdodau'n ymateb i gam-fanteisio ar blant. Mae'r realiti yn llawer mwy cymhleth na hynny, a gall gor-symleiddio’r broblem fel hyn i un senario olygu nad yw llais rhai pobl ifanc sydd wedi cael profiad gwahanol i’r un a ddisgrifir yn y model meithrin perthynas amhriodol, yn cael ei glywed. Gall camfanteisio ddigwydd mewn sawl sefyllfa wahanol. Mae'r duedd i gysylltu camfanteisio’n rhywiol ar blant â meithrin perthynas amhriodol yn unig, yn golygu bod achosion yn cael eu colli.

“Roedd llawer o bobl ifanc yn gwybod eu bod yn cael eu cam-drin ond roedd y sawl oedd yn cam-drin hefyd yn diwallu rhyw fath o angen a oedd yn bodoli eisoes. Nid yw camdrinwyr bob amser yn oedolion. Gallen nhw fod yn gyfoedion ac nid ydyn nhw bob amser yn rhywun nad ydyn nhw’n ei adnabod, oherwydd gallen nhw fod yn aelod o'r teulu.

“Fe wnaeth rhai sôn am 'gysur anghyffyrddus' - er enghraifft, bydden nhw’n dweud, o leiaf roedd ganddyn nhw dŷ, neu roedd rhywun yn diwallu dibyniaeth ar gyffuriau, neu roedd rhywun yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn weithiau. Roedd yn aml yn ymwneud â chamfanteisio ar bobl ifanc wrth iddyn nhw ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â'u bywydau anodd h.y. doedd ganddyn nhw ddim dewis gan nad oedd neb arall yno ar eu cyfer. Y pwynt hwn yr oedd pob un ohonyn nhw am i bobl ei ddeall.”

Fe gafodd ymchwil gychwynnol Dr Hallett ei hehangu ymhellach yn 2019 yn ei hadroddiad 'Keeping Safe', yr astudiaeth fanwl gyntaf o'i math yn y DU. Roedd yn olrhain carfan o bobl ifanc dros gyfnod o ddegawd — o'r flwyddyn y cafodd camfanteisio’n rhywiol ar blant ei gydnabod am y tro cyntaf — a manylodd ar y ffactorau cyffredin sy'n gwneud pobl ifanc yn fwy tebygol o fod yn agored i gamfanteisio. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg llety sefydlog, profiad blaenorol o gam-drin a diffyg rhwydwaith o gyfoedion cefnogol.

Mae’n esbonio: “Yn aml, mae cryn bwyslais wedi bod ar ymddygiadau peryglus pobl ifanc fel ffordd o'u cadw'n ddiogel. Gallai arwain at gamau fel atal y person ifanc rhag gweld ffrindiau, neu gymryd ei ffôn oddi wrtho - ond byddai'n arwain at wneud iddo deimlo ei fod yn cael ei gosbi.

“Roedd y bwriad y tu ôl i’r camau hyn yn dda h.y. mae gofalwyr yn ceisio amddiffyn y person ifanc rhag niwed. Fodd bynnag, drwy roi’r pwyslais ar beth oedd y bobl ifanc yn ei wneud yn ‘anghywir’, nid oedd yn ymateb mewn unrhyw ffordd i’w hanghenion gofal a chymorth nac yn cynnal eu diogelwch yn y tymor hir. A hyd nes y byddwch yn ystyried hynny, ni allwch fynd i'r afael â'r broblem. Os ydych yn tynnu’r person ifanc i ffwrdd o’r sefyllfa, bydd yr holl anghenion hynny a'r teimladau hynny eu bod yn anweledig yn eu dilyn.”

Dr Sophie Hallett Keeping Safe
Mae ymchwil Dr Hallett yn dod i'r casgliad bod deall yr hyn sy'n bwysig i berson ifanc yn hollbwysig er mwyn mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant.

Newid arferion a gwella cefnogaeth

Mae Dr Hallett wedi mynd ati i gyfleu'r canfyddiadau hyn i gynulleidfa fawr — gan weithio gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia i'w haddysgu am gamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Yn dilyn ei hadolygiad o bolisïau yng Nghymru yn 2017, fe gadeiriodd Dr Hallett Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru a grëwyd i baratoi diffiniad, canllawiau a phrotocol asesu newydd ar gyfer camfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae'r diffiniad newydd yn cyfeirio'n uniongyrchol at brif ganfyddiadau ei hymchwil ac, yn wahanol i'r diffiniad blaenorol, mae'n nodi bod ‘cyfnewid’ yn elfen hanfodol yn y math hwn o gam-drin.

Dywedodd gweithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â chamau ymyrryd â chamfanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru, sydd eu hunain yn wedi goroesi achos o gamfanteisio: “Mae gwaith Dr Hallett wedi bod yn allweddol o ran gwella’r problemau systemig sy'n deillio o feio’r dioddefwr a’r arferion a’r polisïau sydd wedi effeithio ar fframweithiau camfanteisio'n rhywiol ar blant yn y gorffennol, a hynny er mwyn ati i feithrin dealltwriaeth a rhoi gofal priodol i ddioddefwyr ... mae'r gwaith hwn yn golygu popeth i mi; mae wedi cydnabod fy mhrofiad i a phrofiadau fy nghyfoedion oedd yn mynd trwy'r un peth. Ar ben hynny, mae wedi cefnogi arferion oedd yn fwy priodol ac effeithiol i'r ymyrraeth, a heb fod yn niweidiol i berson ifanc.”

Drwy lenwi’r bylchau mewn gwybodaeth am gamfanteisio’n rhywiol ar blant, fe wnaeth ei gwaith lywio camau atal effeithiol yn ogystal ag ymyrraeth gynnar. Nododd y gofalwr maeth Dan Oliver fod gwell dealltwriaeth o faterion camfanteisio’n rhywiol ar blant “yn ein rhoi mewn sefyllfa lawer cryfach... i roi'r lefel gywir o gefnogaeth ar waith i bobl ifanc, yn enwedig merched yn eu harddegau yr ydym yn gofalu amdanyn nhw yn rhan o’n rôl fel gofalwyr maeth. Oni bai am yr ymyriad hwn, byddai nifer o bobl ifanc wedi 'llithro drwy'r rhwyd fel petai, ac ni fydden nhw wedi cael y camau diogelu, y cynlluniau diogelwch a'r gefnogaeth ychwanegol oedd eu hangen arnyn nhw”.

Fe gomisiynwyd Dr Hallett yn 2020 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o fodiwlau hyfforddi ar ddiogelu pobl ifanc. Nododd ymarferwyr amlasiantaethol a gofalwyr maeth newidiadau er gwell yr oeddent yn bwriadu eu gwneud i'w hymarfer ar ôl yr hyfforddiant. Dywedodd un o’r rhai a gymerodd ran: “Byddaf yn ailystyried fy adroddiadau a'm cyfweliadau er mwyn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r plentyn” a dywedodd un arall, “Ni fyddaf yn gadael i gyfarfod gael ei gynnal oni bai bod modd sicrhau bod llais y plentyn i’w glywed yn yr ystafell.”

Mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau eraill ym maes diogelu a gorfodi'r gyfraith i gyfathrebu ei hymchwil, gan arwain at newidiadau mewn arferion, camau atal gwell a mwy o gefnogaeth i bobl ifanc.

Ychwanegodd Dr Hallett: “Y pŵer sy’n deillio o glywed yr hyn y mae pobl ifanc wedi'i ddweud - eu straeon eu hunain yn cael eu hadrodd o'u safbwyntiau nhw - yw'r hyn sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn gyda gweithwyr proffesiynol.”

alt text
Canfyddiadau ymchwil Dr Hallett yw sail y ffilm fer hon i bobl ifanc.

Pobl

Dr Sophie Hallett

Dr Sophie Hallett

Research Associate

Email
halletts1@caerdydd.ac.uk
Telephone
(029) 208 76909

Newyddion cysylltiedig

Gwefan newydd i gynorthwyo “newid mewn diwylliant” ym maes diogelu plant

Mae pobl ifanc sydd mewn perygl o niwed, camfanteisio’n rhywiol a cham-drin wedi cyfrannu at adnodd newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr.

Illustration of a young girl crying

Adroddiad yn dod i’r casgliad bod angen mwy o gefnogaeth ar blant sydd mewn perygl o gamfanteisio rhywiol

Mae astudiaeth gan Dr Hallett wedi dod i’r casgliad bod plant sy’n cael eu symud yn rheolaidd o amgylch y system gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o fod yn agored i gamfanteisio rhywiol.

Silhouette of young person sat on the floor

Nid yw pob plentyn sy'n dioddef o gamfanteisio rhywiol yn cael ei baratoi mewn perthynas amhriodol

Yn ei llyfr, dywed Dr Hallett fod y duedd i gysylltu camfanteisio â meithrin perthynas amhriodol yn golygu bod rhai achosion yn cael eu colli.

Cyhoeddiadau

Partneriaid