Ewch i’r prif gynnwys

Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin mewn dynion yn y Deyrnas Unedig. Yn flaenorol, roedd rhai cleifion yn derbyn triniaeth ddiangen a oedd yn lleihau ansawdd bywyd, tra bod y driniaeth yn aneffeithiol i eraill.

Dyddiau cynnar

Mae’n ddeng mlynedd ar hugain ers i’r Athro Malcolm Mason OBE ddod i Gaerdydd i gynnal ei dreial clinigol cyntaf ar ganser y prostad.

Cafodd yr Athro Mason ei hyfforddiant oncoleg yn Ysbyty Brenhinol Marsden yn Llundain, lle cafodd ei fentora gan y diweddar Athro Syr Michael Peckham. Ar y pryd fe wnaeth yr uned ymchwil i ganser y ceilliau a lymffoma.

Eglura’r Athro Mason, “Gwnaeth yr Athro Syr Michael Peckham gyfraniadau mawr at ymchwil yn y meysydd hyn yn ystod fy amser yn hyfforddi. Ymddeolodd, ond fe gafodd ei olynu gan yr Athro Alan Horwich, a ddaeth hefyd yn ffrind da iawn i mi, ac rwy’n ddyledus iawn iddo.

Ehangodd yr uned i gynnwys canserau wrolegol eraill fel canser y bledren a chanser y prostad. Pan ddes i’n ôl i’r uned fel darlithydd, roedd rhaglen fawr iawn yno mewn ymchwil i ganser y prostad ac fe daniodd hynny fy niddordeb.”

Y treial cyntaf

Cyrhaeddodd yr Athro Mason Gaerdydd ym 1992, gyda’i syniad i gynnal treial clinigol mewn canser y prostad.

Roedd y treial cyntaf hwn yn ddechrau perthynas gydol gyrfa gyda’r hyn a ddaeth wedyn yn uned treialon clinigol y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).

Defnyddiodd y treial gyffur o'r enw Clodronate, a oedd ar y pryd y math mwyaf pwerus oedd ar gael o grŵp o gyffuriau o'r enw bisphosphonates. Meddai, “Y bwriad oedd targedu’r asgwrn. Mae canser y prostad yn defnyddio celloedd normal yr asgwrn i ymosod ar asgwrn normal a'i ddinistrio. Yn lle targedu’r canser, roedd y strategaeth hon yn targedu targed y canser. Pe bai'n gweithio, efallai y byddai wedi gwneud yr asgwrn yn fwy ymwrthol i'r canser a gallai fod wedi bod o fudd i gleifion.

Fe wnaethom drin dros 500 o ddynion â chanser y prostad. Dyma un o’r astudiaethau mwyaf yn y byd ar ganser y prostad. Fe wnaethom neilltuo dynion ar hap i gael clodronate neu i gael plasebo ac yna gweld beth fyddai’n digwydd. Pan ddadansoddwyd y canlyniadau flynyddoedd yn ddiweddarach, canfuom - er mawr siom - nad oedd Clodronate yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl.

Daeth asiant bisphosphonate mwy newydd ychydig yn ddiweddarach o'r enw asid zoledronic, sy'n llawer mwy pwerus na'r un oedd gennym ni. Ac fe gafodd y cyffur hwnnw ei ddefnyddio wedyn mewn treial clinigol diweddarach o’r enw STAMPEDE i ofyn yr un cwestiwn eto ond gan ddefnyddio cyffur mwy pwerus.”

Mae ein dealltwriaeth a’n hymwybyddiaeth o ganser y prostad wedi newid yn aruthrol ers i’r Athro Mason gynnal ei dreial clinigol cyntaf, ac felly hefyd driniaethau a goroesiad diolch yn rhannol i’r treialon clinigol dilynol y mae’r Athro Mason a’i gydweithwyr wedi gweithio arnynt.

Delwedd chwyddedig o adenocarcinoma chwarren y prostad, sy'n fath o ganser.

Astudiaethau allweddol

MRC PR07 - Treial canser y prostad sy’n datblygu’n lleol - therapi hormonau ynghyd â chymharu radiotherapi a therapi hormonau

Edrychodd yr astudiaeth hon ar driniaeth ar gyfer canser y prostad sy’n datblygu’n lleol. Hyd at yr adeg honno, roedd yn cael ei drin yn aml â therapi hormonau yn unig, yr un driniaeth ag ar gyfer canser metastatig y prostad.

Recriwtiwyd cyfranogwyr y treial ar hap. Cafodd rhai dynion â chanser y prostad sy’n datblygu’n lleol therapi hormonau safonol yn unig, a chafodd y lleill radiotherapi yn ogystal â therapi hormonau. Dangosodd hyn fod ychwanegu radiotherapi at therapi hormonau safonol yn fwy na haneru’r risg o farw i gleifion â chanser y prostad sydd wedi datblygu’n lleol.

Dros gyfnod o saith mlynedd roedd nifer y marwolaethau o ganlyniad i ganser y prostad yn 9% ar gyfer cleifion sy’n derbyn radiotherapi a therapi hormonau safonol, o gymharu â 19% ar gyfer cleifion sy’n derbyn y therapi hormonau safonol yn unig.

“Rwy’n meddwl mai dyma’r tro cyntaf i ni allu dangos bod rhoi triniaeth leol i’r chwarren brostad wedi gwneud gwahaniaeth i rai dynion ac wedi eu helpu i fyw’n hirach. Roedd hynny’n newid gwirioneddol yn ein dealltwriaeth ac ar ôl hynny roeddem yn gallu rhoi triniaeth mewn ffordd mwy penodol,” eglura’r Athro Mason.

Ymgorfforwyd y canfyddiadau hyn yng Nghanllawiau NICE, o dan y teitl Canser y prostad: diagnosis a rheolaeth, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2014 (diweddarwyd yn 2019 a 2021) yn nodi y dylai clinigwyr: “Gynnig cyfuniad o radiotherapi radical a therapi amddifadu o androgen i ddynion sydd â chanser lleol risg canolig a risg uchel, yn hytrach na radiotherapi radical neu therapi amddifadu o androgen yn unig.” [2014 newydd]

STAMPEDE – treial canser metastatig y prostad

I nifer o ddynion â chanser y prostad, y symptom cyntaf y maent yn ei gael yw poen difrifol, fel arfer yn y cefn, ond weithiau mewn mannau eraill. Mae hyn oherwydd bod y canser wedi lledu (gan achosi metastasis, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel canser eilaidd) i'r esgyrn, heb achosi unrhyw symptomau o gwbl cyn i hyn ddigwydd.

“Edrychodd STAMPEDE ar y rhai a oedd yn y categori hwn pan gawson nhw sylw meddygol am y tro cyntaf. Roedd y cancr wedi lledu eisoes gyda thiwmorau eilaidd, yn aml yn yr esgyrn ond mewn mannau eraill hefyd. Fe wnaethom hefyd gynnwys y rhai nad oedd ganddynt diwmorau eilaidd, ond a oedd â nodweddion risg hynod o uchel yn eu chwarren brostad,” dywedodd yr Athro Mason.

Roedd yr opsiynau ar gyfer trin camau datblygedig canser y prostad yn gyfyngedig ac roedd y prognosis yn wael. Gall therapi hormonau achosi rhai ymatebion dramatig, ond dros dro yw'r rhain yn gyffredinol. Profodd STAMPEDE, treial aml-fraich, aml-gam brofi effeithiau ychwanegu docetaxel, celecoxib, asid zoledronic neu abiraterone at therapi hormonau safonol.

Eglura’r Athro Mason, “Y peth cyntaf a oedd yn ymddangos fel petai’n gwneud lles oedd cemotherapi gyda chyffur o’r enw docetaxel, (a oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio i drin dynion â chlefyd mwy datblygedig yn ddiweddarach yn eu clefyd), ac fe wnaeth wahaniaeth mawr yn y cyd-destun hwnnw, ond, mae STAMPEDE yn dangos y gallwch chi gyfuno triniaethau eraill gyda therapi hormonau ar gyfer cleifion yn llawer cynharach yn eu taith canser.”

Estynnwyd goroesiad canolrifol ar gyfer y grŵp cyfan, wedi'i drin â docetaxel, yn ogystal â chyffuriau eraill fel abiraterone (tua 4,000 o ddynion) o 71 mis i 81 mis ar ôl diagnosis.

Mabwysiadwyd canlyniadau treial STAMPEDE mewn canllawiau ymarfer clinigol yn y DU, Ewrop a Gogledd America. Yn y rhannau hyn o'r byd, nid yw safon y gofal bellach yn therapi hormonau confensiynol yn unig ar gyfer cleifion â chanser datblygedig y prostad.

Cafwyd canlyniadau croes i ddau hap-dreial arall o docetaxel (GETUG 15 a CHAARTED), ond argyhoeddodd treial STAMPEDE y gymuned feddygol o fudd docetaxel oherwydd ei faint sylweddol, gyda thystiolaeth o gynnydd mewn goroesiad canolrifol pan roddwyd docetaxel i gleifion ar ben y driniaeth safonol.

ProtecT

“Roedd trydydd treial yr oeddwn i’n ymwneud yn arbennig ag ef o’r enw ProtecT, sef treial a oedd yn edrych ar driniaeth dynion sydd â chanser y brostad cyfnod cynnar iawn, iawn, oherwydd roedd cwestiynau enfawr ynghylch y ffordd orau o drin hyn,” dywed yr Athro Mason.

ProtecT oedd y treial clinigol byd-eang mwyaf ar gyfer trin canser lleoledig y prostad. Yr Athro Howard Kynaston oedd Prif Ymchwilydd ac arweinydd canolfan ProtecT Caerdydd (un o naw yn y DU) a dyluniodd ac arweiniodd yr Athro Mason gangen radiotherapi y treial.

Perfformiodd a chyhoeddodd yr Athro Mason a'i gydweithiwr, yr Athro John Staffurth, y sicrwydd ansawdd radiotherapi. Dangosodd y canfyddiadau nad oedd triniaeth bob amser yn fwy buddiol na monitro ar gyfer clefydau lleol. Lle barnwyd bod angen triniaeth, roedd radiotherapi yr un mor effeithiol â llawdriniaeth.

Dangosodd canlyniadau hefyd fod y risg o farw o ganser y prostad yn isel iawn (tua 1%) ar ôl deng mlynedd, beth bynnag fo'r driniaeth (llawdriniaeth, radiotherapi, neu fonitro gweithredol). Mae'r risg o ddatblygiad clefyd yn uwch o gryn dipyn gyda monitro gweithredol, ond i'r rhan fwyaf o gleifion mae osgoi triniaeth yn dod â'r fantais o fod yn rhydd o sgil-effeithiau triniaeth.

Rhoi gobaith i bobl

Dywed yr Athro Mason, “Mae unrhyw dreial clinigol yn waith tîm. Weithiau roeddwn i'n chwarae rhan flaenllaw mewn treialon weithiau rydw i wedi chwarae rhan gefnogol, ond rydw i wedi cael cydweithwyr gwych drwy'r amser. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan o dreialon sydd wedi gwneud sawl newid mewn arferion meddygol byd-eang.”

“Rydym yn gweld gwelliannau cyson mewn goroesiad mewn llawer o sefyllfaoedd yn dod allan o'n treialon. Mae’n dda gwybod bod pethau’n symud ymlaen. Rwy’n meddwl bod hynny’n rhoi gobaith i bobl sydd â chanser y prostad, a hefyd i arbenigwyr sy’n gweithio yn y maes hwnnw. Maen nhw'n gwybod bod yna bethau'n digwydd i wella triniaeth a diagnosis a fydd yn eu helpu i ddarparu mwy o gefnogaeth i'w cleifion,” ychwanega.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau Pwysig

Newyddion cysylltiedig

cancer Ymchwil

Canlyniadau treial pwysig yn y DU ar gyfer trin canser y prostad

Yn ôl yr astudiaeth fwyaf o'i math, mae monitro canser y prostad yr un mor effeithiol â chael llawdriniaeth a radiotherapi o ran goroesi ar ôl 10 mlynedd.

Professor Malcom Mason Newyddion

Yr Athro Malcolm Mason wedi derbyn OBE

Dyfarnwyd OBE i’r Athro Malcolm Mason am ei wasanaeth i'r GIG ac ymchwil canser.

Partners